Eitem Rhaglen

Yr Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol ar waith yr Uned Ddarparu AAA.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Cyd-Bwyllgor, adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg yn nodi gwaith y gwasanaethau o fewn yr Uned Ddarparu yn ystod y cyfnod ers mis Mehefin, 2016.

 

Amlygodd y Prif Seicolegydd Addysg y materion canlynol:

 

           Oherwydd absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth a hefyd absenoldeb estynedig swyddog gweinyddol profiadol, bu peth pwysau ar y Tîm Gwasanaethau Gweinyddol sy'n gyfrifol am weinyddu'r prosesau asesu ac adolygu. Mae'r aelodau o staff sy'n weddill wedi ysgwyddo  rhai o'r cyfrifoldebau ychwanegol ac mae'r gwasanaeth wedi parhau i gwrdd â'r galwadau sydd arno.  Mae aelodau o'r tîm wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Technegau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd a fydd yn disgwyl i Awdurdodau Addysg yng Nghymru ddefnyddio'r cyfryw dechnegau pan fyddant yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol plant. Mae’r technegau hyn yn ceisio sicrhau bod y plentyn unigol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ganolbwynt y cyfarfodydd adolygu a’i fod yn cymryd rhan lawn ynddynt. Rhagwelir y bydd y ffordd newydd hon o gynnal cyfarfod adolygu yn sicrhau mwy o fanylder a chysondeb o ran natur a maint y cymorth ychwanegol y mae plant yn ei dderbyn.

           Mae aelodau o'r gwasanaeth addysgu arbenigol hefyd wedi mynychu'r hyfforddiant ar y Technegau PCP a byddant, ar y cyd â'r Seicolegwyr Addysg, yn gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo’r dull hwn ac i sicrhau cysondeb yn y ffordd y cynhelir cyfarfodydd adolygu. Mae un athro arbenigol ar gyfer plant sydd â nam ar y clyw wedi gadael y gwasanaeth i ddilyn swydd mewn sir arall.

           Yn dilyn secondio aelod o'r gwasanaeth i weithio ar y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd, mae gan y Gwasanaeth Seicolegwyr Addysg aelod ychwanegol o staff. Mae'r gwasanaeth wedi parhau i roi cymorth i ysgolion y ddau awdurdod gan gynnwys gweithio gyda phlant unigol, ymgynghori ar faterion sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol a darparu hyfforddiant mewn ysgolion ar eu cais.

           Mae data ystadegol ar gyfer y 10 mlynedd diwethaf o 2006 i 2016 yn dangos nad yw nifer y datganiadau o anghenion addysgol arbennig a gyhoeddwyd yn y ddwy sir wedi gostwng i raddau sy’n awgrymu bod y tueddiad hwn at i lawr yn un dueddiad parhaol. Mae'r gymhareb rhwng Ynys Môn a Gwynedd yn amrywio, ac er y bu canran y datganiadau a gyhoeddwyd yn Ynys Môn o dan 40% am gyfnod estynedig, ‘roedd y ganran ar gyfer 2014/15 a 2015/16 yn is yng Ngwynedd nag yn Ynys Môn, sef 49% a 39% yng Ngwynedd o gymharu â 51% a 61% ar gyfer Ynys Môn.  Cwblheir y rhan fwyaf o ddatganiadau o fewn y 26 wythnos statudol os na chyfrir yr oedi a achosir oherwydd derbyn gwybodaeth yn hwyr gan bersonél o du allan i'r Awdurdodau Addysg. Mae canran y datganiadau a gwblheir o fewn yr amserlen statudol o 28 diwrnod heb eithriadau tua 95% ar gyfer Gwynedd a 94% ar gyfer Ynys Môn. Os cymerir eithriadau i ystyriaeth, mae'r ganran gyfartalog yn 71% ar gyfer Gwynedd a 67% ar gyfer Ynys Môn.

 

Ystyriodd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chodwyd y materion canlynol:

 

           Nododd y Cyd-Bwyllgor fod y Gwasanaeth Gweinyddol wedi bod dan bwysau ychwanegol, a hynny oherwydd absenoldeb salwch.  Ceisiodd sicrwydd bod y tîm wedi cael cymorth priodol i'w alluogi i gyflawni ei dyletswyddau yn effeithiol yn ystod y cyfnod hwn.

 

Hysbyswyd y Cyd-bwyllgor fod yr Uwch Reolwr Cynhwysiad a Swyddog Addysg ADY Ynys Môn wedi bod yn edrych ar reolaeth y Cyd-Bwyllgor am beth amser a bod rhai o gyfrifoldebau'r Rheolwr Gwasanaeth Gweinyddol wedi trosglwyddo i'r Tîm Cynhwysiad o fewn Gwasanaeth Addysg Gwynedd .Mae yna hefyd ymdrech barhaus i leihau nifer y datganiadau yng Ngwynedd ac Ynys Môn, i symud i systemau electronig ac i symleiddio prosesau gan leihau biwrocratiaeth yn ogystal â gostwng y baich gwaith ar gyfer y staff gweinyddol sy'n weddill. Mae yna hefyd symudiad cynyddol tuag at fabwysiadu Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU).Mae’r holl ffeiliau papur wedi cael eu sganio a'u trosglwyddo i’w cadw yn y Cwmwl. Mae  Swyddog dynodedig hefyd erbyn hyn yn yr Adran Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Ynys Môn sy’n gweithredu fel pwynt cyswllt penodol gan hwyluso cyfathrebu.

 

           Nododd y Cyd-Bwyllgor y collwyd gwasanaeth Athro Arbenigol i Blant sydd â Nam ar y Clyw a gofynnodd am eglurhad ar yr effaith bosib ar y gwasanaeth yn sgil y ffaith bod yr unigolyn dan sylw wedi gadael i ddilyn swydd arall.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor y bu gostyngiad bychan iawn yn y gwasanaeth. Mae'r meini prawf ar gyfer cael mynediad i'r gwasanaethau wedi cael eu hadolygu ac mae'r awdurdodau yn gweithredu mewn modd cynlluniedig ac yn edrych ar y gofynion tymor hir tebygol ar draws y sbectrwm o wasanaethau ADY yn hytrach na dim ond ymateb i’r anghenion cyfredol. Sefydlwyd fforwm hefyd yn sgil y Strategaeth ADY newydd a fydd yn golygu y gellir delio’n gyflymach gydag achosion.  Yn ychwanegol, mae trafodaeth barhaus gyda’r gwasanaethau unigol fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Strategaeth ADY ac felly, os bydd angen yn codi yn y cyfnod interim, gellir ystyried dod o hyd i opsiwn dros dro. Mae sylw cynyddol yn cael ei roi i ba mor briodol yw’r gwasanaethau a roddwyd. Gellid dweud fod y Cyd-Bwyllgor wedi bod yn hael yn y gorffennol o ran sut mae wedi ymateb ac yn y ffordd y mae wedi ceisio cwrdd ag anghenion a monitro addasrwydd y ddarpariaeth a wneir, yn enwedig o ran anghenion llai dwys.

 

           Nododd y Cyd-Bwyllgor y cafwyd anawsterau yn hanesyddol o ran penodi seicolegwyr addysg dwyieithog a gofynnodd a yw hynny’n dal i fod yn wir. Holodd hefyd a oes unrhyw ddulliau newydd yn cael eu mabwysiadau  i wella’r recriwtio i'r gwasanaeth.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor fod Grŵp Gweithredu ADY wedi ei sefydlu fel rhan o broses gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd a’i fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun hyfforddi gyda golwg ar ymestyn y ganolfan hyfforddi  tu hwnt i'r cyfleuster sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Un o ddangosyddion perfformiad y cwrs ar gyfer seicolegwyr ac athrawon arbenigol fydd nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae hwn yn fwriad sydd dan sylw ac mae yna fewnbwn lleol i’r drafodaeth.  Mae'r Cyd-Bwyllgor wedi gwneud ymrwymiad i hyfforddi dau seicolegydd addysg a fydd ar gael i'r gwasanaeth erbyn yr haf, a hynny ar gost sylweddol ac ar risg os digwydd na fydd swyddi ar gael iddynt.

 

           Ceisiodd y Cyd-Bwyllgor eglurhad ar y ffactorau sy’n golygu bod niferoedd y datganiadau yng Ngwynedd yn lleihau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor fod ysgolion yng Ngwynedd yn cael eu paratoi ar gyfer gweithredu’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae rhai ceisiadau am gymorth ychwanegol yn cael eu cyfeirio at y Paneli Cymedroli yn uniongyrchol gan roi cyfle i rieni symud yn syth at Gynllun Datblygu Unigol ar gyfer eu plentyn heb yr angen am asesiad statudol sydd, yn ei dro, yn rhyddhau staff i ymgymryd â gwaith arall. Yn ystod yr haf sefydlwyd cynllun gweithredu manwl sy'n cynnwys ysgolion, y Cyd-Bwyllgor a staff ehangach, a hynny er mwyn rhoi gwybod i’r holl bartïon am y gweithdrefnau newydd. Fodd bynnag, nid yw hawl gyfreithiol rhieni wedi newid ac maent yn cadw'r hawl gyfreithiol i ofyn am ddatganiad o angen os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae'n well gan y mwyafrif gynllun datblygu unigol fel llwybr mwy ymarferol ac effeithiol i gael cymorth a chefnogaeth ac er nad yw’r anghenion wedi gostwng, mae’r ffordd o gwrdd â nhw wedi newid.

 

           Nododd y Cyd-Bwyllgor y byddai'n ddefnyddiol ac yn fuddiol pe bai modd cael gwybod faint o blant sy’n destun Cynllun Datblygu Unigol yn y dyfodol yn yr adroddiadau gan yr Uned Ddarparu AAA fel y gellir gwerthuso effeithiolrwydd y CDU yn well. Yn ogystal, dylai'r data roi rhyw arwydd o nifer yr eithriadau  i helpu'r Cyd-Bwyllgor i ddeall y niferoedd gwirioneddol y tu ôl i'r canrannau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor fod ymateb hwyr gan y Gwasanaeth Iechyd yn hanesyddol wedi golygu methu’r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi datganiadau, yn enwedig yn Ynys Môn.  Cafwyd trafodaethau gyda Therapyddion Iaith y Gwasanaeth Iechyd a daethpwyd i gytundeb na ddylid bod angen ailgyhoeddi adroddiadau a gwblhawyd yn ystod y chwe mis blaenorol. Yn ogystal, mae'r model dan y Strategaeth ADY newydd yn cwmpasu Therapyddion Iaith a CAMHS sydd felly’n sicrhau cyfraniad gan ymarferwyr yn y Gwasanaeth Iechyd o'r cychwyn cyntaf. Mae demograffeg yr ysgolion wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf ac ers sefydlu'r Cyd-Bwyllgor, ac mae patrymau yn dod i'r amlwg o ran nifer y datganiadau a Chynlluniau Datblygu Unigol mewn perthynas â sectorau, dosbarthiadau ac ysgolion penodol. Er bod mewnfudwyr i'r rhanbarth sy'n ceisio cael mynediad i'r ddarpariaeth yn fater y mae'r Cyd-Bwyllgor wedi edrych arno eisoes o ran ei effaith, mae'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol wedi eu datgan yn glir a’u cyhoeddi bellach ac mae hynny’n ei gwneud yn haws i rieni wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ffeithiau.

 

           Ceisiodd y Cyd-Bwyllgor eglurhad ar statws y Strategaeth ADY ar y Cyd newydd o gymharu ag awdurdodau eraill ledled Cymru.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor fod Swyddogion o'r ddwy sir wedi ceisio pwysleisio i Lywodraeth Cymru y dylai’r holl ofynion ac ymarferiadau o dan y ddeddfwriaeth ADY newydd gael eu gweithredu’n gyfartal ac yn ddiwahân ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, a hynny er budd cysondeb, tegwch, ac atebolrwydd. Ni chredir y byddai caniatáu i'r 22 awdurdod lleol benderfynu eu meini prawf eu hunain yn hwyluso  pethau ac mai gwell fyddai cyhoeddi set genedlaethol o feini prawf fel rhan o'r ddeddfwriaeth.

 

‘Roedd y Cyd-Bwyllgor o'r farn, fel fforwm penodol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, y dylai gefnogi’r ymdrech i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i safoni meini prawf cymhwyster ADY ar draws Cymru ac i'r perwyl hwn, cytunwyd y dylid gofyn i swyddogion ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ei ran.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU :

 

           Bod adroddiadau yn y dyfodol ar ddata gan yr Uned Ddarparu AAA yn cynnwys gwybodaeth am nifer y plant sydd â Chynllun Datblygu Unigol.

           Bod adroddiadau yn y dyfodol ar ddata gan yr Uned Ddarparu AAA yn cynnwys nifer y plant yr effeithir arnynt gan eithriadau.

           Bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru ar ran y Cyd-Bwyllgor i ofyn am gyhoeddi set genedlaethol o feini prawf cymhwyster fel rhan o'r Mesur Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

Dogfennau ategol: