Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  19C1174/FR – Enterprise Park, Caergybi

 

7.2   20C102L/EIA/RE – Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

7.3   28C257A – Bryn Maelog, Llanfaelog

 

 

Cofnodion:

7.1       19C1174/FR – Cais llawn i newid defnydd tir i osod 103 o gynwysyddion i ddibenion storio ym Mharc Menter, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod safle’r cais yn rhan o dir y mae’r Cyngor yn berchen arno. 

 

Yn ei gyfarfod ar 6 Gorffennaf 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad ar y cais ac fe ymwelwyd â’r safle ar 20 Gorffennaf, 2016.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllun wrth y Pwyllgor fod Dŵr Cymru, ers yr ymweliad, wedi cyflwyno sylwadau ynghylch lleoliad y cynwysyddion arfaethedig o ystyried lleoliad y prif gyflenwad dŵr. Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch lleoliad y cynwysyddion a chan gymryd i ystyried y cynllun cyfredol a’r lle y mae Dŵr Cymru ei angen o gwmpas ei bibellau cyflenwi dŵr, mae angen ystyried y cynllun ymhellach cyn cynnig argymhelliad i’r Pwyllgor. O’r herwydd argymhellwyd bod y cais yn cael ei ohirio hyd oni fydd canlyniadau’r trafodaethau hynny’n hysbys.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2       20C102L/EIA/RE – Cais llawn i godi 11 o dyrbinau gwynt gyda 6 thyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchafswm uchder hwb o hyd art 55m, diameter rotor o hyd at 52m, ac uchafswm uchder i ben y llafn o hyd at 79m, a 3 tyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchder hwb o hyd at 45m, diameter rotor o hyd at 52m ac uchder mwyaf i flaen y llafn o hyd at 70m, a 2 dyrbin gwynt hyd at 900kw gydag uchder hwb o hyd at 45m, diameter rotor o hyd at 52m, ac uchder mwyaf i flaen y llafn o hyd at 66m uwchben y ddaear ynghyd â chreu padiau craen, sylfeini, ceblau trydan o dan ddaear, gwelliannau i rannau o’r trac presennol, creu traciau mynediad newydd, gwneud gwaith i’r briffordd, estyniad i’r is-orsaf 33kv bresennol, codi is-orsaf 11kv newydd, codi anemomedr a chompownd adeiladu a storio dros dro ac ardal gwaith concrit (fydd yn cynnwys cael gwared ar y fferm wynt presennol) yn Fferm Wynt Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Mae’r cais yn un i ail-bweru’r fferm wynt gyfredol yn Rhyd y Groes. Mae’r cais yn un am Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ac o’r herwydd, rhaid ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am benderfyniad.

 

Bu oedi gyda chyflwyno’r cais i’r Pwyllgor er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ymateb i’r gwrthwynebiadau a cheisiadau am wybodaeth bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r materion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae ymateb yr ymgeisydd wedi arwain at ddiwygio’r cynllun a derbyniwyd datganiad diwygio cynllun ym mis Mehefin 2016 sy’n gwneud i ffwrdd â thyrbinau 12 a 13 ar ochr ddwyreiniol y safle ac yn gostwng uchder tyrbinau 3, 4 ac 11.

Dywedodd Mr Roger Dobson, siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cais, ei fod yn siarad dros nifer o drigolion yng Ngogledd Ynys Môn, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yng Nghemaes, a chanlyniadau arolwg ble cafwyd 9,000 o ymatebion yn ffafrio cyfyngu uchder tyrbinau newydd i  50m ar y mwyaf. Soniodd am bedwar prif reswm dros wrthwynebu’r cais sef yr effaith weledol ar y dirwedd, effaith sŵn ar bobl dros ardal eang, diogelwch a chyd-destun datblygiadau ynni eraill ac fe ymhelaethodd ar y rhain.  Cyfeiriodd at effeithiau posibl y datblygiad ar dwristiaeth sy’n ddiwydiant allweddol yn Ynys Môn ynghyd â materion yn ymwneud ag agweddau diogelwch technoleg tyrbinau gwynt a rhoes enghreifftiau o ddigwyddiadau’n ymwneud â thyrbinau a’r cyhoedd.  Yn ogystal, dywedodd Mr Dobson fod pryderon ynghylch yr effaith a gaiff y sŵn a’r fflachiadau o’r tyrbinau gwynt ar iechyd pobl.  Mae Cemaes gyfan eisoes yn cael ei effeithio gan y fferm wynt bresennol a byddai’r effeithiau yn debygol o fod yn fwy o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig. Dywedodd Mr Dobson fod Ynys Môn eisoes wedi gwneud mwy na’i siâr ar gyfer economi gogledd Cymru a thrydan carbon isel ym Mhrydain a bod y diwydiannu graddol o’r dirwedd ar ben Wylfa yn afresymol mewn cymuned fechan.

 

Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw gwestiynau i’w gofyn i Mr Dobson.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Ms Ffion Edwards, sy’n gweithio i Natural Power ac sydd o blaid y cynnig a dygodd sylw at y ffaith bod y cynllun, yn dilyn yr ymgynghoriad, wedi cael ei ddiwygio drwy wneud i ffwrdd â dau dyrbin a gostwng uchder tri arall, gan liniaru’r effaith ar yr AHNE, asedau diwylliannol a threftadaeth yr ardal a lleihau’r effeithiau gweledol ar Gemaes. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill yr ymgynghorwyd â nhw ynghyd â’r cynghorau cymuned bellach wedi cadarnhau nad ydynt yn gwrthwynebu’r cynllun. Mae Cyngor Sir Ynys Môn hefyd yn fodlon bod y cynnig yn un derbyniol. Mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi cynllunio ynghylch ynni adnewyddadwy sy’n hyrwyddo ail-bweru tyrbinau gwynt ar yr amod nad yw hynny’n cael unrhyw effeithiau annerbyniol ar y dirwedd. Daw’r cynnig â nifer o fuddiannau yn ei sgil, gan gynnwys cyflenwad trydan adnewyddadwy 20.8m cilowat yr awr sy’n cyfateb i dros 4,000 o gartrefi, ymrwymiad i’r Cynllun Rheoli Treftadaeth a gwella’r llwybr arfordirol; hwb i’r economi leol drwy fuddsoddiad a chreu swyddi, a thalu difidend o £4k fesul megawatt sydd, ar gyfer y cynllun arfaethedig, yn cyfateb i £39k y flwyddyn i’r gymuned leol. I grynhoi, mae’r cynllun arfaethedig wedi ei ddylunio’n well, mae’n fwy cynhyrchiol ac mae ei oes wedi ei gyfyngu i gyfnod o 25 blynedd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gyfres o gwestiynau i Ms Edwards er mwyn cael eglurhad am y materion isod:

 

           Math a nifer y cyfleoedd cyflogaeth y disgwylir i’r cynnig eu creu. Hysbyswyd y Pwyllgor y rhagwelir y gall cyfleoedd cyflogaeth godi yn ystod cyfnod adeiladau’r fferm wynt newydd ac, yn ogystal, ar adeg digomisiynu’r fferm wynt gyfredol. Gallai cyfleoedd ategol eraill godi’n lleol o ran cyflenwi a hefyd yn y maes diogelwch yn ystod y cyfnod adeiladu.

           Y budd i’r gymuned. Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y cynllun fel y’i cynigir, yn cynhyrchu £4k fesul megawat neu £39k y flwyddyn sydd yn fynegrifol gan roi dros £1m yn ystod oes y datblygiad. Cynhelir trafodaeth gyda’r gymuned leol mewn perthynas â’r meini prawf ar gyfer dosbarthu a dyrannu’r arian.

           Effaith bosibl y cynnig ar y dirwedd o ystyried ei fod wedi’i leoli 900m o’r arfordir ac yn yr AHNE a’r sgil-effaith ar dwristiaeth. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y cynhaliwyd trafodaethau hirfaith gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas ag effeithiau’r cynnig, yn enwedig ar yr AHNE, ac y cynhaliwyd nifer o asesiadau o’r effaith ar y dirwedd. Nid oes gan CNC unrhyw wrthwynebiad mewn perthynas â’r AHNE ac ni ystyrir y byddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar yr AHNE.  Nid oes unrhyw astudiaeth wedi dangos bod safleoedd ffermydd gwynt yn cael effaith sylweddol ar dwristiaeth ac mae’r cynnig wedi’i gyfyngu i 25 blynedd, yn annhebyg i’r fferm wynt bresennol sydd wedi cael ei chaniatáu am gyfnod amhenodol. 

           Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd y bydd y fferm wynt bresennol yn cael ei digomisiynu fesul dipyn wrth i’r cynllun newydd ddod yn weithredol ac na fydd y ddwy fferm yn cynhyrchu ar yr un pryd. Hysbyswyd y Pwyllgor na fydd y fferm wynt bresennol yn weithredol ar yr un pryd â’r fferm wynt wedi ei hail-bweru. Mae’r cynllun arfaethedig yn caniatáu ar gyfer digomisiynu’r tyrbinau cyfredol ond oherwydd bod y safle mewn dwy ran – yr ardaloedd dwyreiniol a gorllewinol, bydd angen digomisiynu fesul dipyn a bydd un ardal yn cael ei digomisiynu’n barod ar gyfer y cynllun newydd tra bydd y cynllun cyfredol yn parhau i weithredu yn yr ardal arall.

           Y rhesymeg dros ail-bweru’r fferm wynt bresennol yng nghyd-destun yr orsaf niwclear arfaethedig, Wylfa Newydd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai prosiect ynni adnewyddadwy yw’r cynnig nad oes unrhyw gyswllt rhyngddo ac ynni niwclear.

 

Rhoes yr Arweinydd Tîm Datblygu ddiweddariad i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r sylwadau a dderbyniwyd a chadarnhaodd y derbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn tynnu’n ôl ei wrthwynebiad i’r Cynnig a llythyr gan Gyngor Cymuned Llaneilian yn cefnogi safiad Llanbadrig. Cafwyd llythyrau o wrthwynebiad hefyd, gan gynnwys un gan yr Aelod Seneddol ar ran y trigolion lleol.  Cyfeiriodd y Swyddog at y rheswm dros adrodd ar y cais i’r Pwyllgor fel y’i nodir yn yr adroddiad ac eglurodd, er bod penderfyniad wedi ei wneud yn ddiweddarach i fynd yn ôl i’r drefn o benderfynu ar geisiadau am dyrbinau gwynt dan y drefn ddirprwyedig, rhaid cyflwyno’r cais hwn i’r Pwyllgor i’w benderfynu oherwydd ei fod yn gais AEI ac wedi cael ei alw i mewn.

 

Eglurodd Mr John Hall, Amec Foster Wheeler a’r Swyddog Achos ar gyfer y cais yr hyn yr oedd y cais fel y’i cyflwynwyd yn ei olygu a rhoes amlinelliad o’r cyd-destun i’r cais. Cyfeiriodd y Swyddog at y prif ystyriaethau cynllunio o ran egwyddor y datblygiad; yr effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol; yr effaith o safbwynt Treftadaeth Ddiwylliannol a mwynderau preswyl ac ymhelaethodd ar y rhain gan fanylu ar y modd y bwriedir lliniaru effeithiau’r cynllun drwy osod amodau cynllunio. Dygodd y Swyddog sylw at y ffaith er bod polisïau a chanllawiau sy’n cefnogi ail-bweru ffermydd gwynt yn gwrthbwyso trin ffermydd gwynt fel strwythurau dros dro, rhoddir cryn bwysau i’r ffaith bod modd gwyrdroi’r cynnig yn yr achos hwn; oherwydd ei bod yn cael ei chyfyngu i gyfnod o 25 blynedd, bydd oes y fferm dan reolaeth gynllunio yn annhebyg i’r fferm wynt gyfredol a allai, fel mae pethau’n sefyll, aros ble y mae am byth. Mae dau amod yn ceisio atgyfnerthu hyn, sef amod drafft 4 sy’n ceisio sicrhau y bydd y fferm wynt gyfredol yn cael ei digomisiynu ochr yn ochr â’r gwaith o adeiladu’r fferm wynt wedi’i hail-bweru. Mae’r ymgeisydd wedi cytuno i’r egwyddor o wneud y gwaith dymchwel fesul dipyn mewn modd a fydd yn gostwng yn sylweddol nifer y tyrbinau sydd ar y safle. Mae amod drafft 5 yn ceisio sicrhau y gwneir i ffwrdd â’r fferm wynt arfaethedig wedi iddo fod yn gweithredu am 25 blynedd. Argymhellir bod y cais yn cael ei ganiatáu oherwydd y buddiannau tymor byr o ran cynhyrchu pŵer, y rheolaeth dros yr effaith ar yr amgylchedd a gwneud i ffwrdd â’r tyrbinau cyfredol ond mewn modd sy’n cynhyrchu effeithiau nad ydynt yn ddigon arwyddocaol i wrthbwyso’r manteision.   Yn y tymor hir, mae’r cynllun yn cynnig darpariaeth ar gyfer cael gwared â’r holl dyrbinau sydd wedi lleoliad amlwg ar y safle gan sicrhau felly welliant i’r ardal o gwmpas yr AHNE.

 

Siaradodd y Cynghorydd W.T.Hughes fel Aelod Lleol. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Cynghorydd Hughes wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu. Serch hynny, mae’r Cod Ymddygiad i Aelodau yn caniatáu iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ar yr un sail ac i’r un graddau ag aelod o’r cyhoedd ar yr amod ei fod yn gadael y cyfarfod ar ôl gwneud ei sylwadau. Wedi i’r Cynghorydd Hughes annerch y Pwyllgor, aeth allan o’r cyfarfod.

 

Rhoes y Cynghorydd John Griffith, Aelod o’r Pwyllgor, ei farn hefyd fel aelod ardal etholiadol gyfagos a chododd bryderon mewn perthynas â’r cynnig oherwydd yr effaith weledol a gaiff ar natur a chymeriad y dirwedd o’i gwmpas a’r ffaith ei fod mor agos at yr AHNE. Soniodd am gyfres o bolisïau yr oedd y cynnig, yn ei farn ef, yn eu torri yn enwedig felly’r ffaith ei fod yn annerbyniol oherwydd ei effaith andwyol ar y dirwedd a chyfeiriodd at yr effeithiau cronnol andwyol y cynnig cyfredol ynghyd â ffermydd gwynt eraill yn yr ardal. 

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd ac yn y drafodaeth ddilynol, gofynnodd am sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer digomisiynu’r fferm wynt gyfredol a gorfodi’r trefniadau hynny ynghyd â materion yn ymwneud ag effeithiau sŵn. Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar yr amodau sy’n gysylltiedig â digomisiynu’r fferm wynt gyfredol. Eglurodd y Rheolwr Gweithrediadau Iechyd yr Amgylchedd y sefyllfa mewn perthynas â rheoli effeithiau sŵn.

 

Wedi pwyso a mesur, roedd y mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi’r cais am resymau cynllunio; oherwydd bod fferm wynt eisoes ar y safle ac oherwydd y newidiadau i’r cynllun a’r modd y bwriedir lliniaru ei effeithiau drwy hynny. Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cefnogi’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes, cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog ond ni chafwyd eilydd i’w gynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymatalodd y Cynghorydd Victor Hughes ei bleidlais)

7.3       28C257A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog

 

Galwyd y cais i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan y Cynghorydd Richard Dew. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2016, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd roedd o’r farn ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50; oherwydd ei fod yn gais mewnlenwi ar safle tir llwyd; oherwydd nad yw’r cynnig yn cael effaith ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos ac oherwydd y bydd yn gwella edrychiad a mwynderau’r ardal leol.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion o’r farn bod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl yn annerbyniol oherwydd mae’n gwrthdaro gyda Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn. Mae’n debyg y byddai datblygu’r safle yn gosod cynsail ac yn arwain at bwysau ar gyfer datblygiadau tai ychwanegol yn y cyffiniau. Ni ystyrir bod natur tir llwyd y safle ynddo’i hun yn ddigonol i oresgyn y gwrthwynebiad polisi. Pery’r argymhelliad i fod yn un o wrthod.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol, nad oedd yn dymuno ychwanegu at y sylwadau a wnaeth yn y cyfarfod blaenorol.

 

Ail-gadarnhaodd y Pwyllgor ei gefnogaeth i’r cais. Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes nad oedd ef wedi newid ei feddwl ynghylch addasrwydd y safle ar gyfer datblygiad preswyl a’r ffaith y byddai hynny’n gwella edrychiad yr ardal leol a chynigiodd y dylai’r Pwyllgor ail-gadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r cais. Fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais gydag amodau priodol y bydd y Swyddogion yn penderfynu arnynt.(Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Griffith ar y mater oherwydd nad oedd wedi mynychu’r cyfarfod blaenorol)

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Pwyllgor erbyn hyn wedi bod yn eistedd ers tair awr (roedd ceisiadau 12.1 a 12.2 wedi cael eu hystyried dan Eitem 5 - Siarad Cyhoeddus), ac yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, bod angen i’r mwyafrif o’r Aelodau o’r Pwyllgor a oedd yn bresennol wneud penderfyniad i gytuno i barhau gyda’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai’r cyfarfod fynd yn ei flaen.

Dogfennau ategol: