Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

7.2  44C102A – Hazelbank, Rhosybol

7.3  45C84M/ENF – Pendref, Penlon, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1          15C215C - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr

 

(Oherwydd iddo ddatgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd T. Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r penderfyniad arno).

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i’r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd y drafodaeth ar yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.    

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid  ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 19 Hydref, 2016.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, sef Aelod Lleol, nad oes unrhyw wrthwynebiadau i'r cais yn lleol.  Nododd fod safle'r cais wedi ei leoli o fewn cyrion pentref Llangadwaladr. Mae Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac o dan HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Credai na fyddai caniatáu'r cais hwn yn cael effaith andwyol ar y dirwedd a’i fod yn gais tirlenwi addas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Griffith at y cyfeiriad yn adroddiad y Swyddog at effaith datblygiad o'r fath ar yr AHNE; ‘roedd hi oedd o'r farn na fyddai annedd yn y lleoliad hwn yn cael effaith negyddol ar yr AHNE.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, sef Aelod Lleol, fod yr ymgeisydd yn gofalu am ei fam oedrannus sydd yn byw yn Tyddyn Bwrtais.  Mae'r annedd wedi bod yn y teulu ers dros ganrif.  Ar hyn o bryd mae'r ymgeisydd yn byw mewn carafán ar y safle.  Dywedodd y Cynghorydd Rogers y gellid cynnwys amod gydag unrhyw ganiatâd er mwyn cyfyngu unrhyw ddatblygiad pellach ar y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw'r cynnig yn cael ei ystyried yn  gais mewnlenwi derbyniol oherwydd y pellter rhwng yr annedd arfaethedig a'r rhan o’r pentrefan sydd wedi ei datblygu ac y byddai'n gadael bwlch rhwng y pentref a'r annedd.  Mae safle'r cais o fewn yr AHNE.   Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod Llangadwaladr yn anheddiad rhestredig lle gellir caniatáu plotiau unigol; mae patrwm o anheddau o'r fath yn bodoli eisoes ym mhentref Llangadwaladr. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y gallai datblygiad o'r fath gael effaith andwyol ar y dirwedd a'r AHNE.  Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio gyda Pholisi 50.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais).

 

7.2       44C102A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Hazelbank, Rhosybol

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2016 argymhellodd y Pwyllgor y dylid  ymweld â’r safle a gwnaed hynny ar 21 Medi, 2016. Yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, gohiriwyd rhoi sylw i’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno rhybudd ar yr eiddo cyfagos. Mae hynny bellach wedi ei wneud.  

 

Siaradodd Ms. Rerrie Roma, sef yr ymgeisydd, o blaid y cynnig.  Dywedodd fod safle'r cais y tu ôl i’w hannedd o’r enw Hazelbank. Mae ei merch hynaf yn ddifrifol anabl ac mae ganddi anghenion cymhleth. Nid yw ei chartref presennol, sef  Hazelbank yn cwrdd â’i hanghenion mwyach. Byddai’r annedd arfaethedig yn un a adeiladwyd i’r pwrpas yn bennaf, gyda rhandy i'w merch a'i gofalwyr. Mae ei merch angen cymorth un i un a byddai rhoi’r caniatâd yn ei galluogi i gael cymorth trwy’r adeg a mynediad i gymorth cymunedol yn amlach. Byddai hyn yn gwella ansawdd ei bywyd a byddai'n parhau i fedru byw yn agos i’w theulu.  Dywedodd Ms. Rerrie ymhellach y byddai gwerthu ei thŷ, Hazelbank, yn rhoi sefydlogrwydd ariannol iddi a fyddai’n ei galluogi i adeiladu tŷ pwrpasol ar gyfer ei theulu a’i merch anabl.   Dywedodd Ms Rerrie ei bod yn deall sylwadau yn adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor sy’n nodi y dylid gwrthod y cais oherwydd datblygiad tandem; mae’r  annedd arfaethedig yn gorwedd rhwng ffin anheddiad pentref Rhosybol. Nododd y byddai gan yr annedd fynediad arall hefyd rhag ofn y byddai angen un.  Mae digon o dir o amgylch Hazelbank i ganiatáu preifatrwydd oddi wrth yr annedd newydd.

 

Holodd y Pwyllgor Ms. Rerrie ynghylch a oedd wedi ystyried troi’r adeiladau allanol niferus yn annedd neu eu dymchwel ac adeiladu ar ôl-troed yr adeiladau allanol hynny; byddai hyn yn osgoi gorfod ymwthio i’r cefn gwlad.  Eglurodd Ms Rerrie bod yna fater preifatrwydd ar gyfer Hazelbank a'r annedd newydd arfaethedig; dyma pam ei bod wedi dewis y safle dan sylw.  Holodd y Pwyllgor ymhellach ynghylch pam nad oedd yr ymgeisydd wedi ystyried ymestyn ei heiddo, sef Hazelbank, ar gyfer ei merch anabl.  Ymatebodd Ms Rerrie y byddai'n gostus iawn iddi hi a'r awdurdod lleol i adnewyddu hen dŷ. Y rheswm am adeiladu o’r newydd oedd y byddai'n gost effeithiol ar gyfer y teulu i’r dyfodol.

 

Siaradodd y Cynghorydd W T Hughes fel Aelod Lleol a dywedodd fod y teulu wedi bod yn byw ym mhentref Rhosybol ers dros 25 mlynedd.  Mae Ms Rerrie yn dymuno darparu ar gyfer ei merch anabl ar gyfer y dyfodol. Nid yw'r Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r mynediad i'r safle datblygu. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf er mwyn caniatáu i'r ymgeisydd gyflwyno rhybudd ar eiddo cyfagos.  Mae ei chymydog wedi gwrthod gostwng uchder y wal rhwng y ddau eiddo ar hyn o bryd.  Byddai hwn yn fater i'r ymgeisydd ei ddatrys pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu cymeradwyo'r cais.  Dywedodd y Swyddog fod Rhosybol yn cael ei nodi fel Anheddiad Rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn sy'n caniatáu ceisiadau am blotiau unigol o fewn neu ar gyrion pentref. Dywedodd fod y fynedfa i'r safle yn annerbyniol oherwydd y byddai’r datblygiad yn gyfystyr â datblygiad tandem h.y. un tŷ y tu ôl i’r llall ac yn rhannu'r un fynedfa.    Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, pe bai'r Pwyllgor yn dymuno cymeradwyo'r cais, y byddai modd gosod amod 'Grampian' yn datgan na all unrhyw ddatblygiad ddigwydd heb gytundeb rhwng y ddwy ochr bod uchder y wal rhwng y ddau eiddo yn cael ei ostwng.  Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans fod darparu cymorth a chyfleusterau ar gyfer plentyn anabl yn ganmoladwy.  Wedi iddo ymweld â'r safle nid oedd yn ystyried bod rheswm i beidio â chefnogi'r cais gan nad yw'n ymwthio nac yn amharu ar unrhyw AHNE; nid oedd yn ystyried y byddai unrhyw broblemau o ran datblygiad tandem. Cynigiodd y Cynghorydd Evans y dylid cymeradwyo’r cais.  Eiliodd y Cynghorydd WT Hughes y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, er ei fod yn cydymdeimlo ag awydd yr  ymgeisydd i ddarparu cartref pwrpasol ar gyfer ei merch anabl, roedd yn ystyried bod y mynediad i'r safle yn beryglus.  Roedd o'r farn y dylai'r ymgeisydd ailymgeisio am ganiatâd cynllunio unwaith y bydd y mater ynghylch gostwng uchder y wal wedi ei  ddatrys.  Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd T V Hughes y cynnig. 

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, ond gydag amod Grampian mewn perthynas â’r mynediad oherwydd ystyrir na fydd y cais yn creu datblygiad tandem.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio'n otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu'r cais).

 

7.3           45C84M / ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer newid defnydd a wneir o dir i fod yn gae  chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd yn Pendref, Penlon, Niwbwrch

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i'r mater fel Aelod Lleol.  Cadeiriwyd y drafodaeth at yr eitem gan yr Is-Gadeirydd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Dywedodd Mr. John Ifan Jones, sef siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r  cynnig, ei fod yn cynrychioli'r trigolion lleol. Dywedodd fod y tir yn Pendref, Penlon wedi bod yn dir amaethyddol ac yn dir pori ers cryn amser. Mae Polisi Cynllunio D7 - cadw defnydd amaethyddol yng nghategorïau 1, 2 a 3 yn berthnasol i’r cais; mae’r cais hwn yn disgyn i gategori 3.  Mae'r tir yn ymylu ar yr AHNE ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae Polisi 33 o Gynllun Lleol yn dweud bod cadwraeth ardaloedd o'r fath yn hollbwysig. Mae Polisi D9 yn gwahardd datblygu mewn ardaloedd sensitif ac nid yw’n caniatáu effeithio ar gymeriad tir.  Dywedodd fod yna gae chwarae eisoes yn yr ysgol gynradd leol ynghyd â chae chwarae arall a grëwyd yn ddiweddar ar gost sylweddol i'r Cyngor. Mae llygredd sŵn yn sgil defnyddio safle'r cais.  Mae'n groes i Bolisi CH1 a Pholisi NCT21 - dylid gosod cyfleusterau mewn lleoliadau pentref ar gyfer ardaloedd gwledig.  Mae Cyngor Cymuned Rhosyr wedi mynegi gwrthwynebiad i'r cais oherwydd bod y safle yn rhy bell o’r prif glwstwr tai i fod yn ased gwerthfawr i'r gymuned.  Dywedodd hefyd fod y fynedfa i'r cae chwarae yn llawer mwy peryglus na'r cais blaenorol am gyfleuster parcio ar gyfer bwyty a wrthodwyd fis Rhagfyr diwethaf. Mae mynedfa newydd ar ffordd 60 milltir yr awr ac mae mwy o gerddwyr yn defnyddio'r llwybr arfordirol cyfagos.   Roedd yn ystyried nad oedd y peryglon o lifogydd wedi cael digon o sylw.

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Jones ynghylch pwy sy'n defnyddio'r cae chwarae gan nad yw’r tîm pêl-droed lleol yn bodoli mwyach yn y pentref a holodd hefyd pa ddefnydd y mae’r cais yn bwriadu ei wneud o’r tir.  Atebodd Mr Jones ei fod yn amlwg bod plant a phobl ifanc wedi bod yn defnyddio'r cae gan fod trigolion wedi bod yn clywed sŵn a rhegi yn dod oddi yno. Dywedodd fod caniatâd wedi ei wrthod i’r ymgeisydd greu maes parcio ar y tir ond roedd yn ystyried bod y cais hwn yn llawer gwaeth gan y bydd y cae yn cynnwys maes parcio a bydd mwy o bobl yn defnyddio'r tir ar gyfer gweithgareddau chwaraeon. 

 

Siaradodd Mr Liam Barrie, sef yr ymgeisydd, o blaid y cynnig.   Dywedodd eu bod yn cynnig cae chwarae at ddefnydd y gymuned. Yn wreiddiol roedd y cae dan sylw yn rhan o'u busnes ac ‘roedd ffermwr lleol yn prydlesu'r tir ganddynt fel tir pori. Cysylltodd y tîm pêl-droed lleol â nhw ar y pryd i ofyn a allent ddefnyddio'r cae. Dywedodd y gallai ei fusnes gyfiawnhau colli’r arian a enillwyd – gellid cyfiawnhau drwy ganiatáu i’r gymuned a’i gwsmeriaid yn y bwyty lleol ddefnyddio’r cae.  ‘Roeddent wedi cytuno i blannu dros fil o goed o amgylch y cae cyfagos yn ystod y 12 mis diwethaf i bwrpas sgrinio. Mae maes parcio dynodedig wedi ei greu.  Trefnwyd sesiynau ymarfer i blant ynghyd â sesiynau saethyddiaeth a croquet.

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Barrie am y defnydd cymunedol y bwriedir ei wneud o’r cae ac am y pryderon lleol o ran materion diogelwch yn sgil plant yn cerdded o'r pentref ar ffordd brysur. Atebodd Mr Barrie nad oedd y cais arfaethedig yn gais am gae pêl-droed dynodedig; mae’n gae i blant a'r gymuned ei ddefnyddio at ddibenion hamdden. Dywedodd fod yna lwybr troed o'r pentref i'r safle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, sef Aelod Lleol, ei fod yn cefnogi’r cais.  Nododd ei fod wedi trefnu i gae fod ar gael ar gyfer y tîm pêl-droed lleol rai blynyddoedd yn ôl ond na wnaed cais am ganiatâd cynllunio.  Pwysleisiodd fod angen cyfleuster o'r fath i blant a phobl ifanc pentref Niwbwrch, mae hon yn ardal ddifreintiedig.  Bwriedir cau'r ysgol gynradd leol yn y dyfodol ac ni fydd unrhyw gyfleuster yn yr ardal.  Mae angen cefnogi busnesau lleol fel hyn sy'n barod i helpu’r gymuned. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, sef Aelod Lleol, ei bod wedi galw’r cais i mewn i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno oherwydd pryderon a chefnogaeth i’r cais o fewn y gymuned leol.  Mae'r Cyngor Cymuned wedi mynegi ei wrthwynebiad i'r cais.  Dywedodd y Cynghorydd Griffith y bydd Ysgol yr Unfed Ganrif ar Hugain yn cael ei datblygu ym mhentref Niwbwrch yn y dyfodol agos a fydd yn ymgorffori’r holl gyfleusterau ar gyfer y plant.

 

Cafwyd diweddariad i’r adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio a chadarnhaodd bod 94 o lythyrau o gefnogaeth a deiseb gyda 50 o lofnodion yn gwrthwynebu'r cais wedi dod i law, ond nid oedd cyfeiriadau wedi cael eu rhoi ar y ddeiseb. Mae llythyr yn gwrthwynebu wedi dod i law gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.  Dywedodd y Rheolwr ei fod yn ystyried bod newid y defnydd a wneir o’r tir i faes chwarae ynghyd â chreu mynedfa newydd yn dderbyniol ac na fyddai'n cael effaith andwyol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn croesawu datblygiad o'r fath at ddefnydd y gymuned leol.  Dywedodd nad yw hwn yn gae pêl-droed dynodedig;  ardal hamdden ar gyfer y gymuned ydyw yn hytrach.

 

‘Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts hefyd yn cefnogi’r cais ac yn croesawu  datblygiad o'r fath fel mantais gymunedol ar gyfer pentref Niwbwrch. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Eiliodd y Cynghorydd Jeff Evans y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i wrthod.

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Ymataliodd y Cynghorwyr T V Hughes a Raymond Jones rhag pleidleisio).

 

Dogfennau ategol: