Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

 

12.2  34C703 – Aldi, Llangefni

 

12.3  45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch

 

12.4  46C530B – Yr Hen Dy Cychod, Lôn Isallt, Trearddur

Cofnodion:

12.1    15C215C – Cais llawn i godi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

Yn dilyn datgan diddordeb yn y cais, nid oedd  y Cynghorydd Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar y mater.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Griffith a’r Aelod Lleol mewn perthynas â’r cais hwn am ymweliad safle er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor gael gwell dealltwriaeth o’r effaith bosibl y gallai’r datblygiad ei gael ar yr ardal gyfagos sydd wedi’i dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

Penderfynwyd y dylid cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.2    34C703 – Cais llawn i ddymchwel y swyddfa bresennol ynghyd â chreu estyniad i faes parcio’r archfarchnad gyfagos yn Aldi, Llangefni.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad yn cynnwys tir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (MD) fod y cynnig yn cynnwys dymchwel hen swyddfeydd Cyngor ac adeiladu maes parcio arno ynghyd ag ailddatblygu’r maes parcio presennol at ddefnydd Aldi Stores Ltd. Bydd y cynnig yn darparu 50 o fannau parcio ychwanegol gan roi cyfanswm o 133 a bydd yn cynnwys torri rhai coed, rhywbeth nad yw Adain yr Amgylchedd Adeiledig yn ei wrthwynebu. Dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yn wreiddiol oedd y byddai yna gyfyngiad o 2 awr ar barcio ond mae’r ymgeisydd wedi cadarnhau ers hynny na fydd cyfyngiad o’r fath yn bodoli. Nid yw adeilad presennol y Cyngor yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall ac o ganlyniad does dim gwrthwynebiad, yr argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais. Dywedodd y Swyddog y byddai biniau ailgylchu’r Cyngor sydd wedi eu lleoli ar y maes parcio presennol yn cael eu symud gan nad ydynt yn ffurfio rhan o’r cais; mae eu hadleoliad yn fater i’r Adran Eiddo.

   

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

12.3    45C84M/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd tir i fod yn gae chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd ym Mhendref, Penlon, Niwbwrch.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

Hysbysodd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (NJ) y Pwyllgor, er bod Siaradwr Cyhoeddus wedi’i gofrestru i siarad yn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r cais, chafodd yr ymgeisydd, yn anfwriadol, mo’r cyfle hwnnw. Argymhellir felly er mwyn gallu rhoi ystyriaeth deg i’r cais y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn rhoi’r un cyfle i’r ymgeisydd gofrestru diddordeb i annerch y Pwyllgor os yw’n dymuno gwneud hynny. 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

12.4    46C530B – Cais llawn i ddymchwel siop bresennol ynghyd â chodi siop newydd yn ei lle yn The Old Boat House, Lôn Isallt, Bae Trearddur.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael ei fod wedi’i alw i mewn gan Aelod Lleol. 

 

Nododd yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu (NJ) fod yr argymhelliad yn un ar gyfer dymchwel y siop bresennol yn ogystal â chodi siop newydd dau lawr yn ei lle ar union yr un safle â’r siop bresennol. Mae’r cais yn debyg iawn o ran graddfa i’r un a gymeradwywyd yn 2014 ond gyda mân newidiadau o ran dyluniad. Mae’r cais yn cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon y gellid troi’r adeilad yn annedd breswyl yn y dyfodol. Nid dyma gynnwys y cais a gyflwynir a phetai cais o’r fath yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol yna byddai polisïau gwahanol yn berthnasol dan amgylchiadau o’r fath. Dywedodd y Swyddog bod Aelod Lleol arall, y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi’r cais gan ei fod yn gynnig adwerthu y mae gwir angen amdano yn yr ardal. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac fe argymhellir ei gymeradwyo.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans, sydd hefyd yn Aelod Lleol, fod y siop bresennol yn fach ac yn anaddas ar gyfer ei defnydd presennol; bydd y cynnig yn ei gwneud yn fwy derbyniol yn weledol ac yn galluogi’r siop i gynnig eitemau newydd ar gyfer eu gwerthu o bosib.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: