Cyflwyno diweddariad ar gynnydd.
Cofnodion:
Cafwyd diweddariad gan Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd mewn perthynas â symud ymlaen y Bartneriaeth ADY newydd.
Adroddodd y Swyddog fel a ganlyn:
• Bod y ddau awdurdod wedi dod i gytundeb ynghylch y rhan fwyaf o'r gwasanaethau y byddent yn dymuno cydweithio arnynt ac mae'r rhain wedi eu nodi mewn dogfen Strategaeth gynhwysfawr ac maent yn cynnwys agweddau ar gynhwysiad megis y Gwasanaeth Lles Addysg, Presenoldeb a Phlant mewn Gofal ac ati. Bydd y ddogfen yn cael ei haddasu a'i mireinio wrth i’r Bartneriaeth esblygu.
• Bod y ddau awdurdod wedi trafod lefelau staffio gyda'r bwriad o fabwysiadu cynllun staffio newydd erbyn mis Medi, 2016. Ymgynghorwyd ar y ddogfen strategaeth gyda staff ac ysgolion a gwnaed cyflwyniadau i'r ddau grŵp strategaeth a bwriedir rhoi cyflwyniad hefyd i benaethiaid cynradd fis nesaf. Bydd gwasanaethau AD Ynys Môn a Gwynedd yn trafod y prosesau a'r amserlen ar gyfer gweithredu'r newidiadau.
• Bu trafodaethau ar y cyd ar y model llywodraethu ac ystyriwyd nifer o fodelau posib. Bydd y gwasanaeth newydd ar ran y ddau awdurdod wedi ei gartrefu yng Ngwynedd.
• Un o'r camau nesaf fydd ystyried sut y gall y Cyd-Bwyllgor fod yn rhan o'r broses o newid; sut y gall gefnogi’r trawsnewid a sut y bydd y Bartneriaeth newydd a'r gwasanaethau y mae'n eu cwmpasu yn cael eu hymgorffori o fewn strwythurau democrataidd y ddau gyngor.
• Mai’r amcan, unwaith y bydd y trefniadau llywodraethu wedi eu cytuno a’u sefydlu, yw symud ymlaen ar sail un gwasanaeth ar y tro gan ddechrau gyda'r rheini y mae’n haws rhoi sylw iddynt e.e. Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion.
• Y bwriedir comisiynu fersiwn symlach o'r ddogfen Strategaeth a fydd yn crynhoi, mewn papur cryno, prif amcanion y Strategaeth a sut y cyflawnir nhw.
Nododd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a chytunodd y dylai gael copi o'r ddogfen Strategaeth ddrafft ynghyd â chyflwyniad er mwyn helpu i egluro ac esbonio'r gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu gan y Bartneriaeth newydd, sut y byddant yn cael eu darparu a'r prosesau ar gyfer asesu eu heffeithiolrwydd.
Cadarnhaodd y swyddogion fod y ddogfen strategaeth yn glir a manwl ynghylch pwy sy'n gyfrifol am beth gan leihau'r posibilrwydd o gamddehongli a gwella atebolrwydd. Er bod y ddau awdurdod wedi bod yn gweithio i wella cynhwysiad ac ansawdd y ddarpariaeth, bu llai o eglurder o ran gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth o ran y canlyniadau a gyflawnwyd ar gyfer y plant y darperir ar eu cyfer. O dan y trefniadau newydd bydd gan yr holl wasanaethau set o ddangosyddion a bydd proses ar gyfer coladu'r wybodaeth a’i bwydo drwodd i bwyllgorau sgriwtini. Cytunwyd ar strategaeth ynghylch yr hyn a fesurir ac mae’r model yn caniatáu ar gyfer gwneud newidiadau i adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion y ddau awdurdod. O ran craffu, mae rhai o'r gwasanaethau yn haws i’w craffu ar y cyd nag eraill; mae angen sefydlu model ar gyfer craffu i adlewyrchu pa wasanaethau y gellir eu craffu ar y cyd a pha rai y byddai’n well eu craffu ar wahân.
Penderfynwyd nodi'r diweddariad a'r wybodaeth a gyflwynwyd.
CAM GWEITHREDU YN CODI: Bod y Cyd-Bwyllgor yn cael copi o ddogfen Strategaeth ddrafft y Bartneriaeth ADY a Chynhwysiad a bod cyflwyniad yn cael ei wneud ar y Strategaeth i'r cyfarfod nesaf.