12.1 11C567A – 24 Awelfryn, Amlwch
12.2 19LPA37E/CC – Bloc Cybi, Caergybi
12.3 19C845J/VAR – Holyhead Hotspurs, Caergybi
12.4 23C334 – Ty Newydd, Maenaddwyn
12.5 30C302M – Gwesty Plas Glanrafon, Benllech
12.6 39C176C – Gogarth, Ffrodd Cadnant, Porthaethwy
12.7 46C499A – Fron y Graig, Ffordd Ravenspoint , Trearddur
Cofnodion:
12.1 11C567A – Cais llawn i godi dau dŷ pâr ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger 24 Awelfryn, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Cafwyd cais gan y Cynghorydd W.T.Hughes, un o’r Aelodau Lleol, am ymweliad safle fel bod yr Aelodau yn gallu cael gwell dealltwriaeth o’r pryderon lleol mewn perthynas â pharcio a gor-ddatblygu. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Gofynnodd Mr David Rothwell, a oedd wedi’i gofrestru i annerch y Pwyllgor fel Siaradwr Cyhoeddus ar y cais hwn, a allai fanteisio ar y cyfle i wneud hynny yn y cyfarfod hwn gan ei fod wedi teithio’n benodol i’r diben hwnnw.
Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, petai Mr Rothwell yn penderfynu siarad yn y cyfarfod hwn, y byddai’n gwneud hynny unol â’r ddarpariaeth Siarad Cyhoeddus yng Nghyfansoddiad y Cyngor, sef y bydd yn ildio’r cyfle i wneud hynny pan fydd y cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Siaradodd Mr David Rothwell o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn cael ei yrru’n bennaf gan anghenion teuluol a bod y tŷ ar gyfer ei ferch a fydd yn priodi dyn ifanc o Amlwch. Byddai’r datblygiad yn ei galluogi i gael cartref am bris rhesymol. Bydd y deunyddiau ar gyfer y datblygiad yn cael eu prynu’n lleol ac yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd contractwyr Cymreig yn cael eu defnyddio. Mae gan y safle ganiatâd ar gyfer annedd sengl tair ystafell wely ac nid yw’r cais yn addasiad sylweddol o hynny o ran siâp, maint na ffurf ond y cynnig yw rhannu’r eiddo er mwyn darparu annedd i’w ferch gyda’r ail annedd i gael ei werthu am bris y farchnad. Mae dau le parcio wedi eu clustnodi ar gyfer pob eiddo sy’n bodloni polisi’r llywodraeth. Dywedodd Mr Rothwell ei fod wedi bwriadu ysgrifennu at y trigolion lleol er mwyn cadarnhau’r cynnig ac er mwyn tynnu sylw at y ffaith y byddai ar gael am sgwrs o ran lleihau’r effaith yn ystod y gwaith adeiladu gan gynnwys darparu lle parcio ar gyfer cerbydau gweithgynhyrchu.
Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
12.2 19LPA37E – Cais llawn i osod ffens ddiogelwch newydd y tu ôl i'r wal derfyn ar hyd Ffordd Ynys Lawd ym Mloc Cybi, Caergybi
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T.Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 19C845J/VAR – Cais dan Adran 73 i amrywio amod (01) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 19C845E (lleoli tŷ clwb) er mwyn caniatáu estyniad i'r cyfnod pryd gellir lleoli'r tŷ clwb yn Hotspurs Caergybi, Caergybi
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 23C334 – Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa i gerbydau a gosod tanc septig ar dir ger Tŷ Newydd, Maenaddwyn
Cyfeiriwch at eitem 11 uchod.
12.5 30C302M – Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi bloc o fflatiau (36 o fflatiau) yn ei le yng Ngwesty Plas Glanrafon, Benllech
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid ymweld â’r safle arfaethedig oherwydd y pryderon am faterion parcio ac oherwydd materion amwynder. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd ymgymryd ag ymweliad safle am y rheswm a roddwyd.
12.6 39C176C – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau i'r annedd ynghyd â dymchwel y garej a chodi garej newydd gyda fflat hunangynhwysol uwch ei phen yn y Gogarth, Ffordd Cadnant, Porthaethwy
Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gan ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, tynnodd Mr John Alwyn P.Rowlands, Swyddog Priffyrdd allan o’r cyfarfod ar gyfer y broses ystyried a phenderfynu ar y cais.
Dywedodd Mr Peter Caldicott, Siaradwr Cyhoeddus a gwrthwynebydd i’r cais, fod y prif bryderon yn ymwneud â’r tir yng Ngogarth. Mae holl ardal y dreif yn cynnwys ardal y garej arfaethedig ac mae’r allt serth islaw yn allt sgri ansefydlog sy’n sawl metr o ddyfnder gyda haen denau o goncrid a tharmac ar y top. Mae wedi methu heb fod llwythi arni o gwbl. Mae’n hanfodol bwysig bod ymchwiliad daear yn cael ei gyflawni gan awdurdod perthnasol er mwyn sefydlu cyflwr y tir a pha waith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch y safle cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu. Y canlyniad mwyaf eithafol fyddai, petai hi’n ddiwrnod glawog iawn, gallai’r tir o dan y garej symud a gallai’r tir cyfagos lithro i alwr yr allt serth i Ffordd Cadnant gan achosi canlyniadau difrifol. Dywedodd Mr Caldicott ei fod yn bryderus nad oedd y mater yn cael ei ddiogelu yn ei erbyn yn ddigonol gan y trefniadau presennol.
Dywedodd y Cynghorydd R.Meirion Jones, Aelod Lleol, ei fod wedi galw’r cais gwreiddiol i mewn am nifer o wahanol resymau. Mae’r ceisiadau cynllunio wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gan Gogarth hanes o ran materion cynllunio. Adeiladwyd Gogarth y tu allan i’r llinell adeiladu ac fe’i ystyriwyd gan arolygydd 1992 fel rhywbeth a oedd eisoes yn amlwg. Mae’r CDU na chafodd ei fabwysiadu yn ei osod y tu mewn i’r ardal ddatblygu. Mae’r ardal hon yn un o bwysigrwydd amgylcheddol sydd angen ei thrin mewn modd sensitif. Mae pedair ffenestr dormer i’w cwestiynu; bydd mynediad cerbydau ar hyd Lôn Las yn cael ei waethygu ac mae parcio a throi yn broblemus. Ailadroddodd y Cynghorydd Meirion Jones bryderon y Siaradwr Cyhoeddus mewn perthynas â diogelwch safle’r cais a dywedodd bod y mater o ymsuddiant yn broblem go iawn. Petai unrhyw fath o dirlithriad yn digwydd byddai’n debygol o redeg i lawr i Ffordd Cadnant. Efallai na ystyrir hyn yn fater cynllunio ond mae’n rhywbeth sydd angen tynnu sylw ato.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y disgrifiad o’r cais wedi newid ers hynny ac nad yw bellach yn cynnwys fflat annibynnol fel rhan o’r cynnig. Mae diogelwch y safle’n cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth rheoli adeiladu ar wahân ac fel rhan o’r broses bydd angen arddangos bod y tir yn addas i allu dygymod â’r gwaith adeiladu. Mae’r Swyddogion yn fodlon bod y cynnig yn dderbyniol o ran dyluniad ac y gall y safle ddygymod â’r cais heb orddatblygu’r safle a niweidio cymeriad yr ardal nac amwynder yr eiddo cyfagos. Yn dilyn cyfarfod â Swyddogion Priffyrdd, cynigir y dylid cysylltu cynllun rheoli traffig i unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais gan ei fod ar gyfer estyniad i’r hyn sydd eisoes yn bodoli ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a’r ychwanegiad o amod mewn perthynas â chynllun rheoli traffig.
12.7 46C499A – Cais llawn i newid defnydd rhan o'r annedd i fod yn llety Gwely a Brecwast, gwaith addasu ac estyniadau sy'n cynnwys balconi, dymchwel y garej a chodi garej newydd yn ei lle yn Fron y Graig, Ravenspoint Road, Bae Trearddur
Cyflwynir y cais i’r pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi’i alw i mewn gan Aelod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â safle’r cais o ganlyniad i effeithiau posibl y datblygiad ar eiddo cyfagos.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r addasiadau sydd wedi’u cynnig yn sylweddol a does dim sylwadau wedi’u gwneud yn lleol. Ystyrir y newid defnydd yn dderbyniol ac ni fydd yn effeithio ar gymeriad yr ardal leol na’r eiddo cyfagos i’r fath raddau y gellid ei wrthod. Dywedodd y Swyddog bod sefydliad Gwely a Brecwast yn bodoli ymhellach i fyny’r ffordd.
Tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gais am ymweliad safle yn ôl.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid derbyn y cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: