Cofnodion:
10.1 13C190 – Cais amlinellol i godi 5 annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Sarn Gannu, Bodedern
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol a fabwysiadwyd gan Ynys Môn ond gellir ei gefnogi o dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Rhys Davies i annerch y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais.
Dywedodd Mr Davies fod y mynediad i’r safle trwy’r fynedfa sydd yno ar hyn o bryd ac sy'n gwasanaethu stad breswyl Llwyn yr Eos a bod y ffordd wedi’I mabwysiadu. Nododd y bydd un o'r 5 annedd yn annedd fforddiadwy.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn dderbyniol o dan
ddarpariaethau Polisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a’i fod yn ystyried na fydd yr anheddau’n effeithio ar fwynderau’r anheddau cyfagos na’r ardal leol nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y briffordd. Dywedodd ei fod yn argymell caniatáu yn amodol ar arwyddo cytundeb Adran 106 ar gyfer darparu un uned fforddiadwy.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.
Ymataliodd y Cynghorydd T. V. Hughes rhag pleidleisio.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 31C170D – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau (12 gyda 2 ystafell wely, 4 gyda 3 ystafell wely ac 1 byngalo gyda 3 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle'r cais wedi’i leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu ar gyfer Llanfairpwll yn y Cynllun Lleol er ei fod yn gyfagos iddi. O’r herwydd roedd y cais wedi cael ei hysbysebu fel un a oedd yn tynnu’n groes i’r Cynllun Lleol. Roedd dau o'r Aelodau wedi gofyn am i'r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, sef Aelod Lleol, ei fod ef a'r
Cynghorydd A. Mummery wedi gofyn am ymweliad â'r safle er mwyn i'r
Pwyllgor weld y safle drosto’i hun ac roedd yn gobeithio y byddai’r materion a godwyd gyda'r adran ar gael erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Y rhesymau a roddwyd am ymweld â’r safle oedd y goblygiadau i ddiogelwch y ffordd, pryderon trigolion lleol, draenio a dwysedd a nifer yr anheddau y bwriedir eu codi.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ymweliad â’r safle ac eiliodd y
Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel yr oedd yr Aelodau Lleol wedi gofyn ac am y rhesymau a roddwyd.
10.3 35C313A / ENF – Cais ôl-weithredol i godi annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Carreg Wen, Penmon
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i ddarpariaethau Cynllun Lleol Ynys Môn a'r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ond roedd yr Awdurdod Cynllunio o blaid cymeradwyo'r cais.
Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Rhys Davies i annerch y cyfarfod fel un o
gefnogwyr y cais.
Dywedodd Mr Davies fod y cais gerbron y Pwyllgor yn un am annedd
newydd. Cafodd y cais ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion ym mis Mawrth 2014 ar gyfer addasiadau ac estyniad i'r
annedd ond yn ystod y gwaith adeiladu daeth yn amlwg fod sylfeini’r annedd gyfredol wedi eu hadeiladu ar dir tywodlyd ansefydlog. Nododd na fydd dyluniad yr annedd newydd yn wahanol i'r cais a gymeradwywyd ym mis Mawrth 2014.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Adain Orfodaeth yr Adran
Gynllunio wedi cael ei hysbysu bod yr annedd bron wedi cael ei dymchwel yn gyfan gwbl a hynny’n groes i'r caniatâd cynllunio yn 2014. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod yr annedd flaenorol wedi cael ei hadeiladu ar dir nad oedd yn addas ac nad oedd y sylfeini’n ddigonol.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ganiatáu ac
eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.