Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  31C170D – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

7.2  42C127B/RUR – Fferm Ty Fry, Rhoscefnhir

 

7.3  45C432C – Graig Fawr, Dwyran

 

 

Cofnodion:

7.1       31C170D – Cais llawn i Godi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

Adroddwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais wedi’i leoli tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll yn y Cynllun Datblygu, er bod y safle’n ffinio â’r ffin hon, felly cafodd y cais ei hysbysebu fel un sy’n tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu. Mae dau o’r Aelodau Lleol wedi gofyn hefyd i’r Pwyllgor wneud y penderfyniad ar y cais. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais a digwyddodd yr ymweliad safle ar 18 Mai, 2016.

 

Anerchodd Mr Gwynne E. Owen, Siaradwr Cyhoeddus, y Pwyllgor fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais a chyfeiriodd at ffotograffau a oedd wedi’u cynnwys fel rhan o’r sylwadau a wnaed ar y cais, sy’n dangos y tagfeydd o ran parcio a thraffig yn ardal Ffordd Penmynydd – mae’r problemau hyn yn arbennig o ddrwg ar y penwythnos sy’n codi materion ynghylch diogelwch y briffordd. Mae’r ffordd yn beryglus a gallai ddweud hynny o’i brofiad ei hun. Mae’r diffyg gwelededd ar gornel y gyffordd yn beryglus. Mae palmant o gornel y bont mewn fersiwn flaenorol o’r cais wedi cael ei dynnu allan erbyn hyn. Cyfeiriodd Mr Owen at y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru sy’n egluro cyfrifoldeb y Cyngor mewn perthynas â diogelwch y ffordd, ac nid yw adroddiad y Swyddog yn cyfeirio ati. Pryder arall i breswylwyr yr eiddo cyfagos yw llifogydd; mae preswylwyr yr eiddo ar Lôn Dyfnia wedi profi dŵr yn dod i mewn i’w cartrefi ddwywaith. Cynigir ffos gerrig yn y cais diweddaraf ond nid yw’r cais yn sôn ai’r datblygwyr ynteu’r trethdalwr fyddai’n gyfrifol am ei chynnal a’i chadw.

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan Mr Owen ynghylch perchnogaeth y tir a fydd yn cynnwys y ffos gerrig a fwriedir. Dywedodd Mr Gwynne Owen ei fod ar ddeall, ond nid oedd yn hollol sicr, fod y caeau tu hwnt yn perthyn i berchennog y datblygiad a bod hynny hefyd yn destun pryder yn nhermau datblygiad pellach posib yn y dyfodol. Dywedodd Mr Owen ei bod yn briodol cymryd ymagwedd holistaidd yn y cyswllt hwn gan gofio’r posibilrwydd o ddatblygiadau ychwanegol yn yr ardal a’i effeithiau.

 

Siaradodd Mr Rhys Davies, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd ei bod yn bwysig nodi y bydd y mynediad i’r datblygiad yn digwydd oddi ar Lôn Dyfnia ac nid o Lôn Penmynydd. Fel rhan o’r cais, cynigir gwneud gwelliannau i Lôn Penmynydd gan gynnwys adeiladu troedffordd, er nad yw’r datblygwr yn ystyried bod hyn yn angenrheidiol gan nad yw’r mynediad i’r datblygiad o Lôn Penmynydd. Mae’r datblygwr wedi cyfaddawdu ar hyn. Mae wedi treulio dros flwyddyn yn llunio’r cais ac mae’r cais wedi bod yn destun trafodaethau helaeth gyda swyddogion ynglŷn â materion priffyrdd a draenio, sydd wedi arwain at welliannau pendant ar gost y datblygwr. Mae’r cynllun yn cynnig ffos gerrig yn y cae i’r gogledd o’r safle datblygu lle bydd yno danc i ddelio â dŵr wyneb o’r datblygiad. Gan gymryd y safle datblygu yn ei gyfanrwydd mae’r dwysedd yn llai na 30 uned yr hectar sy’n dderbyniol o safbwynt polisi ac o gymharu â datblygiadau gerllaw. Bydd yn cynnig cymysgedd o anheddau i bobl Llanfair ac mae rhestr aros am anheddau yno yn enwedig ymysg pobl ifanc.

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Rhys Davies ynglŷn â manylion y cynllun draenio ar gyfer y datblygiad, ac yn benodol gosodiad y tanc dal dŵr arfaethedig a’i gapasiti i fedru gwasanaethu’r 17 annedd newydd petai llifogydd.

 

Dywedodd Mr Rhys Davies fod cynllun draenio manwl wedi’i gynnwys fel rhan o’r cais. Bydd dŵr yn y pen draw yn draenio i gylfat i’r A55. I ddechrau, bydd yn draenio i gae tua’r de o Hen Lôn Dyfnia lle bydd y tanc wedi’i leoli. Petai’r tanc dal dŵr yn mynd yn llawn h.y. mewn tywydd eithafol, gallai gerddi’r anheddau arfaethedig ddal dŵr at ddyfnder o hyd at ½ troedfedd – a hynny pan fo popeth arall wedi methu. Nid oes capasiti yn y cylfat sy’n llifo tuag at Lanfair, felly dyma pam y defnyddir y cylfat sy’n llifo yng nghyfeiriad yr A55. Bydd gan y tanc gapasiti o fil o litrau. Mae ymgynghorydd yn darparu cyngor mewn perthynas â materion draenio. Ymhellach i hyn, mae Swyddogion yr Awdurdod wedi mynnu bod y cynllun draenio yn ddigonol ac mae’r materion wedi cael eu trafod yn drylwyr ac yn fanwl.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Alun Mummery a Jim Evans oll annerch y Pwyllgor fel Aelodau Lleol a daethant â’r ystyriaethau a ganlyn i sylw’r Pwyllgor:

 

           Mai diben rheolau cynllunio yw cynorthwyo gyda chynllunio cymunedau felly’r egwyddor sylfaenol yw lles y gymuned ac nid lles yr unigolyn neu’r datblygwr. Nid yw dull y datblygwr yn yr achos hwn wedi cyd-fynd â’r egwyddor hon, a’r teimlad yw ei fod wedi gwneud y newidiadau i’r cynllun dim ond er mwyn cael caniatâd ac mai hynny oedd y cymhelliant pennaf.

           Mae apêl wedi’i chyflwyno cyn yr adeg y byddai’r Pwyllgor yn ystyried y cais. Ni ddylai’r Pwyllgor deimlo dan bwysau i gymeradwyo’r cais.

           Y prif faterion yw anesmwythyd y preswylwyr; y goblygiadau i ddiogelwch y ffordd, pryderon am ddraenio a dwysedd y datblygiad arfaethedig. Mae’r ffyrdd yn Lôn Penmynydd a Lôn Dyfnia yn broblemus ac felly hefyd y gyffordd; mae’r droedffordd newydd arfaethedig yn fyrrach ac yn gulach; nid oes sicrwydd y bydd y cynlluniau draenio diweddaraf yn llwyddiannus ac mae’n anodd cael unrhyw ffydd ynddynt. Mae adroddiad y Swyddog yn nodi y byddai disgwyl i’r safle gynnwys 12 ac nid 17 o unedau a byddai modd gwrthod y cais yn llwyr ar sail y dwysedd.

           Mae Cadnant Planning yn dwyn sylw ym mharagraff 1.11 at y ffaith y bydd y trefniant yn cael ei ddisgrifio i ddarpar brynwyr fel eu bod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o lifogydd bas yn eu gerddi petai hi’n glawio’n eithafol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r prif faterion gyda’r cais hwn yw egwyddor y datblygiad, pa mor dderbyniol yw’r cynllun cyfredol i godi 17 o anheddau o ran dyluniad a threfniant ynghyd â’r materion priffyrdd a draenio. Mae egwyddor y datblygiad wedi cael ei dderbyn gan fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i gymeradwyo’n flaenorol i godi 11 o anheddau ac mae safle’r cais oddi mewn i ffin ddiffiniedig y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Mae safle’r cais hefyd wedi’i amgylchynu gan dai eraill yn yr ardal. Er bod y cynnig am 17 uned sy’n uwch na’r 12 uned y byddai disgwyl i’r safle eu cynnwys, nid yw’n annhebyg i ddatblygiadau eraill yn y cyffiniau. Yn fwy na hyn, nid oes gan y Cyngor gyflenwad gwerth 5 mlynedd o dir ar gyfer tai ar hyn o bryd; bydd y cynllun dan sylw yn cyfrannu tuag at gwrdd â’r rheidrwydd hwn a bydd hefyd yn darparu tai fforddiadwy y mae gwir angen amdanynt mewn lleoliad cynaliadwy ar ymyl un o’r pentrefi mwyaf ar yr ynys. Mae’r swyddogion yn fodlon, er gwaethaf y ffaith fod y cynllun yn ceisio cyflawni nifer uwch na’r disgwyl o unedau, ei fod ar ôl pwyso a mesur yn dderbyniol. Mae pryderon a fynegwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â’r cynnig fel ei cyflwynwyd yn wreiddiol wedi cael eu datrys bellach yn y cynllun diwygiedig, ac mae’r swyddogion priffyrdd yn fodlon gyda hynny. Mae trafodaethau helaeth wedi digwydd ynghylch materion draenio ac mae Swyddogion Draenio’r Cyngor erbyn hyn yn tybio bod y ddarpariaeth ddraenio yn dderbyniol. Mae cryn waith wedi digwydd o ran edrych dros y cynlluniau ac mae’r swyddogion proffesiynol arbenigol wedi rhoi sicrwydd eu bod yn dderbyniol. Mae’r adroddiad yn dyfynnu Polisi Cynllunio Cymru fel un o’r prif ddogfennau cynllunio y cyfeiriwyd ati wrth ystyried y cais. Dywedodd y Swyddog fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl ar sail diffyg penderfyniad ac o ganlyniad i newidiadau deddfwriaethol bydd gweithdrefn awdurdodaeth ddeuol yn para am gyfnod o 4 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gall yr awdurdod cynllunio dal wneud penderfyniad ar y cais. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr Awdurdod dal o fewn y ffenestr amser hon. Mae’r Swyddogion yn argymell yn gryf bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Petai’r cais yn mynd ymlaen i apêl, mae’r Swyddogion o’r farn y byddai’n anodd cyflwyno dadl yn erbyn y datblygiad o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Byddai’n rhaid i’r Pwyllgor seilio ei benderfyniad i wrthod ar ddadl gynllunio gadarn. Yn yr un modd, petai’r Pwyllgor yn gwrthod y cais am resymau dwysedd, byddai’n rhaid iddo ddangos y byddai dwysedd y datblygiad wirioneddol yn arwain at niwed.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd fod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt Priffyrdd a bod y cynllun hefyd yn cynnig gwelliannau sylweddol i’r rhwydwaith priffyrdd. Nid yw’r droedffordd yn mynd mor bell ag ydoedd yn wreiddiol oherwydd ni fydd y defnydd o’r safle yn ymestyn i Ffordd Penmynydd. Ystyrir bod y trefniadau mynediad yn dderbyniol hefyd.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar lafar gan y Siaradwyr Cyhoeddus a’r Aelodau Lleol, nododd y Pwyllgor yr hyn a ganlyn:

 

           Bod ganddo bryderon am effaith y datblygiad o ran dwysedd. Nododd y Pwyllgor fod y bwriad i gael 17 uned yn uwch na nifer yr unedau a ddisgwylir ar gyfer y safle ac roedd o’r farn fod y ffigwr yn ormodol.

           Roedd ganddo bryderon hefyd am effeithiau’r cynllun o ran draenio a pha mor ddigonol yw’r ddarpariaeth ddraenio fel y’i cynigir. Teimlai’r Pwyllgor ei bod yn annerbyniol bod posibilrwydd y byddai’r gerddi dan ddŵr at ddyfnder o ½ troedfedd ar adegau o law eithafol ac roedd yn bryderus am y risg o lifogydd ac effeithiau hynny ar yr eiddo a’u preswylwyr, ynghyd â’r goblygiadau ehangach o fod wedi cymeradwyo’r cynnig.

           Nododd y Pwyllgor fod diffyg eglurder ynghylch capasiti’r tanc dal dŵr ac nid oedd wedi cael digon o sicrwydd fod y trefniadau draenio arfaethedig yn briodol neu’n ddigonol ar gyfer graddfa’r datblygiad a’r tir lle y byddai wedi’i leoli. O ganlyniad nid oedd y Pwyllgor wedi’i ddarbwyllo fod y materion draenio wedi derbyn sylw priodol.

           Roedd gan y Pwyllgor bryderon pellach ynglŷn ag effeithiau’r cynnig ar y briffordd a’r traffig ychwanegol a fyddai’n deillio o’r 17 o dai, ac effeithiau hynny ar ddiogelwch y ffordd mewn ardal lle mae yno eisoes broblemau parcio a thraffig.

 

Ymhellach, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y swyddogion cynllunio, wrth lunio eu casgliadau a’u hargymhelliad o ganiatáu wedi cael eu harwain gan yr arbenigwyr proffesiynol yn adeiniau Priffyrdd a Draenio’r Cyngor ac mae’r swyddogion o’r ddwy adain honno wedi cadarnhau bod y trefniadau’n dderbyniol o berspectif Priffyrdd a Draenio. Daethpwyd i’r casgliadau hynny dros gyfnod o nifer o fisoedd o drafodaethau. Dylai’r Pwyllgor, os yw’n ystyried gwrthod y cais ar sail y pryderon a fynegwyd fod yn glir nad yw’r swyddogion proffesiynol yn cydsynio â’r farn honno. 

 

Nid oedd unrhyw gefnogaeth i’r cais yn y Pwyllgor ac ni chafwyd cynnig i’w gymeradwyo. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd naw o’r Aelodau hynny a oedd yn bresennol i wrthod y cais. Y rhesymau a roddwyd dros ei wrthod oedd dwysedd y datblygiad, y perygl o lifogydd a’r ffaith nad oedd y Pwyllgor wedi ei berswadio gan y wybodaeth a gyflwynwyd yn dweud bod y trefniadau draenio fel y cawsant eu cynnig, yn addas.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’r cais, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn cael ei ailgyflwyno i’r cyfarfod y mis nesaf. Petai’r ymgeisydd yn symud ymlaen gyda’r apêl yn y cyfamser, yna mae’n bosib y bydd amserlen yr apêl yn golygu y bydd angen i’r Awdurdod ymateb a byddai’r ymateb hwnnw yn seiliedig ar y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod hwn.  Fodd bynnag, petai’r amserlen yn caniatáu, mae’n bosib y bydd modd i’r Pwyllgor ailystyried y cais yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf dan y trefniadau “amser i feddwl”.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoddi i’r Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd am ganiatáu’r cais)

 

7.2       42C127B/RUR – Cais llawn i godi annedd amaethyddol ynghydŷ â gosod gwaith trin preifat ar dir yn Fferm Tŷ Fry, Rhoscefnhir

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ar adeg ei gyflwyno, roedd person a chanddo gysylltiadau agos gyda’r ymgeisydd yn berthynas agos i “swyddog perthnasol” fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 Cyfansoddiad y Cyngor. Nid yw’r swyddog perthnasol bellach yn gweithio i’r Cyngor. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion y paragraff hwnnw. Yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf, 2015, penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn ymweld â’r safle ac fe wnaed hynny ar 19 Awst, 2015. Gohiriwyd y drafodaeth ar y cais yn dilyn hynny er mwyn derbyn a rhoi sylw i gyflwyniadau pellach.

 

Soniodd Kate Barker, Siaradwraig Gyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cais, am faint a graddfa’r datblygiad arfaethedig, anghysonderau a chamgymeriadau mewn perthynas â’r cais, ei effaith ar yr ardal o gwmpas tŷ rhestredig Tŷ Fry, a’r ffaith fod lleoliadau eraill, mwy addas ar gael ar y fferm fel ei rhesymau dros wrthod y cais. Cyfeiriodd hefyd at anaddasrwydd yr annedd arfaethedig fel cartref cychwynnol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan Ms Barker pam yr oedd hi o’r farn y dylai’r ymgeisydd gael cartref cyntaf. Dywedodd Ms Barker fod Aelod Lleol wedi cefnogi’r cais fel cartref cyntaf ac, yn ei barn hi, nid oedd hwnnw’n ddisgrifiad cywir o’r cynnig fel y’i cyflwynwyd. 

 

Siaradodd Mr Gwilym Jones, Siaradwr Cyhoeddus o blaid y cynnig fel un a oedd yn hanfodol i ddiogelu dyfodol y fferm fel menter deuluol y mae ef yn helpu i’w rhedeg mewn partneriaeth â’i rieni. Mae pris y tai yn y pentref yn rhy ddrud iddo ac mae’n hanfodol ei fod ef a’i wraig yn byw ar y fferm er mwyn gofalu am, a goruchwylio’r stoc.  Mae’r cais yn cydymffurfio gyda’r polisïau cenedlaethol a lleol sy’n berthnasol i anheddau o’r fath ac mae ymgynghorydd amaethyddol annibynnol y Cyngor wedi derbyn bod ei hangen. Bydd amod ar yr annedd yn cyfyngu ar bwy all fyw ynddi ac yn cysylltu ei defnydd yn uniongyrchol â’r fferm. Ystyriwyd nifer o safleoedd ar gyfer lleoli’r cais ond roedd yr opsiynau’n gyfyngedig oherwydd bod y parc a’r gerddi yn Tŷ Fry mor agos. Credir bod safle’r cais fel y caiff ei gynnig yn addas oherwydd mae 400m i ffwrdd o dŷ rhestredig Tŷ Fry, ac nid oes modd ei weld o’r adeilad ei hun. Mae’r cynnig wedi cael ei ystyried yn ofalus, mae’n rhesymol a byddai’n darparu cartref ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymreig.

Holodd y Pwyllgor Mr Jones ynghylch maint a lleoliad yr annedd arfaethedig. Cadarnhaodd Mr Jones bod y cynnig yn y lleoliad mwyaf addas sydd ar gael a’i fod o ran maint yn 180 metr sgwâr sy’n cydymffurfio gyda’r canllawiau ar gyfer anheddau amaethyddol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod gwrthwynebiad pellach wedi dod i law ers ysgrifennu’r adroddiad yn dwyn sylw at y ffaith bod annedd ddeulawr ar gael ar blot cyfagos sy’n golygu nad oes angen y datblygiad arfaethedig ac, yn ogystal, bod plotiau mwy addas ar gael ar y fferm. Dywedodd y Swyddog mai’r materion allweddol yw a ydyw menter wledig yn cyfiawnhau’r llety preswyl a gynigir yng nghyd-destun polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol ac a fyddai’n niweidio’r ardal o gwmpas yr Adeilad Rhestredig a’r Parc a’r Ardd Hanesyddol. Mae polisïau cenedlaethol a lleol yn nodi dan ba amgylchiadau yr ystyrir bod modd caniatáu cynigion o’r math yma ac maent wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ysgrifenedig. Yn NCT 6, nodir yr eithriadau y gellir eu gwneud i’r rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiadau preswyl yn y cefn gwlad gan gynnwys achosion lle mae rheolaeth busnes fferm am gael ei drosglwyddo i berson sy’n fengach na’r gweithiwr gwreiddiol. Mae ymgynghorydd amaethyddol annibynnol y Cyngor wedi derbyn bod y meini prawf eithrio a nodir yn NCT 6 wedi cael eu bodloni yn yr achos hwn a bod y cynnig hefyd yn cwrdd â’r profion ariannol a’r profion cynllunio arferol eraill sydd wedi eu cynnwys yn NCT 6 a bod y fenter yn ariannol gadarn a bod y fynedfa a lleoliad a dyluniad yr annedd fenter arfaethedig yn dderbyniol. O ran yr effaith ar adeilad rhestredig a gerddi hanesyddol Tŷ Fry, mae’r Swyddog o’r farn bod yr annedd arfaethedig yn ddigon pell ac wedi ei wahanu’n ffisegol oddi wrth yr adeilad rhestredig gyda hynny’n sicrhau bod yr adeilad a’r ardal o’u gwmpas yn cael eu diogelu.  Er y bydd yr annedd arfaethedig yn nodwedd yn y dirwedd, ni fydd yn cael mwy o effaith na’r adeiladau eraill sydd yn y cyffiniau’n barod a dros amser, byddai’n ymdoddi i’r ardal o’i gwmpas heb ymddangos yn nodwedd anghydnaws neu or-amlwg a fyddai’n achosi niwed annerbyniol.   

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o’r amod meddiannu a’i hyd a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod yr adeilad arfaethedig ar gael i gwrdd â’r angen ffermio cyhyd ag y bydd fferm Tŷ Fry’n parhau i fod yn hyfyw fel menter wledig. Cadarnhaodd y Swyddog bod yr amodau’n mynd ochr yn ochr â’r caniatâd cynllunio ac y byddant yn berthnasol iddo am byth neu hyd oni fydd y Cyngor yn derbyn cais i ollwng yr amod penodol hwnnw. Ymhellach, cynigir cytundeb adran 106 yn yr achos hwn a fydd hefyd yn amod am oes oni bai y derbynnir cais i’w ollwng neu ei ddiwygio. Pe ceid cais o’r fath yn y dyfodol, yna byddai’n rhaid ailystyried y sefyllfa bryd hynny.

 

Roedd mwyafrif Aelodau’r Pwyllgor o blaid y cynnig fel un a oedd yn hanfodol i lwyddiant parhaus y fenter ffermio ac fel un a oedd yn dderbyniol o ran ei ddyluniad a’i leoliad. Cynigiodd y Cynghorydd W. T. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Roedd y Cynghorwyr Victor Hughes a Lewis Davies, er yn cefnogi busnes fferm a’i ffyniant parhaus, ag amheuon ynghylch lleoliad yr annedd arfaethedig oherwydd ei fod yn y cefn gwlad agored ac o’r herwydd, yn agored i’w ddehongli fel nodwedd ynysig ac anghydnaws yn y dirwedd a hynny’n groes i ddarpariaethau Polisi 53. Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at adroddiadau a gyhoeddwyd gan ymgynghorwyr amaethyddol annibynnol Reading a roes gyngor i’r Awdurdod pan godwyd materion penodol mewn perthynas â’r cais. Roedd y Cynghorwyr Victor Hughes a Lewis Davies ill dau o’r farn y gellid lleoli’r cynnig mewn lleoliad gwell yn agosach at Fferm Tŷ Fry ac am y rheswm hwnnw, cynigiodd y Cynghorydd  Victor Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgynghoriad gyda’r ymgynghorwyr amaethyddol annibynnol wedi datblygu ac esblygu dros gyfnod o fisoedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, cyhoeddwyd adroddiadau lle yr oedd yr ymgynghorwyr yn gofyn cwestiynau ac yn codi pwyntiau ac roedd y Swyddogion wedi ymateb iddynt. O ran polisi, nid yw Polisi 53 yn caniatáu datblygiadau yn y cefn gwlad ac eithrio mewn amgylchiadau lle gellir dangos fod datblygiad o’r fath yn angenrheidiol i lwyddiant parhaus menter wledig. Mae swyddogion wedi asesu lleoliad y datblygiad arfaethedig ac wedi ystyried a oes opsiynau eraill ar gael ac maent yn fodlon nad oes modd cwrdd ag anghenion busnes y fferm mewn unrhyw ffordd arall. Po agosaf yw’r datblygiad at adeilad rhestredig a gerddi Tŷ Fry, mwyaf yn y byd yw’r effaith bosibl ar y nodweddion hynny.  O ran lleoliad yr annedd arfaethedig, mae’r Swyddogion yn fodlon bod cydbwysedd wedi ei sicrhau rhwng cwrdd ag anghenion y fenter wledig a sicrhau cadwraeth yr adeilad rhestredig a’r gerddi cysylltiedig.

 

Yn y bleidlais ddilynol ar y mater, cafodd y cynnig i ganiatáu’r cais ei gario.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ar yr amod y gweithredir ar ymrwymiad dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol hefyd ar yr amodau cynllunio a restrir ynddynt. 

 

7.3       45C432C – Cais llawn i godi dwy annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig Fawr, Dwyran

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Yn ei gyfarfod ar 11 Mai, 2015, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 18 Mai, 2016.

 

Dywedodd Sam Kennelley, Siaradwraig Gyhoeddus, ei bod hi a deugain o bobl eraill yn lleol yn gwrthwynebu’r cais am y rheswm nad yw’n cydweddu â’r ardal o’i gwmpas oherwydd ei faint, ei ddyluniad a’i osodiad; oherwydd ei raddfa ac effaith hynny; colli preifatrwydd ac edrych dros y byngalo gyferbyn; materion yn ymwneud â diogelwch ffyrdd; perygl o lifogydd ac oherwydd nad oes angen amlwg am y datblygiad yn lleol.

 

Siaradodd Mr Dafydd Jones, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd bod y cais wedi’i gyflwyno wedi i gais gan yr ymgeisydd am ddau set o dai pâr gael ei gymeradwyo ym mis Medi 2013, oherwydd addasrwydd y safle datblygu cyfagos fel safle mewnlenwi dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol. Rhoddwyd ystyriaeth i ddiogelwch trigolion lleol ac fel rhan o’r datblygiad, ac ar gost y datblygwr,  fe wnaed gwelliannau drwy gynnwys troedffordd newydd i gerddwyr i ffrynt y safle sy’n wynebu’n uniongyrchol ar Lôn Fain.  Bydd y fynedfa a gymeradwywyd i’r briffordd gyhoeddus yn cael ei defnyddio fel rhan o’r datblygiad newydd er mwyn gostwng nifer y mynedfeydd i gerbydau o’r safle yn uniongyrchol i Lôn Fain – ni fydd unrhyw fynedfa newydd yn cael ei darparu fel rhan o’r cais. Nid yw’r safle wedi’i leoli mewn parth llifogydd a bydd yr holl ddŵr wyneb yn cael ei ddal yn safle’r datblygiad. Mae yna nifer o fathau o dai ar hyd Lôn Fain ac nid oes unrhyw gymeriad lleol i’r anheddau yn yr ardal hon. Mae’r tai pâr fforddiadwy a godwyd yn ddiweddar ac y sonnir amdanynt uchod eisoes wedi cael eu gwerthu gyda hynny’n profi bod angen am y math yma o annedd yn yr ardal. Nid oes unrhyw resymau cynllunio dilys dros wrthod y cais.

 

Holodd y Pwyllgor Mr Jones am y dull a fabwysiadwyd gan y datblygwr ac o ystyried cynllun y safle pam nad oedd y cais ar gyfer stad, a fyddai wedi sicrhau cyfran o dai fforddiadwy. Dywedodd Mr Dafydd Jones mai’r cyngor a gafwyd oedd mai’r dull hwn oedd y ffordd orau o ran y cynnig yn bodloni gofynion mewnlenwi Polisi 50. Mae unrhyw gais am ddatblygiad pellach yn fater i’r datblygwr.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad yn ei chapasiti fel Aelod Lleol am y cais. Cadeiriodd y Cynghorydd Richard Owain Jones, Is-Gadeirydd, weddill y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith bod pryderon yn lleol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig oherwydd bod dŵr wyneb yn sefyll ar safle’r cais a’r risg o lifogydd – dioddefodd yr ardal hon lifogydd o ganlyniad i’r glaw trwm dros y Nadolig. Mae yna gwestiynau am ddigonolrwydd yr isadeiledd a’i allu i ddelio â mwy o dai. Mae’r datblygiad arfaethedig, o ran graddfa a dyluniad, yn wahanol i’r tai cyfagos ac mae Lôn Fain yn ffordd sengl, gul lle mae parcio eisoes yn broblem. Nododd y Cynghorydd Griffith, yn ei barn hi, nad oedd angen y datblygiad hwn gan fod eiddo sydd eisoes yn bodoli ar werth yn y pentref. Mae’r datblygwr yn dymuno nodi ei fod yn cyflogi pobl leol ac yn gwneud defnydd o ddeunyddiau lleol.   

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y materion cynllunio allweddol yn ymwneud â chydymffurfiaeth y cynnig â pholisi, ei effaith ar eiddo cyfagos a’r ardal gyfagos a diogelwch priffyrdd. Diffinnir Dwyran fel anheddiad rhestredig o dan Bolisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn a gan ei fod wedi’i leoli ger anheddau preswyl a gyferbyn ag eiddo preswyl, ystyrir y cais yn dderbyniol fel cais mewnlenwi o dan ddarpariaethau Polisi 50 sy’n caniatáu ceisiadau plot sengl o fewn neu ar gyrion anheddiad. Ni ystyrir y bydd y cynnig yn niweidio amwynder deiliaid yr eiddo cyfagos nac yn cael effaith niweidiol ar yr ardaloedd cyfagos nac ar ddiogelwch priffyrdd. Mewn ymateb i gwestiwn am bryderon lleol am lifogydd, dywedodd y Swyddog y gallai gadarnhau bod Adran Ddraenio’r Cyngor yn ystyried y manylion draeniad yn dderbyniol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar dderbyn manylion draeniad boddhaol mewn perthynas â’r ffos gerrig arfaethedig a’r amodau cynllunio a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

Dogfennau ategol: