Eitem Rhaglen

Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth, 2016

Cyflwyno cyfrifon cyn-archwiliedig terfynol y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn gyllidol yn diweddu 31 Mawrth, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gymeradwyo gan y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori'r dogfennau canlynol.

 

           Y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw ar gyfer 2015/16 fel yn Atodiad A i'r adroddiad, gan gynnwys y prif amrywiadau rhwng y gyllideb a'r gwariant gwirioneddol ar ffurfalldro’.

           Ffurflen Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2015/16 cyn yr archwiliad fel yn Atodiad B i'r adroddiad, wedi ei hardystio yn briodol gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel y Swyddog Cyllid Statudol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cyllid bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn dweud bod rhaid i Gyd-Bwyllgorau baratoi cyfrifon diwedd blwyddyn. Os yw’r trosiant yn llai na £2.5m bernir bod y cyd-bwyllgor yngyd-bwyllgor bach" a rhaid i'r cyfrifon gael eu paratoi ar ffurflen datganiad o gyfrifon a  ddarperir gan Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd y cyfrifon a’r ffurflen yn cael eu harchwilio gan Deloitte, archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd a benodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Os bydd angen unrhyw newidiadau, yna cyflwynir fersiwn ddiwygiedig i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor a drefnwyd ar gyfer 23 Medi, 2016. Yn dilyn archwiliad ac unrhyw newidiadau angenrheidiol, bydd cynrychiolydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ardystio cyn 30 Medi, 2016.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg nad oedd sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor wedi newid yn sylweddol o’r hyn a adroddwyd yn y cyfarfod ym mis Mawrth, 2016 pryd rhagwelwyd y byddai gorwariant o £120k yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2015/16. Mae'r ffigwr hwnnw bellach yn £144k (£89k o orwariant ar y cyd a £55k o arbedion na lwyddwyd i’w darganfod yn achos Ynys Môn) ynghyd â chostau diswyddo ychwanegol o tua £22k. Wedi ailddosbarthu balans y cronfeydd wrth gefn rhwng Ynys Môn a Gwynedd, nid oes capasiti ariannol o fewn y Cyd-Bwyllgor i gefnogi gorwariant yn 2016/17 a bydd raid i’r ddau awdurdod gwrdd ag unrhyw orwariant a allai ddigwydd yn ystod y flwyddyn.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor yng nghyd-destun y symudiad i sefydlu Partneriaeth ADY newydd ac a yw penderfyniad strategol wedi’i wneud i beidio â mynd i unrhyw orwariant yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Dywedodd Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd fod y Grŵp Cyswllt wedi craffu ar y gyllideb fesul llinell gan gynnwys pob agwedd ar gostau a’i fod wedi darganfod bod y Cyd-Bwyllgor yn gorwario mewn perthynas â'i dîm o athrawon arbenigol oherwydd bod mwy o athrawon ar y sefydliad nag sydd angen. O ystyried bod rhai aelodau o'r tîm wedi eu cyflogi ar gontractau parhaol, os bydd y Cyd-Bwyllgor yn dymuno gwneud gostyngiadau byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r mater ar y sail bod gormodedd ar draws y tîm a byddai risg wedyn o golli arbenigedd. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i  ariannu'r gost ychwanegol yn y flwyddyn ariannol gyfredol o bosib a hynny er mwyn cael lefel y gwasanaeth sydd ei angen.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Cyllid y dylid rhoi gwybod am unrhyw fwriad i orwario ac y dylid ei gynllunio a'i feintioli. Fel arall, ni fydd y ddau awdurdod wedi cyllidebu ar ei gyfer a byddant yn wynebu cost ychwanegol na chynlluniwyd amdani.

 

Penderfynwyd -

 

           Derbyn a chymeradwyo’r Cyfrif Incwm a Gwariant ar gyfer 2015/16 fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad.

           Derbyn a chymeradwyo Ffurflen Datganiad Cyfrifon 2015/16, yn amodol ar archwiliad fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad.

Dogfennau ategol: