Eitem Rhaglen

Diweddariad Adfer Trychineb TGCh

Adolygu’r cynnydd ynglyn â gweithredu ar unrhyw faterion sy’n weddill mewn perthynas ag Adfer Trychineb TGCh (Rheolwr Gwasanaeth TGCh a Rheoli Perfformiad i adrodd)

 

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad llafar gan y Rheolwr Gwasanaeth a Rheoli Pherfformiad TGCh ar y cynnydd a wnaed ynghylch gweithredu argymhellion yr adain archwilio mewnol yn dilyn yr archwiliad a wnaed yn 2015/16 o drefniadau Adfer ar ôl Trychineb TGCh a ddarganfu diffygion yn y trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol yn y maes hwn.

 

Dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaeth TGCh yn awr bron â gorffen dylunio canolfan cefnogi data bwrpasol.  Cynigir cael ail ganolfan ddata i ffwrdd o'r ystafelloedd TGCh ym mhrif swyddfeydd y Cyngor a fydd bob amser yn weithredol, ynghyd â'r brif ganolfan.  Gyda’i gilydd, byddant yn rhannu’r  pŵer prosesu o redeg systemau allweddol y Cyngor. Os digwydd na fydd modd defnyddio prif swyddfeydd y Cyngor, bydd yr ail ganolfan ddata yn gallu rhedeg gwasanaethau allweddol, sef y gwasanaethau hynny a nodwyd fel rhai hollbwysig e.e gofal cymdeithasol a chyllid. Erys rhywfaint o waith i'w wneud o ran cadarnhau bod y rhestr o wasanaethau allweddol yn gyfoes ac un elfen sydd angen sylw o ran dyluniad yw gallu’r adeilad i wrthsefyll tân a fyddai'n penderfynu am ba hyd y gall y ganolfan ddata oroesi mewn tân. Bydd gan y ganolfan ddata bŵer cydnerth drwy UPS a generadur ar y safle. Mae cyllid cyfalaf ar gyfer y cyfleuster newydd ac mae'r Gwasanaeth TGCh yn hyderus y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb ac erbyn y dyddiad cwblhau a gynlluniwyd, sef Rhagfyr, 2016. Yn ogystal â bod yn gyfleuster wrth gefn, mae hwn yn ddatrysiad o ansawdd a fwriadwyd i gwrdd ag anghenion newidiol y Cyngor, gan ganiatáu iddo ddefnyddio'r pŵer prosesu fel a phan y bydd y busnes ei angen.

 

O'r wybodaeth a gyflwynwyd cymerodd y Pwyllgor sicrwydd bod cynnydd boddhaol wedi'i wneud o ran ymateb yn briodol i'r materion a nodwyd yn yr adroddiad archwilio mewnol a luniwyd yn 2015/16 o ran cryfhau'r rheolaethau mewn perthynas â threfniadau Adfer ar ôl Trychineb fel bod modd rheoli’r risgiau yn y maes hwn yn effeithiol. Nododd y Pwyllgor y byddai'n ddefnyddiol iddo gael gweld y cynllun ar gyfer adfer ar ôl trychineb yn y man. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth a Rheoli Perfformiad TGCh fod y Cynllun Adfer ar ôl Trychineb h.y y gallu i ymateb i drychineb wedi’i gyfyngu gan yr isadeiledd presennol ond y gellid rhoi i’r Pwyllgor ddyluniad o sut y byddai'r system yn gweithredu os digwydd  trychineb. Unwaith yr isadeiledd newydd wedi ei sefydlu byddai’r dyluniad hwnnw’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Adfer ar ôl Trychineb a byddai modd cyflwyno cynllun i'r Pwyllgor hwn. Cadarnhaodd y Swyddog y bwriedir rhoi prawf ar y system cyn iddi fynd yn fyw, a hynny yn unol â gofynion arfer gorau er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio’n iawn a bod modd adfer data mewn ffordd brydlon a dibynadwy os digwydd  trychineb.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r diweddariad mewn perthynas â chynnydd a wnaed gyda chynlluniau Adfer ar ôl Trychineb TGCh.

 

CAM GWEITHREDU:  Bod y Pwyllgor yn cael crynodeb ysgrifenedig o sut y byddai'r system wrth gefn yn gweithio os digwydd trychineb.