Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1  36C338A - Ysgol Henblas, Llangristiolus

Cofnodion:

11.1 36C338A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn gweithio yn adran gynllunio’r Cyngor Sir. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion paragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y broses gyhoeddusrwydd, yn dilyn derbyn cynllun diwygiedig mewn perthynas â lleoliad y garreg, wedi cael ei hail-adrodd ac mai’r dyddiad diwethaf ar gyfer derbyn sylwadau oedd 2 Awst, 2016. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, roedd dau lythyr yn gwrthwynebu’r cais a phump o’i blaid wedi dod i law. Cadarnhaodd y Swyddog fod llythyr pellach o wrthwynebiad wedi’i dderbyn a bod y gwrthwynebwyr yn codi materion ynghylch addasrwydd y cynnig ym mhentref Llangristiolus o ystyried ei faint a fforddiadwyedd. Ym marn y Swyddog, ystyrir bod codi’r annedd arfaethedig yn y lleoliad hwn yn dderbyniol; mae’r cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi ac ni fydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos. Mae caniatâd amlinellol eisoes wedi ei roi ar safle’r cais. Yr argymhelliad felly yw un o ganiatáu’r cais.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at fater yn ymwneud ag edrych drosodd a gofynnodd am eglurhad o’r canllawiau sy’n ymwneud â phellteroedd gwahanu a ffenestri ystafelloedd gwely. Yn siarad fel Aelod Lleol, cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at lythyr o wrthwynebiad a gyflwynwyd gan ddeilydd eiddo cyfagos lle dygir sylw at bryderon ynglŷn â’r llain welededd a’r ffaith fod dŵr yn sefyll ar y plot yn enwedig ar adegau o law trwm.  Mae Llangristiolus yn ardal lle mae’r graig yn agos iawn at wyneb y tir. Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes at brawf mandylledd a gomisiynwyd gan yr ymgeisydd a dywedodd i’r prawf gael ei gynnal mewn tywydd sych. Bwriedir hefyd lleoli ffos gerrig yn y rhan wlypaf o’r safle wrth y wal derbyn gydag eiddo’r gwrthwynebwr. Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes fod perchennog y tir wedi gwrthwynebu cais a gyflwynwyd yn 2009 gan gymydog ar safle cyfagos oherwydd bod y safle, yn hanesyddol, yn dueddol o gael ei effeithio gan lifogydd a dyfynnodd o’r ohebiaeth a gyflwynwyd ar y pryd. Cyfeiriodd hefyd at e-bost dyddiedig Mai 2015 gan Swyddog o Adran Ddraenio’r Cyngor yn gofyn am fanylion y trefniadau i gael gwared ar ddŵr wyneb. Yn wyneb y wybodaeth hon, dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod o’r farn nad oedd y problemau draenio wedi cael sylw digonol a chynigiodd y dylai’r cais gael ei ohirio hyd oni fyddai’r materion hyn ynghyd â’r pryderon ynglŷn â’r fynedfa, wedi cael eu datrys. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod yr ymgeisydd wedi comisiynu adroddiad gan ymgynghorwyr proffesiynol ynghylch mandylledd a bod y prawf mandylledd wedi cael ei gynnal ar 2 Ionawr yn dilyn cyfnod o dywydd gwlyb. Mae’r adroddiad yn cydymffurfio gyda Chrynhoad 365 y BRE ac mae wedi cael ei sgriwtineiddio a’i dderbyn fel asesiad dilys gan Swyddogion y Cyngor. Mae Rhan H y Rheoliadau Adeiladu’n darparu hierarchaeth o opsiynau ar gyfer delio gyda materion draenio, felly mae mesurau ar gael ar gyfer delio gydag unrhyw broblemau draenio posibl ar y safle. Mae’n bosib hefyd i’r Pwyllgor fynnu ar amod Grampian fel rhan o’r caniatâd yn gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno manylion llawn am y cynllun draenio cyn cychwyn gwaith ar y safle. Mae yna fynedfa eisoes ar y safle ynghyd â chaniatâd amlinellol am annedd; nid yw’r cais fel y’i cyflwynwyd yn ychwanegu at y sefyllfa draffig ac mae’n ddiwygiad i gynnig i godi un annedd sengl lle mae yna eisoes ganiatâd amlinellol ar gyfer un annedd. Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn argymell caniatáu gydag amodau. 

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod yr Adran Briffyrdd wedi ystyried y cais pan gafodd ei gyflwyno fel un amlinellol ac fe gadarnhaodd fod y cynnig yn cydymffurfio gyda safonau cenedlaethol a’i fod yn dderbyniol o safbwynt Priffyrdd. Fodd bynnag, byddai Swyddogion Priffyrdd yn fodlon trafod y mater gyda’r Aelod Lleol os oedd o’r farn y gellir gwneud gwelliannau pellach.

 

Penderfynwyd gohirio’r cais fel y gellir cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynghylch materion priffyrdd a draenio.

 

 

Dogfennau ategol: