Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 10C130 – Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

12.2 10C131 – Maes Parcio Broad Beach, Rhosneigr

 

12.3 18C224A – Fron Hendre, Llanfairynghornwy

 

12.4 25C255A – Tan Rallt, Carmel

 

12.5 19LPA1028/CC – 5//5a Stanley Crescent, Caergybi

Cofnodion:

12.1 10C130 – Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Porth Trecastell, Aberffraw

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod aelod lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd y teimladau cryf yn y gymuned leol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad ar y cais fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards, Siaradwraig Gyhoeddus o blaid y cais a dywedodd bod y cais yn un i leoli peiriant talu am barcio 1.9 metr o uchder a 0.4 metr o led ym maes parcio Porth Trecastell. Er mwyn lliniaru effaith weledol y peiriant talu am barcio ar y dirwedd o’i gwmpas sydd wedi’i dynodi’n AHNE,  bydd y peiriant yn cael ei osod yn ymyl strwythurau eraill megis arwydd ‘tir preifat’ a biniau gwastraff. Bydd y peiriant wedi’i sgrinio o’r dirwedd ehangach gyda thwyni tywod a llystyfiant. Bydd y peiriant yn y maes parcio sydd ym mherchenogaeth breifat Stad Bodorgan a bydd yn cael ei reoli gan y Stad. Nid oes wnelo’r cais â newid defnydd tir a bydd y tir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel maes parcio. Ni fydd unrhyw newidiadau ychwaith i’r oriau y bydd y maes parcio ar gael i’w ddefnyddio. Mae’r egwyddor o godi am barcio mewn maes parcio yn ymyl traethau yn un sydd wedi’i derbyn mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled Ynys Môn gan gynnwys Llanddwyn a Benllech. Mae Stad Bodorgan wedi ymgynghori ar y bwriad i godi tâl am barcio yn ystod Haf 2015; bydd yr incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i wella’r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr yn yr ardal, gan gynnwys y fynedfa i’r traeth a’r llwybr arfordirol. Mae’r Adran Briffyrdd wedi dweud y bydd yn gwahardd parcio ar y briffordd. Yn y llythyrau o wrthwynebiad a gafwyd, mynegwyd pryderon y bydd y maes parcio ar gau dros nos. Nid yw hynny’n rhan o’r cais. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a phwysleisiodd rinweddau Stad Bodorgan fel perchennog tir o ran y modd y mae’n gwasanaethu ei gymunedau ac mai awydd i wella safonau yw’r rheswm dros gyflwyno’r cais. Nid yw’r Adran Briffyrdd yn gwrthwynebu’r cais. Un o’r problemau mwyaf yw'r carafannau’n gwersylla yno dros nos ac am gyfnodau estynedig a’r llanast y mae hynny’n ei achosi; mae Stad Bodorgan yn ceisio mynd i’r afael â’r mater hwnnw a gwella pethau i ymwelwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad 12 mis yn ôl gyda nifer o bartïon â diddordeb.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol hefyd, cadarnhaodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod wedi galw’r cais i mewn oherwydd y pryderon niferus a fynegwyd ynglŷn â’r cais gan bobl leol a chan bobl o bellach draw sy’n defnyddio’r traethau. Yr oedd hefyd wedi gofyn am sylwadau drwy Facebook ac yn sgil hynny, cafwyd 8 o ymatebion hwyr ac anfonwyd y rheiny ymlaen i’r Adran Gynllunio. Esboniodd y Cynghorydd Ann Griffith mai’r ardal dan sylw yw Porth Trecastell a Thyn Towyn. Dywedodd mai’r prif reswm am y gwrthwynebiadau oedd parcio ar y briffordd a darllenodd  rai o sylwadau’r gwrthwynebwyr a oedd yn tanlinellu’r pryderon y gallai codi am barcio yn y meysydd parcio arwain at barcio ar briffordd brysur gan arwain at effeithiau andwyol, problemau posibl o ran diogelwch ar y ffyrdd a gallai hefyd olygu na fydd y cyhoedd sy’n ymweld yn defnyddio’r traethau a’r cyfleusterau eraill gyda hynny’n niweidio’r economi leol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Lleol ardal etholiadol gyfagos, i’r Pwyllgor wrthod y cais hwn a chais 12.2 ar y rhaglen am y rheswm bod lleoli peiriannau talu am barcio mewn AHNE yn anaddas; a oes angen codi am barcio o gwbl a’r ffaith y bydd yn arwain at barcio ar y lôn.  

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i leoli peiriant codi am barcio yn y maes parcio ac nid i wneud penderfyniad naill ai ar y defnydd o’r maes parcio na’r egwyddor o godi am barcio. Derbyniwyd 8 o wrthwynebiadau yn codi nifer o faterion gan gynnwys y ffaith y bydd y cynnig yn rhwystr i barcio; nid yw hynny’n rhan o’r cais. Mae’r maes parcio mewn perchenogaeth breifat ac mae codi tâl am barcio yn fater preifat i berchennog y tir. Ystyrir y byddai gosod peiriant talu am barcio yn cael effaith niwtral ar y dirwedd o’i gwmpas  ac mae wedi ei sgrinio’n ddigonol gan y twyni tywod a’r llystyfiant sydd o’i gwmpas. Nid ystyrir ychwaith y byddai’n cael effaith ar fwynderau’r ardal o’i gwmpas neu unrhyw eiddo cyfagos i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau ei wrthod.  Nid oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad ond mae wedi dweud y bydd yn ceisio atal parcio ar yr A4080 drwy ddefnyddio ei bŵer dan y Ddeddf Priffyrdd.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod problemau ar hyn o bryd gyda cheir yn cael eu parcio ar y briffordd a bod yr Adain Draffig wedi cadarnhau bwriad i wella’r briffordd drwy weithredu mesurau i atal parcio ar y ffordd – yn fwy na thebyg drwy gyflwyno llinellau melyn dwbl. Mae’r bwriad hwnnw wedi’i gadarnhau waeth beth fydd canlyniad y cais dan sylw.

 

Roedd cais y wedi rhannu’r Pwyllgor gyda rhai Aelodau’n teimlo y dylid cymryd safbwynt ehangach gan gadw mewn cof effeithiau posibl y cynnig nid yn unig ar drigolion lleol, ond ar dwristiaeth a’r economi leol o ganlyniad ac y byddai caniatáu parcio am ddim mewn mwy o feysydd parcio yn fwy manteisiol i’r Ynys a’i heconomi na chodi am barcio. Dygodd Aelodau eraill sylw at y ffaith y codir am barcio eisoes mewn nifer o feysydd parcio ar hyd yr arfordir a bod nifer o’r rheiny ym mherchenogaeth y Cyngor. Ni fydd gosod peiriant talu am barcio yn y maes parcio a chodi am barcio yn cael unrhyw effaith ar barcio ar y briffordd oherwydd mae hynny’n digwydd yn barod pan mae’r maes parcio’n llawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd W.T.Hughes. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ei gario gan 3 pleidlais i 2 gyda’r Cynghorwyr John Griffith a Vaughan Hughes yn pleidleisio o blaid y cais a’r Cynghorwyr Kenneth Hughes, Victor Hughes a W T Hughes yn pleidleisio yn erbyn. Ymatalodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bleidlais oherwydd nid oedd yn teimlo y gallai wneud penderfyniad ar y cais heb wybod yn gyntaf faint oedd yn debygol o gael ei godi am barcio a’r defnydd a fyddai’n cael ei wneud o’r incwm, ffactorau a oedd, yn ei farn ef, yn rhai dylanwadol.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y tebygrwydd y byddai’n cael effaith negyddol ar bobl leol ac ar dwristiaeth.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoddi cyfle i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais).

 

12.2 10C131 - Cais llawn ar gyfer lleoli peiriant talu am barcio ym Maes Parcio Traeth Llydan, Rhosneigr.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod aelod lleol wedi ei alw i mewn i’r Pwyllgor benderfynu arno oherwydd y teimladau cryf yn y gymuned leol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor er mwyn siarad ar y cais fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-Gadeirydd i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Siaradodd Ms Sioned Edwards, Siaradwraig Gyhoeddus o blaid y cais a dywedodd mai cais oedd hwn i osod peiriant talu am barcio ar dir preifat ac nad oedd wnelo fo ddim â’r egwyddor o barcio ar y safle. O ran yr effeithiau ar dwristiaeth a’r economi leol, mae’r egwyddor o dalu am barcio wedi’i sefydlu mewn ardaloedd eraill, gan gynnwys y maes parcio sydd ym mherchenogaeth y Cyngor. Nid oes raid i Stad Bodorgan gynnig y safle dan sylw fel maes parcio ac nid oes gan y cyhoedd unrhyw hawliau awtomatig mewn perthynas â’r tir. O ran y ffaith y byddai clybiau lleol efallai’n dymuno defnyddio’r maes parcio ar ôl 7pm., e.e. y Clwb Syrffio, roedd hi’n hyderus y bydd modd i Stad Bodorgan drefnu hynny.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywed y Cynghorydd Peter Rogers fod y maes parcio yn yr achos hwn, yn cynnwys toiledau sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan Stad Bodorgan ac sy’n ased gwerthfawr. Dywedodd y byddai gosod peiriant talu yn anogaeth i garafannau beidio â pharcio yno am gyfnodau hwy a’r costau clirio sy’n gysylltiedig â hynny.  Bydd yr incwm yn cyfrannu yn y man tuag at ail-wynebu’r ardal gyfan gan ei gwneud felly’n fwy atyniadol i dwristiaid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith nad oedd ganddi hi, fel Aelod Lleol, unrhyw beth o bwys i’w ychwanegu mewn perthynas â’r cais hwn ond gofynnodd i’r Pwyllgor, os yw’n caniatáu’r cais hwn, ystyried a oes unrhyw fodd o ofyn i Stad Bodorgan ystyried cynnig consesiwn i bobl leol. 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio nad oedd gan y Swyddogion unrhyw wrthwynebiad i’r cais a bod mater consesiwn yn fater preifat nad oes modd ei reoli drwy amod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol at argymhelliad y swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3    18C224A – Cais llawn i addasu adeiladau allanol yn ddwy annedd ynghyd â gosod gwaith trin carthion yn Fron Hendre, Llanfairynghornwy

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor sy’n berchen ar y tir wrth y fynedfa i’r safle.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio y cafwyd lluniadau diwygiedig mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Adain yr Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd a chadarnhawyd bod y rhain yn dderbyniol o ran dyluniad a’r effaith ar yr adeiladau eu hunain ac ar yr ardal o gwmpas yr adeiladau rhestredig sydd gerllaw. Derbyniwyd un llythyr o wrthwynebiad am y rheswm hwn, fel arall, nid yw’r ymgyngoreion statudol wedi mynegi unrhyw bryderon. Nid ystyrir y byddai effeithiau cynllun ar ecoleg yn rhai na fyddai modd eu lliniaru ac nid ystyrir y byddai’r cynllun yn cael effaith ar yr AHNE i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4    25C255A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir yn Tan Rallt, Carmel

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Llinos Medi Huws wedi gofyn am ymweliad safle. Yn siarad ar ran y Cynghorydd Llinos Medi Huws, dywedodd y Cynghorydd John Griffith y gofynnwyd am ymweliad safle fel bod yr Aelodau’n cael gweld safle’r cais drostynt eu hunain oherwydd ei fod ar ffin y pentref ond o fewn yr ardal lle mae cyflymder wedi’i gyfyngu i 30 milltir yr awr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod yr Aelodau’n ymweld â’r safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddir.

 

12.5    19LPA1028/CC – Cais llawn ar gyfer gosod plac allanol yn 5/5a Stanley Crescent, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor Sir ydyw.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar yr amod hefyd na cheir unrhyw wrthwynebiadau iddo cyn i’r dyddiad hysbysu ddod i ben.

Dogfennau ategol: