Eitem Rhaglen

Yr Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ar waith yr Uned Ddarparu am dymor y Gwanwyn 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y gwanwyn 2016.

 

Amlygodd y Prif Seicolegydd Addysg yr ystyriaethau canlynol -

 

           Bod y tîm sy'n gyfrifol am weinyddiaeth y prosesau asesu ac adolygu wedi cael ei gryfhau drwy benodi aelod dros dro newydd o staff ac felly mae mewn sefyllfa dda i gyflawni’r holl ddyletswyddau gweinyddol a ddisgwylir ac i gwrdd â'r galwadau arno, gan gynnwys yr holl waith gweinyddol ar gyfer asesiadau statudol a darparu gwasanaeth ymarferol i'r timau athrawon a’r seicolegydd addysg arbenigol o fewn yr uned.

           Mae'r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol yn parhau i weithredu mewn amgylchedd o alw mawr yn enwedig o ran y gwasanaethau nam ar y clyw a nam ar y golwg. Mae yna ddatblygiadau technegol newydd yn y maes nam ar y golwg sy'n hwyluso defnyddio Braille mewn ysgolion ac yn hwyluso mynediad i’r cwricwlwm i ddisgyblion sydd â nam ar eu golwg. Mae'r Gwasanaeth wedi cyfarfod â chwmni sy'n cynhyrchu offer technegol o'r fath. Mae'r Gwasanaeth Cyfathrebu ac Iaith wedi dechrau  addasu'r ffordd y mae'n gweithio yn unol â Strategaeth newydd y ddau awdurdod ar gyfer Cynhwysiad ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.

           Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg wedi parhau i ddarparu gwasanaeth i gefnogi ysgolion y ddau awdurdod, gan gynnwys gweithio gyda phlant unigol, ymgynghori ar faterion eraill yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a chynnal hyfforddiant o fewn ysgolion unigol ar eu cais. Mae hyfforddiant a gyflwynwyd i Brifysgol Bangor wedi dod â rhywfaint o incwm i mewn sydd wedi arwain at drafodaeth ar y math o hyfforddiant y gellir ei gynnig yn y dyfodol a pha incwm y gall yn rhesymol  ddisgwyl ei gael ohono. ‘Roedd y Brifysgol wedi cysylltu â’r gwasanaeth hefyd i fod yn rhan o'i system ar gyfer asesu myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, ond yn dilyn trafodaeth, daethpwyd i’r casgliad y byddai’n debygol o olygu baich gwaith mawr ac y gallai wrthdaro o bosib gyda'i waith ar gyfer yr awdurdodau.

           Mae'r wybodaeth ynghylch nifer y datganiadau terfynol a gyhoeddwyd o fewn yr amserlen statudol yn dangos bod perfformiad yn erbyn dangosydd perfformiad 15a (o’r holl achosion yn ystod  6 mis cyntaf 2015/16, y ganran a gwblhawyd o fewn 26 wythnos - eithriadau ai peidio) yn dal i fod yn fyr o’r targed er ei fod wedi gwella; mae hyn oherwydd oedi a achosir yn sgil adroddiadau hwyr gan   asiantaethau allanol, sy’n fater sydd wedi bod yn destun trafodaeth o’r blaen yn y Cyd-Bwyllgor.

 

Nododd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a ddarparwyd a gofynnodd am eglurhad ar y sefyllfa o ran y trefniadau ôl-hyfforddiant ar gyfer y ddau seicolegydd addysg sy’n cael eu hyfforddi ar hyn o bryd o ran y posibilrwydd eu bod yn cwblhau blwyddyn ymarfer olaf eu hyfforddiant yng Ngwynedd ac / neu Ynys Môn. Hysbyswyd y Cyd-Bwyllgor y byddai Swyddog ADY Ynys Môn yn cyfarfod â Phrifysgol Caerdydd ar 28 Mehefin gyda'r bwriad o symud ymlaen â'r mater hwn ac i geisio sicrhau bod y Cyd-Bwyllgor yn cael gwasanaeth y ddau seicolegydd dan hyfforddiant ar gyfer eu blwyddyn ymarfer olaf.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI:  Hysbysu’r Cyd-Bwyllgor o ganlyniad cyfarfod y Swyddog ADY Ynys Môn gyda Phrifysgol Caerdydd mewn perthynas â lleoliad blwyddyn ymarfer olaf y ddau seicolegydd dan hyfforddiant.

 

Dogfennau ategol: