Eitem Rhaglen

Adolygiad Bynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2015/16

Cyflwyno Adolygiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys am 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor ac ar gyfer sylwadau, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori’r Adolygiad Rheoli'r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau trysorlys yn 2015/16 ac yn cadarnhau y cydymffurfiwyd â pholisïau'r Cyngor a gymeradwywyd eisoes gan yr Aelodau.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar yr elfennau canlynol o'r adolygiad Rheoli’r Trysorlys:

 

           Gweithgaredd Cyfalaf. Amlinellir gwir wariant cyfalaf y Cyngor a sut mae wedi ariannu yn nhabl 2.2 yr adroddiad ac mae’n un o'r dangosyddion darbodus.

           Effaith y gweithgaredd hwn ar ddyled sylfaenol y Cyngor (y Gofyniad Cyllido Cyfalaf). Mae GCC y Cyngor ar gyfer y flwyddyn yn nhabl 3.3.4 ac mae’n ddangosydd darbodus allweddol.

           Sefyllfa gyffredinol y Trysorlys yn nodi sut mae'r Cyngor wedi benthyca mewn perthynas â'i ddyledion a'r effaith ar falansau buddsoddi. Yn wyneb y cyfraddau llog cyfredol a’r cyfraddau a ragwelir, ynghyd â risgiau credyd gwrthbartïon, y dylid parhau i fewnoli benthyca, o leiaf yn y tymor byr, sydd yn y strategaeth a roddwyd ar waith ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. Mae'r sefyllfa fenthyca gros wedi cynyddu yn ystod 2015/16 oherwydd y benthyciad gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus i brynu allan o’r system gymhorthdal ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai sy’n disodli'r hen gymorthdaliadau i Lywodraeth Cymru.

           Y ffigyrau benthyca a buddsoddi ar gyfer y Cyngor fel yr oeddent ar ddiwedd blynyddoedd ariannol 2014/15 a 2015/16. Dangosir y rhain ym mharagraff 4.1 yr adroddiad ac yn fanylach yn Atodiad 1. Ni chafodd unrhyw ddyledion eu had-drefnu yn ystod y flwyddyn oherwydd bod y gwahaniaeth o 1% rhwng cyfraddau benthyca newydd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus a chyfraddau ad-dalu cynamserol yn golygu nad yw’n werth ad-drefnu dyledion.

           Gweithgarwch buddsoddi.  Mabwysiadwyd ymagwedd ofalus yn sgil yr ansicrwydd parhaus yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008 lle byddai buddsoddiadau’n parhau i gael eu dominyddu gan ystyriaethau risg gwrthbartïon isel sy'n golygu dychweliadau cymharol isel o gymharu â chyfraddau benthyca. Yn y sefyllfa hon, y strategaeth trysorlys oedd gohirio benthyca er mwyn osgoi cost cadw lefelau uwch o fuddsoddiadau a lleihau risg gwrthbarti. Y strategaeth fuddsoddi ddisgwyliedig oedd cadw at adneuon tymor byrrach er y cedwir y gallu i fuddsoddi am gyfnodau hwy.

           Diogelwch Buddsoddiadau ac Ansawdd Credyd. Nid chafodd unrhyw sefydliadau yr oedd y Cyngor wedi buddsoddiad ynddynt anhawster i ad-dalu buddsoddiadau a llog ar amser ac yn llawn yn ystod y flwyddyn. Arweinioddcanlyniad Refferendwm y DU at israddio’r rhagolygon tymor hir ar gyfer banciau‘r DU o ragolwg sefydlog i ragolwg negyddol. Fodd bynnag mae eu graddfeydd tymor byr a chanolig yn dal i fod o fewn y graddfeydd priodol a gymeradwywyd yn  Strategaeth Rheoli Trysorlys 2015/16. Mae statws y banciau ac adneuon y Cyngor yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau y gellir gostwng y risgiau i’r Cyngor cymaint â phosib.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi cydymffurfio â'r dangosyddion darbodus a thrysorlys allweddol yn 2015/16.

           Nododd y Pwyllgor y benthycwyd i bwrpas cyfalaf yn unig ac nad aethpwyd dros y terfyn benthyca statudol (y terfyn awdurdodedig). .

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith trefniadau benthyca'r Cyngor ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a faint o gyfraniad y Cyngor i'r rhaglen fyddai’n seiliedig ar dderbyniadau cyfalaf a faint fyddai’n seiliedig ar fenthyca. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai’r Cyngor yn benthyca mwy yn y tymor byr hyd nes y ceir derbyniadau cyfalaf i wneud iawn am y diffyg. Mae Ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys y Cyngor, Capita, wedi cael cais i adolygu gofynion benthyca'r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf er mwyn cymryd Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain i ystyriaeth a bydd canlyniad yr adolygiad yn sail ar gyfer strategaeth fenthyca'r Cyngor dros y tymor hir.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith Brexit ar gyfraddau llog ac a ydynt yn fwy tebygol o godi o ganlyniad. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai'r ansicrwydd sy'n bodoli mewn perthynas â nifer o ffactorau allweddol yrru cyfraddau llog i fyny neu i lawr, ond y byddai cynnydd o gwmpas  2% neu 3% yn rhoi pwysau ar y gyllideb refeniw. Os bydd arwyddion y gallai cyfraddau llog godi  yna fe adolygir sefyllfa fenthyca’r Cyngor ac ystyrir ad-dalu rhai benthyciadau a benthyca’n gynt i fanteisio ar y cyfraddau llog isel. Fodd bynnag, mae’r amseru yn hollbwysig ac mae'r Awdurdod yn cael cyngor gan Capita a'i ymgynghorwyr rheoli'r trysorlys ynghylch yr amser gorau posib i fenthyg; nid ystyrir bod y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt hwnnw ar hyn o bryd. Er bod bwlch sylweddol rhwng lefel fenthyca’r Cyngor a'r terfyn awdurdodedig mae unrhyw fenthyciadau ychwanegol yn bwydo drwodd i'r costau ariannu cyfalaf sy'n cael sgil-effaith ar y gyllideb refeniw.

           Nododd y Pwyllgor wedi hynny bod angen i'r Cyngor fod yn ymwybodol o'r effaith ar y gyllideb refeniw os ymrwymir i fenthyca mwy.

 

Penderfynwyd:

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau i fod yn amodol hyd nes y cwblheir ac y llofnodir yr archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2015/6; adroddir ar unrhyw addasiadau sylweddol canlyniadol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad fel y bo'n briodol.

           Nodi'r dangosyddion darbodus a thrysorlys amodol ar gyfer 2015/16 o fewn yr adroddiad.

           Derbyn a nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2015/16 a’i i anfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau pellach.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: