Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  22C228 – Ysgol Gynradd, Llanddona

12.2  34C694 – Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

12.3  43C77G/VAR/ENF – Gerlan,Pontrhydybont

12.4  45C432C – Graig Fawr, Dwyran

Cofnodion:

12.1 22C228 Cais llawn i newid defnydd adeilad o hen ysgol gynradd i

neuadd gymunedol, dymchwel rhan o'r adeilad presennol ynghyd â

gwaith altro ac ymestyn yn Ysgol Gynradd, Llanddona

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd Lewis Davies y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Aelodau Lleol yn cefnogi'r cais ond nododd nad yw cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol yn dod i ben tan 16 Mai, 2016.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais a rhoi grym i weithredu i’r Swyddog ar ôl i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben ar 16 Mai, 2016.

 

12.2 34C694 Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Wedi datgan diddordeb sy'n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y

Cynghorydd T Victor Hughes y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r

penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad ar dir y Cyngor.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Davies, un o gefnogwyr y cais, i annerch y cyfarfod.

 

Dywedodd Mr Davies fod y cais wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad a bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn hefyd wedi cefnogi'r cais mewn egwyddor trwy roi arian grant tuag at y prosiect. Bydd y prosiect yn adfywio'r gymuned ar gyfer pobl ifanc fel y gallant fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn y Parc Chwaraeon Trefol. Mae Pwyllgor y Parc Chwaraeon Trefol wedi cymryd drosodd y Parc Sglefrio blaenorol a leolwyd ar y safle hwn. Roedd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau cyffuriau ac alcohol wedi bod yn bryder i drigolion lleol yn yr hen barc sglefrio. Dywedodd Mr Davies fod Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol wedi bod mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch y problemau hyn a bwriedir gosod system teledu cylch cyfyng ar y safle fel y gellir monitro drwy wahanol dechnolegau TG.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, sef Aelod Lleol a Chadeirydd y Parc Chwaraeon Trefol, y byddai'n datgan diddordeb sy'n rhagfarnu ac yn gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar y cais hwn ar ôl iddo ddweud gair fel aelod lleol. Roedd y Cynghorydd Rees yn dymuno diolch i Mr. Davies am y weledigaeth hon i ddatblygu Parc Chwaraeon Trefol o’r fath ar safle’r hen barc sglefrio yn Llangefni. Roedd o'r farn y bydd y Parc Chwaraeon yn gaffaeliad mawr i Dref Llangefni a’r Ynys gyfan. Gadawodd y Cynghorydd Dylan Rees y cyfarfod wedi hynny.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Lleol hefyd yn dymuno

llongyfarch Swyddogion y Parc Chwaraeon Trefol am y weledigaeth o greu cyfleuster o'r fath yn Llangefni. Nododd y bydd Cyngor Tref Llangefni yn warantwr i'r datblygiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod un llythyr yn gwrthwynebu wedi dod i law o eiddo cyfagos ers cwblhau'r adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd y llythyr yn datgan bod problemau cyson gydag ymddygiad

gwrthgymdeithasol, cyffuriau ac alcohol pan oedd y parc sglefrio ar y safle. Dywedodd ei fod yn falch bod Mr Peter Davies wedi datgan y bydd rheolaeth y safle yn cael ei fonitro’n llym.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod Cyngor Tref

Llangefni wedi ymateb erbyn hyn trwy ddweud bod y datblygiad hwn yn nes at eiddo cyfagos na’r parc sglefrio blaenorol. Nododd fod y wal ddringo a'r gampfa yn nes at yr eiddo cyfagos. Nododd y Swyddog, er ei fod yn derbyn bod y datblygiad yn agosach i’r eiddo cyfagos, fod y byffer a ddarperir i'r gerddi cefn yn ddigonol ac nad yw’r parc yn cael effaith ar fwynderau.

 

Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn gwbl gefnogol i'r cais a chynigiodd y

Cynghorydd Raymond Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y

Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 43C77G / VAR / ENF Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (06)

tirlunio, coed a llwyni, (07) gwrych yng nghefn lleiniau 1-3, (15)

gwarchod y tai a gymeradwywyd rhag sŵn ynghyd â dileu amod (05) tocio neu ddymchwel coed neu wrychoedd oddi ar ganiatâd cynllunio cyfeirnod 43C77D yn Gerlan, Pontrhydybont

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod

Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Trevor Ll. Hughes, Aelod Lleol, fod coed wedi cael eu torri yn groes i amodau cyn-cychwyn mewn perthynas â'r cais hwn.  Nododd fod caniatâd cynllunio wedi'i roi i godi 3 annedd ar y safle; roedd un annedd wedi ei chodi eisoes ac roedd y ddwy arall wrthi’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Dywedodd fod pryderon wedi eu mynegi’n lleol mewn perthynas â'r cais hwn a dywedodd ei fod yn anfodlon gyda cheisiadau ôl-weithredol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd yn gofyn am gael gwared ar un amod ac y byddai gofynion gweddill yr amodau’n cael eu hamrywio i alluogi cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol yn dilyn dechrau'r gwaith. Mae'r datblygiad ar hyn o bryd yn torri amodau 05, 06, 07 a 15 ym mhenderfyniad cynllunio 43C77D. Dywedodd y Swyddog bod rhaid i'r ymgeisydd arwyddo cytundeb gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol i dderbyn amodau i sicrhau nad yw coed / gwrychoedd ar y safle neu ffiniau'r safle yn cael eu tocio, eu brigdorri neu eu dymchwel heb ganiatâd; bod y safle’n cael ei dirweddu a bod coed a llwyni’n cael eu plannu a bod y gwrych ar ymyl y safle yn cael ei ddiogelu. Dywedodd ymhellach y bydd angen cytuno amodau i blannu coed i amddiffyn y tai rhag sŵn o ganolfan y Llu Awyr Brenhinol yn y Fali. Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol o'r farn y dylid cyflwyno’r wybodaeth berthnasol cyn pen 4 mis i ddyddiad cymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies bod yn rhaid cydymffurfio ag amodau cynllunio a’i fod yn bryderus bod ceisiadau cynllunio ôl-weithredol yn parhau i gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Dywedodd Y Cynghorydd Jeff Evans, Aelod Lleol, ei fod ef hefyd yn pryderu am y ceisiadau cynllunio ôl-weithredol a gyflwynir i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Rhaid i ddatblygwyr gydymffurfio ag amodau sydd wedi eu gosod. Fodd bynnag, nododd y bydd yr ymgeisydd yn cael 4 mis i gwrdd â’r amodau a osodwyd a phlannu coed / gwrychoedd newydd ar y safle hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y

Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Lewis Davies rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 45C432C Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i

gerbydau ar dir yn Graig Fawr, Dwyran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Is-gadeirydd, sydd hefyd yn Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod yr Is-gadeirydd wedi gofyn am i'r cais gael ei ohirio gan nad ymgynghorwyd yn ddigonol gyda’r gymuned mewn perthynas â'r cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Is-gadeirydd wedi anfon e-bost i'r adran yn datgan nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd salwch ac roedd yn poeni na fyddai pryderon y gymuned leol yn cael eu lleisio yn y cyfarfod. Roedd hi wedi cysylltu â’r adran ymhellach yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried ymweld â'r safle oherwydd materion llifogydd, priffyrdd a dylunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle.

Dogfennau ategol: