Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  15C30H/FR – Fferm Pen y Bont  Malltraeth

12.2  20C304A – Bron Wendon, Cemaes

12.3  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

12.4  23C280G – Plas Llanfihangel, Capel Coch

12.5  25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerchymedd

12.6 46C572 – Glan Traeth, Trearddur

Cofnodion:

 12.1    15C30H / FR - Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau cyfredol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol, ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farming Touring and Camping, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T V Hughes y dylid ymweld â safle’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith fel Aelod Lleol.   Y rheswm a roddwyd dros  ymweld â'r safle oedd i gael golwg ar y safle i garafannau teithiol a gwersylla sydd ym Mhen y Bont ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle i edrych ar safle'r cais.

 

12.2     20C304A - Cais llawn i newid defnydd o ran o annedd i Ddosbarth A3 (bwyd poeth i fynd allan) ynghyd â chreu mynedfa i gerddwyr yn Bron Wendon, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol.

 

Dywedodd Mrs Anna Fern, sef siaradwr cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r  cynnig, ei bod yn cynrychioli trigolion Penrhyn,Cemaes. Dywedodd fod y trigolion wedi mynegi pryderon o ran parcio a’r traffig ychwanegol yn sgil danfoniadau a chasglu gwastraff.   Nid oes troedffordd ger y safle.  Mae Penrhyn, Cemaes yn ardal o harddwch eithriadol ac yn agos i'r llwybr arfordirol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern a oes unrhyw eiddo busnes gwag ym mhentref Cemaes ar gyfer darparu cyfleuster o'r fath.   Dywedodd Mrs Fern bod yna siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghemaes a chredai fod y rhent a godir amdanynt yn rhesymol. Gofynnodd y Pwyllgor i Mrs. Fern hefyd a yw o'r farn bod  angen cyfleuster o'r fath yng Nghemaes. Dywedodd Mrs Fern ei bod ar ddeall mai nod yr ymgeisydd yw denu busnes gan bobl sy'n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol.

 

Siaradodd Mrs. Marcie Layton, sef yr ymgeisydd, o blaid y cynnig. Dywedodd Mrs. Layton mai ei nod yw darparu siop prydau iach i bobl ym mhentref Cemaes. Dywedodd fod y gyfradd gordewdra yng Nghymru yn uchel ac roedd yn ystyried y gallai gyfrannu o ran helpu i gynnig opsiynau bwyd iach i bobl yn hytrach na'r gwasanaethau tecawê arferol oherwydd nad oedd o'r farn bod y stryd fawr yng Nghemaes  angen opsiwn arferol arall o’r fath.  Dywedodd Mrs Layton ei bod yn gobeithio y byddai’n well gan bobl sy'n cerdded ar y llwybr arfordirol a phobl yn y gymuned gael opsiwn bwyd iach ger yr arfordir. Dywedodd ei bod yn cael ei mentora a’i chefnogi gan Prime Cymru i allu cynnig dewisiadau bwyd iach i bobl. Gallai menter o’r fath arwain at gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.  

 

Holodd y Pwyllgor Mrs. Layton pam nad yw'n dymuno rhentu siop ar y stryd fawr yng Nghemaes.   Holodd y Pwyllgor hefyd a fyddai modd i bobl allu  defnyddio eu ceir i gyrraedd y siop arfaethedig oherwydd culni'r ffordd yn Penrhyn.  Dywedodd Mrs Layton nad oedd yn dymuno gadael ei heiddo oherwydd rhesymau personol; ‘roedd hi o'r farn bod digon o ddarparwyr gwasanaethau bwyd yng nghanol pentref Cemaes.  Dywedodd y gallai darpar gwsmeriaid barcio yn y maes parcio Harry Furlong sy’n agos iawn at ei heiddo.  Mae llety gwyliau yn y cyffiniau a gallai pobl sy’n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol archebu eu bwyd a’i gasglu ar eu ffordd adref.   Gofynnodd y Pwyllgor  ymhellach sut y byddai'r ymgeisydd yn rheoli sbwriel a gwastraff bwyd o’i heiddo.  Dywedodd Mrs Layton ei bod yn bwriadu defnyddio deunydd pecynnu pydradwy a bambŵ; byddai biniau ychwanegol yn cael eu darparu hefyd.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd W T Hughes, Aelod Lleol, a oedd angen siop fwyd arall yng Nghemaes; ar hyn o bryd mae deg o siopau bwyd mewn pentref bach.  Roedd o'r farn y byddai'r traffig a pharcio yn broblem yn ardal Penrhyn petai'r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r materion allweddol y mae angen eu hystyried yw'r effaith ar eiddo cyfagos, materion priffyrdd ac a ydi’r cynnig yn dderbyniol o safbwynt polisi. Mae'r cynnig yn golygu newid y defnydd a wneid o ran o'r annedd i fod yn siop prydau i fynd allan; nid oes cyfleusterau parcio ar gael a bydd yr holl draffig yn cael ei gyfeirio i’r maes parcio gerllaw. Mae Polisïau Cynllunio yn cefnogi menter busnes o’r fath ond mae’r siop hon (math A3) yn fwy addas i leoliad canol pentref. Byddai'r cais arfaethedig yn niweidio mwynderau’r ardal breswyl a byddai'n cael effaith negyddol ar eiddo preswyl cyfagos. Amlygodd y Swyddog y byddai cymeradwyo'r cais yn cyfateb i ganiatáu eiddo  A3 ac na fyddai unrhyw reolaeth ar unrhyw ddefnydd o'r eiddo i’r dyfodol. Yr argymhelliad oedd y dylid gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans y gallai sefydliad bwyta'n iach fod o fudd i bentref Cemaes. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R O Jones fel Aelod Lleol ei fod yn cefnogi menter o'r fath.  ‘Roedd o’r farn y byddai pobl sy'n cerdded ar hyd y llwybr arfordirol yn croesawu opsiwn bwyta'n iach.  Cynigiodd y Cynghorydd Jones fod y cais yn cael ei gymeradwyo am gyfnod o 2 flynedd. Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, er ei bod yn cefnogi'r syniad o sefydliad bwyta'n iach, roedd yn ystyried bod y safle wedi ei leoli o fewn ardal breswyl a’i fod yn annerbyniol oherwydd materion parcio a thraffig. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei wrthod. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i wrthod.

 

Yn dilyn y bleidlais PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3     23C280F - Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro yn Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Ieuan Williams fel Aelod Lleol a gofynnodd am ymweliad â’r safle o ganlyniad i bryderon lleol y dylid lleoli’r safle yn nes at yr hen adeiladau fferm, yr effaith ar y dirwedd a’r effaith ar ddraenio yn yr ardal. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4     23C280G - Cais llawn i addasu adeiladau allanol i greu 10 annedd, gosod gwaith trin pecyn ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa bresennol yn Plas Llanfihangel, Capel Coch

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais wedi ei dynnu'n ôl gan yr ymgeiswyr.

 

Cais wedi ei dynnu'n ôl.

 

12.5     25C242 - Cadw pwll, ynghyd â gwaith draenio yn Tyn Cae, Coedana, Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i’r i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

‘Roedd y Cynghorydd K P Hughes, sef Aelod Lleol, wedi galw’r cais i mewn i'w benderfynu a gofynnodd i’r Pwyllgor ymweld â'r safle o ganlyniad i bryderon a godwyd gan Gyngor Cymuned Llannerch-y-medd a thrigolion lleol mewn perthynas â materion llifogydd posib yn yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd W T Hughes y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6     46C572 - Cais llawn i addasu adeiladau allanol yn dair annedd, gosod pecyn trin carthion ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa yn Glan Traeth, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradodd Mr Patrick McHugh, sef yr ymgeisydd, o blaid y ynnig.   Dywedodd ei fod yn dymuno cywiro sylw yn yr adroddiad gan yr Aelod Lleol ac Adnoddau Naturiol Cymru. Dywedodd nad oes unrhyw lifogydd yn digwydd lle bwriedir gosod y gwaith trin preifat fel yr awgrymir gan yr Aelod Lleol.  Mae'r ardal rhybudd llifogydd ar y map ar gyfer Trearddur yn dangos yn glir bod y lleoliad arfaethedig uwchlaw’r ardal lle mae llifogydd yn digwydd.  Mae manylion y cais yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith trin preifat i wasanaethu'r datblygiad.  Nid yw hwn yn 'fath newydd o danc septig', nid yw'n danc septig o gwbl. Yn hytrach,  gwaith trin carthffosiaeth ydyw sy'n arllwys dŵr glân o ansawdd y gellir ei yfed.  Diystyriwyd cael tanc septig oherwydd yr ardal perygl o lifogydd sydd gerllaw.  Dywedodd Mr McHugh hefyd nad oedd y safle yn goleddfu i lawr tuag at y tai fel yr awgrymwyd gan yr Aelod Lleol.  Mae'r datblygiad arfaethedig ar ben uchaf y cae ac yn goleddfu i ffwrdd o'r tai tuag at yr ardal lle mae perygl o lifogydd. 

 

Holodd y Pwyllgor Mr. McHugh pam y ffafriwyd gwaith trin preifat yn hytrach na chysylltu â'r brif garthffos.  Cytunodd Mr. McHugh y byddai'n well ganddo pe bai’r cais yn cysylltu â'r brif garthffos ond dywedodd bod pellter o hyd at 140 metr rhwng y datblygiad â'r brif garthffos; mae gwahaniaeth uchder o 1.5 medr rhwng lefel y datblygiad fferm a'r briffordd. Yn dilyn trafodaeth gyda Pheirianwyr Datblygu byddai'r gost o gysylltu â'r brif garthffos dros £40k yn fwy na'r gwaith trin carthion. Holodd y Pwyllgor a oes ardal risg llifogydd ger y datblygiad hwn.  Dywedodd Mr McHugh fod ardal risg llifogydd yn gyfagos ond nad yw’r gwaith trin carthion yn yr ardal honno - dim ond gerllaw.   Holodd y Pwyllgor pa ddefnydd fyddai'r ymgeisydd yn ei wneud o’r datblygiad.  Dywedodd Mr McHugh fod y fferm wedi bod yn nheulu ei wraig am bron i ganrif.  Byddai’r tair annedd arfaethedig yn cael eu cadw ar gyfer defnydd y teulu.

 

Dywedodd y Cynghorydd T. Ll Hughes, sef Aelod Lleol a oedd wedi galw’r cais i mewn, fod trigolion Lôn Melin Stanley ger y safle datblygu wedi dweud bod yna rai problemau llifogydd yn yr ardal.  Dywedodd ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw wrthwynebiad yn lleol i'r datblygiad arfaethedig ond bod rhai pryderon wedi eu mynegi bod angen cwblhau’r mynediad i’r safle cyn cychwyn datblygu’r  safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod polisïau cynllunio yn cefnogi cynlluniau addasu o'r fath ar gyfer adeiladau gwledig ar yr amod eu bod yn cwrdd â meini prawf penodol; mae’r datblygiad arfaethedig hwn yn addasiad addas iawn ar y safle. Gan fod y datblygiad o fewn buarth fferm ni fydd yn cael effaith andwyol ar y dirwedd nac yn effeithio ar yr AHNE.  Nid yw Adnoddau Naturiol Cymru nac Adain Ddraenio’r Awdurdod wedi mynegi pryder mewn perthynas â'r gwaith carthffosiaeth preifat.   

 

Dywedodd y Swyddog ymhellach fod bwriad i wella'r fynedfa i'r safle a bod yr  amodau a osodir yn nodi bod yn rhaid cwblhau’r gwelliannau i'r fynedfa cyn i neb symud i fyw i’r anheddau.  Cytunodd y Swyddog Priffyrdd gyda sylwadau'r Swyddog Cynllunio a dywedodd gan ddweud y byddai’n ddymunol pe bai’r  gwelliannau yn cael eu gwneud i'r fynedfa cyn cychwyn y datblygiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod yn gefnogol i'r cais ond y dylid cwblhau’r fynedfa i'r safle cyn cychwyn ar y datblygiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd KP Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol bod raid cwblhau’r fynedfa i'r safle cyn cychwyn ar y datblygiad.

 

 

Dogfennau ategol: