Derbyn diweddariad ar drefniadau newydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Mae’r adroddiad sydd wedi’i atodi yn cynnwys y ddogfennaeth ganlynol:
· Adroddiad i Gabinet Gwynedd 13 Medi, 2016
· Adroddiad i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn 19 Medi, 2016
· Model Llywodraethiant – Atodiad 1
· Crynodeb Gweithredol o Strategaeth Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer ADY a Chynhwysiad – Atodiad 2
· Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn – Atodiad 3
Cofnodion:
Cyflwynwyd dogfennaeth Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn fel y’i chyflwynwyd i Gabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod ar 13 Medi, 2016 ac i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 19 Medi, 2016.
Adroddodd Uwch Reolydd Cynhwysiad Cyngor Gwynedd bod Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn wedi bod drwy brosesau democrataidd y ddwy sir ac wedi derbyn cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn yn eu cyfarfodydd yn gynharach yn y mis. Gan hynny fe ellir yn awr gychwyn ar y broses o roi’r strategaeth ar waith yn y ddwy sir a bydd y trafodaethau sydd wedi bod hyd yma yn canolbwyntio yn awr ar wneud hynny. Bellach, daethpwyd i gytundeb ynghylch 14 o wasanaethau gwahanol a’r rheini’n cwmpasu nifer o feysydd ar draws anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad a fydd yn dod o dan yr un to o dan y Strategaeth. Bydd y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad newydd yn cael ei letya gan Gyngor Gwynedd ond bydd y ddau gyngor yn monitro’r darpariaethau trwy fyrddau monitro ADYaCh fydd yn adrodd yn ôl i Fwrdd Gweithredol Partneriaethau Addysg Gwynedd ac Ynys Môn fydd yn ei dro yn bwydo i mewn i gyfundrefnau craffu’r ddwy sir a’r Cabinet wedyn yng nghyswllt Cyngor Gwynedd a’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt Ynys Môn.
Dywedodd y Swyddog bod y model llywodraethiant sydd yn cael ei gynnig yn un eithaf cymhleth (Atodiad 1 yn y ddogfennaeth) a bod rhagor o waith mireinio i’w wneud arno i sicrhau bod llais aelodau etholedig yn cael ei glywed yn ddigonol drwy’r strwythur yn enwedig o ran ansawdd y ddarpariaeth. Y cam nesaf yw llythyru staff y Cyd-Bwyllgor a’r ddau awdurdod ar wahan sy’n ymwneud â’r meysydd dan sylw i’w hysbysu’n ffurfiol am ddyfodiad y drefn newydd o weithredu fydd yn di-sodli sefydliad y Cyd-Bwyllgor presennol a’r swyddi ynddo a bydd cyfnod o ymgynghori gyda staff yn dilyn hynny. Felly, mae’n bosibl y gall elfennau o’r Strategaeth newid yn sgîl y broses honno.
Ymhlith prif yrrwyr y strategaeth newydd oedd yr angen i gryfhau trefniadau monitro a chraffu gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad ar draws y ddwy sir. Mae’r darpariaethau hyn yn rhai drudfawr, ac mae angen dangos yn fwy eglur gwerth y darpariaethau, a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud i’r sawl sy’n eu derbyn a hefyd yr effaith maent yn ei gael ar gynnydd y plant. Mae’r gyfundrefn newydd hefyd yn un y mae elfen gryfach o atebolrwydd ynddi. Yn ogystal, mae’r strategaeth yn cyfarch y gofynion newydd a ddaw ar gefn Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod rhagarweiniol y bu hi a’r Is-Gadeirydd yn bresennol ynddo cyn cyfarfod ffurfiol y Cyd-Bwyllgor a dywedodd bod y cyfarfod hwnnw wedi amlygu rhai ystyriaethau y dymunai ddwyn i sylw’r Cyd-Bwyllgor a chael ei gefnogaeth yn eu cylch. Adroddodd am y prif faterion fel a ganlyn –
• Bod angen rhoi rhagor o sylw i gryfhau’r model llywodraethiant ac y dylai Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor ar ran y ddwy sir fod ynghlwm wrth y trafodaethau er mwyn sicrhau bod y trefniadau yn gweddu ag anghenion y ddwy sir.
• Bod angen ystyried beth yw’r oblygiadau i ysgolion ac i gyrff llywodraethu a chyfathrebu’n bositif mewn perthynas â’r newidiadau.
• Bod yna beth pryder ynghylch y camau trosglwyddo; cydnabyddir bod craffu wedi bod yn elfen y gallasai’r Cyd-Bwyllgor fod wedi cryfhau arni yng nghyswllt gwerth, ansawdd a’r llwybr sy’n dod allan o wasanaethau anghenion addysgol arbennig ond ni ddeisyfir gweld gwaith y Cyd-Bwyllgor yn dod i ben yn ddi-symwth a bod rôl iddo gefnogi’r newidiadau. Yr awgrym felly yw bod y swyddogion yn edrych ar y pridoldeb o sefydlu pwyllgor cysgodol yn y cyfnod trosiannol hyd nes bod y model llywodraethiant terfynol yn ei le.
• Ei fod yn awgrym bod adroddiad blynyddol ar weithrediad y gwasanaethau o fewn y strategaeth yn cael ei gyflwyno i bwyllgorau craffu perthnasol y ddwy sir a bod hwythau wedyn yn dethol meysydd i edrych arnynt yn fanylach.
• Bod angen amlygu o fewn y strategaeth, bwysigrwydd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg sef elfen sydd wedi bod yn bwysig i’ r Cyd-Bwyllgor ac un y mae wedi ymdrechu i’w hyrwyddo. Ni ddeisyfir gweld colli’r arbenigedd a’r dealltwriaeth mae’r Cyd-Bwyllgor wedi eu datblygu yn nghyfnod ei weithrediad ac mae angen sicrhau hefyd bod y tîm canolog yn parhau’n gryf yn ieithyddol.
• Bod angen rhagor o drafodaeth ynghylch y ddarpariaeth 16-25 oed fel maes nad yw’r cyfrifoldebau wedi’u gosod allan yn glir o fewn y ddeddfwriaeth newydd. Credir bod lle i bwyllgor cysgodol neu ei debyg osod cyfeiriad yn y cyswllt yma. Yn yr un modd dylid rhoi sylw i’r blynyddoedd cynnar a chredir bod angen i’r gwaith hwn gael ei arwain yn ganolog yn gychwynnol cyn ei drosglwyddo i’r ddau gyngor graffu arno ar wahan.
• Bod yn rhaid cyfleu’r neges yn glir mai’r rhesymeg tu cefn i’r newidiadau a diddymu’r Cyd-Bwyllgor yw er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth ADY a chynhwysiad ar gyfer plant a phobl ifanc y ddwy sir.
Penderfynwyd nodi dogfennaeth y Strategaeth ADY a Chynhwysiad fel y’i chyflwynwyd ac ategu sylwadau’r Cadeirydd ynghylch yr agweddau y dymunir rhoi sylw iddynt wrth symud ymlaen.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI:
• Swyddogion i weithredu’n unol â’r pwyntiau a nodir uchod.
• Diweddariad ar gynnydd i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf.
Dogfennau ategol: