Eitem Rhaglen

Materion yn Codi

·        Cadarnhau yr anfonwyd llythyr at y CBAC ynghylch costau hyfforddiant athrawon ar gyfer y cwrs maes llafur Safon Uwch AG ac argaeledd deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs.

 

·        Rhoi diweddariad ar gynnydd/sefyllfa Ysgol Pencarnsiog.

 

·        Rhoi diweddariad ynghylch yr ysgolion mae Aelodau’r CYSAG wedi ymweld â nhw fel rhan o’r arfer o arsylwi ar gyfnodau addoli ar y cyd ynghyd â’r ysgolion hynny sydd wedi rhoi gwahoddiad am y tymor i ddod.

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd bod cyfnod gwasanaeth Mr Rheinallt Thomas fel cynrychiolydd ar y Pwyllgor wedi dod i ben ar ôl nifer o flynyddoedd. Mae Mr Thomas wedi dweud ei fod yn dymuno aros mewn cysylltiad â’r CYSAG.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y CYSAG bod sedd wag ar y Pwyllgor ar gyfer aelod cyfetholedig. Rhoddwyd cynnig ymlaen i wahodd Mr Thomas i weithredu fel Aelod cyfetholedig o’r CYSAG. Byddai’r broses yn golygu awgrymu i Swyddogion Cyngor yr Ysgolion Sul yn Ynys Môn eu bod yn apwyntio Mr Thomas fel eu cynrychiolydd.

 

GWEITHREDU: Y Swyddog Addysg Cynradd i:-

 

  Ysgrifennu at Mr Rheinallt Thomas yn ei wahodd i wasanaethu fel Aelod cyfetholedig o’r CYSAG; ac os yw Mr Thomas a Swyddogion Cyngor yr Ysgolion Sul yn Ynys Môn yn cytuno â’r cynnig,

  Gwahodd Swyddogion i ffurfioli’r apwyntiad.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Cynradd bod llythyr wedi ei anfon at CBAC ym mis Gorffennaf yn codi pryderon y CYSAG mewn perthynas â chost hyfforddiant i athrawon ar faes llafur newydd y cwrs Lefel “A” AG, a diffyg deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs. Adroddodd y Swyddog nad yw CBAC wedi ymateb i’r llythyr hyd yma.

 

Adroddodd Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, y cynhelir hyfforddiant ar gyfer maes llafur y cwrs TGAU newydd ym mis Chwefror 2017 a bydd y ddarpariaeth yn ddigost. Dywedodd bod cwricwlwm LefelA” AG bron yn barod yn Saesneg a bydd y Gymraeg yn dilyn yn fuan. Nodwyd bod CBAC wedi gwrando er nad ydynt wedi ymateb i’r CYSAG.

 

Arolygiadau Estyn – Gwanwyn 2016

 

Cafwyd diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her (GwE) ar gynnydd yn Ysgol Pencarnisiog, sy’n cael ei monitro gan Estyn ar hyn o bryd. Nodwyd bod yr ysgol, yn dilyn ymweliad yr Ymgynghorydd Her â’r ysgol, wedi ymateb yn syth i sylwadau Estyn, yn arbennig yn y Cyfnod Sylfaen. Rhoddwyd deunyddiau enghreifftiol i’r Pennaeth er mwyn gwella arferion addysgu yn yr ysgol a bydd yr Ymgynghorydd Her (GwE) yn adrodd yn fuan ar y cynnydd.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her ei bod yn hyderus bod yr ysgol yn ymateb yn dda i argymhellion Estyn, a bydd yn dychwelyd i adolygu’r ddarpariaeth AG yn yr ysgol yn ystod tymor y gwanwyn, cyn i Estyn ail-ymweld.

 

Hunan Arfarniadau Ysgolion

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Cynradd ei fod wedi cysylltu ag ysgolion ym mis Medi i ofyn iddynt ystyried gwahodd Aelodau o’r CYSAG i arsylwi cyfnodau addoli ar y cyd. Er bod rhai ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cais, nodwyd nad oedd Aelodau’r CYSAG wedi mynychu unrhyw sesiynau pellach ac nad oedd unrhyw wahoddiadau wedi eu derbyn ar gyfer gweddill y tymor. Cynigiodd y Cynghorydd Gwilym Jones ymweld ag Ysgol Pencarnisiog i arsylwi ar addoli ar y cyd yn yr ysgol.

 

Gweithredu: Y Swyddog Addysg Cynradd i gysylltu â Phennaeth Ysgol Pencarnisiog i drefnu ymweliad gan y Cynghorydd Gwilym Jones i arsylwi addoli ar y cyd yn yr ysgol.

 

Cyfeiriodd Mr Christopher Thomas at y gair ‘INCERTS’ yn y pwynt bwled olaf ar dudalen 4 y Cofnodion. Dywedodd wrth y CYSAG mai ‘Y Sylfaen Asesuyw’r term a ddefnyddir bellach.

 

Cyfeiriwyd at gwricwlwm AG Ysgolion Catholig a nodwyd bod Bwrdd Cenedlaethol Arolygwyr ac Ymgynghorwyr Crefyddol yn paratoi’r holl ddeunyddiau ar gyfer ysgolion Catholig Rhufeinig.

 

Gofynnodd yr Athro Euros W Jones am eglurhad ar ymateb y Canon Robert Townsend fel Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Bangor ynglŷn â defnydd yr Eglwys o derminoleg mewn AG. Codwyd y mater oherwydd bod Estyn, ar brydiau, yn disgrifioaddoli ar y cyd’ (collective worship) mewn ysgolion felcydaddoli’ (joint worship). Nodwyd bod ysgolion Eglwys yn defnyddio’r term ‘cydaddolisef ‘corporate worship’ ond mae’r Eglwys yn gallu defnyddiocydaddoli’ am ‘collective worship’ hefyd pan fod grwpiau crefyddol yn dod ynghyd i addoli.