Eitem Rhaglen

Materion yn Codi

·        Cyflwyno Cynllun Gweithredu y CYSAG wedi’i ddiwygio.

 

·        Cyflwyno copi o ohebiaeth anfonwyd at CBAC ynglyn â darparu trefniadau HMS a chyfarwyddyd ynglyn â’r cwrs  TGAU newydd ynghyd ag argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs Lefel A newydd. (Copi i ddilyn)

 

 

Cofnodion:

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi derbyn ymateb gan Esgobaeth Bangor i’r ohebiaeth a anfonwyd ar gais y CYSAG mewn perthynas â defnydd yr Eglwys o derminoleg yn ei adroddiad arolwg Adran 50 mewn perthynas ag Ysgol Llangaffo. Roedd Cyfarwyddwr Addysg Eglwysig Esgobaeth Bangor wedi egluro bod gan yr Eglwys yng Nghymru ei fframwaith ei hun ar gyfer arolygon a gynhaliwyd o dan Adran 50 o Ddeddf Addysg 2005 a’i fod yn gosod y disgwyliadau a’r broses mewn perthynas â chynnal yr arolygon hynny. 

 

           Rhoes yr Ymgynghorydd Her GwE gopi diwygiedig i’r CYSAG o’r Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar ei Adroddiad Blynyddol 2014/15 a’r materion sydd wedi codi yn ystod 2015/16 a dywedodd y byddai’n mynd i fwy o fanylion am gynnwys y Cynllun o dan eitem 7 ar yr agenda lle byddai’n rhoi diweddariad i CYSAG am hyn ac unrhyw ddatblygiadau perthnasol eraill. 

 

           O ran darpariaeth a chynllunio AG yn Ysgol Garreglefn, rhywbeth yr oedd CYSAG wedi gofyn i’r Ymgynghorydd Her GwE gadw golwg arno, dywedodd y Swyddog ei bod wedi ymweld ag Ysgol Garreglefn er mwyn craffu ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol a’i bod wedi gwneud argymhellion yn dilyn hynny. Gan fod newidiadau staffio wedi digwydd yn Ysgol Garreglefn roedd hi’n bwriadu ail ymweld â’r ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol.  

 

           Cadarnhaodd y Cadeirydd bod Pennaeth Ysgol y Bont wedi derbyn y gwahoddiad i fynychu cyfarfod CYSAG er mwyn rhoi cyflwyniad ar ddarpariaeth AG yr ysgol ond bod dal angen cadarnhau manylion ei bresenoldeb. 

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd bod y llythyr yr oedd CYSAG wedi gwneud cais am ei anfon i CBAC mewn perthynas â’r ddarpariaeth o drefniadau HMS ar gyfer y cwrs TGAU newydd ac argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Cwrs Safon Uwch newydd wedi ei ddrafftio ond efallai y bydd angen ei addasu. 

 

Hysbysodd Mrs Mefys Edwards y CYSAG fod y maes llafur Safon Uwch newydd yn dechrau ym mis Medi, 2016 a’i bod wedi dod i ddeall nad yw’r deunyddiau ar gyfer y fanyleb newydd yn debygol o fod yn barod tan ddiwedd mis hydref ac nad oes unrhyw gadarnhad o argaeledd deunyddiau cyfrwng Cymraeg. Mae cyrsiau hyfforddi athrawon ar gyfer y cyrsiau maes llafur TGAU (sy’n dechrau ym mis Medi, 2017) a Safon Uwch bellach ar gael ond mae mynychu ‘r hyfforddiant Safon Uwch ym mis Hydref yn golygu cost o tua £200 ar gyfer un aelod o staff ac yn ymarferol mae’n golygu y bydd angen i’r ysgol dalu £250 pellach er mwyn cyflogi athro/athrawes llanw. Mae pryder na fydd nifer o ysgolion yn gallu fforddio hyn. Nododd Mrs Mefys Edwards hefyd fod GwE wedi cyflwyno system o “Ymarferwyr Arweiniolsy’n golygu y bydd 3 Ymarferydd Arweiniol ar gyfer pob pwnc - un ar gyfer pob Hyb yng Ngwynedd/Môn, Conwy/Dinbych ac Y Fflint/Wrecsam. Yn ychwanegol at hynny, mae un o’r tri wedi’u penodi fel Ymarferydd Arweiniol Rhanbarthol a fydd yn gyfrifol am gydlynu cymorth ledled y rhanbarth. Dywedodd Mrs Edwards mai hi fyddai’n cyflawni’r rôl o Ymarferydd Arweiniol Rhanbarthol ar gyfer Addysg Grefyddol ac Ymarferydd Arweinol Gwynedd a Môn ac y byddai’n cysylltu ag Ymgynghorydd Her GwE ac y byddai mewn sefyllfa i ddiweddaru CYSAG ar ddatblygiadau.   

 

Cytunodd y CYSAG y dylai’r llythyr yr oeddent wedi’i gynnig yn y cyfarfod diwethaf gael ei anfon at CBAC ac y dylid ei adolygu er mwyn cynnwys y pryderon mewn perthynas â’r gost i ysgolion o ryddhau athrawon i fynychu hyfforddiant ar gyfer y maes llafur cwrs Safon Uwch a hynny o ran y gost ei hun a chost cael athro/athrawes llanw.  

 

GWEITHREDU: Swyddog Addysg Gynradd, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Uwchradd/cynrychiolydd Uwchradd ar CYSAG i ail ddrafftio’r llythyr CBAC a chynnwys costau hyfforddiant athrawon ar gyfer y cwrs maes llafur Safon Uwch newydd yn ogystal â thynnu sylw at  ffaith bod angen i ddeunyddiau cyfrwng Cymraeg fod ar gael mewn pryd.  

Dogfennau ategol: