Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol - Adroddiad Gwella Blynyddol Ynys Môn 2015/16

·        Cyflwyno Adroddiad Gwella Blynyddol Ynys Môn 2015/16 gan Archwilio Allanol

 

·        Cyflwyno Tystysgrif Cydymffurfio mewn perthynas â Chynllun Gwella 2016/17 Cyngor Sir Ynys Môn.

Cofnodion:

·        Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2015/16 mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn. ‘Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith archwilio a wnaed yn y Cyngor ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015 ac ‘roedd yn cynnwys crynodeb o gasgliadau adroddiadau gan reoleiddwyr perthnasol eraill sef AGGCC; Estyn a Chomisiynydd y Gymraeg.

 

Gan gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed yn y Cyngor gan y cyrff adolygu allanol perthnasol yn 2015/16 cadarnhaodd Mr Gwilym Bury bod yr Archwilydd Cyffredinol yn casglu, ar y cyfan, bod y Cyngor wedi parhau i wneud cynnydd yn y meysydd blaenoriaeth tra'n ailstrwythuro ei drefniadau llywodraethu ac arweinyddiaeth, a’i fod yn parhau i fod yn hunanymwybodol a'i fod yn debygol o gydymffurfio â gofynion  Mesur Llywodraeth Leol 2009 a sicrhau gwelliant yn ystod 2016/17. Er nad yw’r Archwilydd Cyfredinol yn gwneud unrhyw argymhellion statudol, mae'r adroddiad yn gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau  mewn rhai o'r meysydd a adolygwyd.

 

Adroddodd Mr Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru ar y canfyddiadau manwl mewn perthynas â'r meysydd allweddol a aseswyd mewn perthynas â Pherfformiad, Defnydd o Adnoddau a Llywodraethiant, gan gynnwys gwasanaethau lle gwnaed gwelliannau yn ogystal â meysydd lle mae angen gwella mwy ar berfformiad a / neu drefniadau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

           O ran gwerthusiad Estyn o berfformiad ysgolion, nododd y Pwyllgor bod canran y disgyblion sy'n ennill pum gradd A * i A  neu gyfwerth yn Ynys Môn wedi gostwng ers 2012 a’i fod yn is na chyfartaledd Cymru yn 2015. Roedd y Pwyllgor yn pryderu am y dirywiad hwn yn enwedig yng nghyd-destun y fenter Ynys Ynni a'r cyfleoedd cyflogaeth sgil uchel sy’n debygol o gael eu creu a gofynnodd am gadarnhad bod mesurau i wella lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn cael eu gweithredu. Hysbyswyd y Pwyllgor bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ansawdd y Gwasanaethau Gwella Ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru (GwE).Roedd y Pwyllgor o’r farn y byddai'n ddefnyddiol iddo ystyried adroddiad ar GwE o gofio’r cyswllt rhyngddo â pherfformiad ysgolion, ynghyd ag unrhyw Gynllun Gweithredu a baratowyd gan y consortiwm mewn ymateb i'r adroddiad, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth a gwella a ddarperir gan GwE o bersbectif penodol Ynys Môn.

           Yn ogystal ag asesu ac adolygu perfformiad a goruchwylio’r trefniadau a'r prosesau sy'n sail i berfformiad, nododd y Pwyllgor y dylai fod yn ystyried ehangu ei bersbectif drwy dderbyn gwybodaeth gymharol yn amlach i helpu'r Pwyllgor roi’r perfformiad yn ei gyd-destun.

           Yng nghyd-destun adroddiad Gwerthuso Perfformiad AGGCC ar gyfer 2014/15 a defnydd y Cyngor o adnoddau, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer oedolion a phlant. Nododd y Pwyllgor, yn wyneb y problemau cyllido cenedlaethol mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol i oedolion a chwestiynau o amgylch hyfywedd ariannol nifer gynyddol o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion, y gallai fod yn ddefnyddiol iddo gael gwybod sut mae cynlluniau ariannol y Cyngor yn helpu i fynd i'r afael â’r  mater hwn.(Datganodd Mr Richard Barker ddiddordeb yn y cyd-destun hwn fel ymddiriedolwr i ddarparwr gofal cymdeithasol).

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Gwella Blynyddol ar gyfer 2015/16 a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU:

 

           Rhoi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ansawdd y Gwasanaethau Gwella Ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru (Gwe) ynghyd â Chynllun Gweithredu canlyniadol y consortiwm i’r Pwyllgor i’w hystyried.

           Rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor mewn perthynas â sut y mae defnydd y Cyngor o adnoddau a chynlluniau ariannol yn cymryd i ystyriaeth y materion cyllido cyfredol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant.

 

·        Cyflwynwyd a nodwyd y Dystysgrif Cydymffurfiaeth ar gyfer Cynllun Gwella 2016/17 Cyngor Sir Ynys Môn yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a’i fod wedi gweithredu'n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: