Eitem Rhaglen

Diweddariad ar y Strategaeth ADY a Chynhwysiad

Derbyn diweddariad ar lafar ar y sefyllfa mewn perthynas â gweithredu Strategaeth ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Prosiect ar y materion a oedd yn codi o gyfarfod blaenorol y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi o ran gweithredu’r Strategaeth Cynhwysiad ADY ar y Cyd newydd fel a ganlyn:

 

           Y bydd y Model Llywodraethiant yn rhan o'r cytundeb ffurfiol rhwng y Cyd-Bwyllgor a’r Penaethiaid Addysg yn y ddau awdurdod. Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn cael ei ddrafftio, sy’n ddogfen gyfreithiol, i fynd law yn llaw â’r newidiadau sy'n digwydd a bydd y  model llywodraethu yn cael ei adolygu.

           Mae trafodaethau gydag ysgolion a chyrff llywodraethu yn parhau ac maent yn cael eu diweddaru ynghylch y datblygiadau trwy'r cydlynwyr. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr.

           Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn hwyluso’r newid i'r model newydd.

           Gellir ymgorffori cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar y gwasanaethau a gwmpesir gan y Strategaeth ADY a Chynhwysiad newydd o fewn y cytundeb ffurfiol terfynol.

           Trafodwyd diogelu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ac mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio mesurau i fynd i'r afael â'r mater hwn ac i ariannu cyrsiau hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer seicolegwyr addysg ac athrawon arbenigol.

           Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pobl 16 i 25 oed wedi cael ei chydnabod yn y Strategaeth ADY a Chynhwysiad newydd fel ail gam.  Disgwylir am fwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru o ran pwy sy'n gyfrifol yn ariannol am y ddarpariaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn.

           Mae ymgynghoriad ar y broses ailstrwythuro wedi cychwyn ers 5 Hydref ac mae pob aelod o staff yr effeithir arnynt o fewn y Cyd-Bwyllgor a’r ddau awdurdod wedi cael cyfle i gyflwyno eu sylwadau mewn cyfarfodydd un i un gyda chynrychiolwyr Personél. Yn ogystal, mae pob gwasanaeth wedi cael cyfle i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt ac i roi atborth ar y strwythur arfaethedig sydd bellach yn cael ei fireinio. Cynhelir cyfarfod ar gyfer holl aelodau'r staff ar 6 Rhagfyr, 2016 lle bydd Penaethiaid Addysg Cynghorau Gwynedd a Môn yn cyflwyno'r strwythur staffio terfynol. 

 

Nododd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a gofynnodd am eglurhad ar weithredu’r llinell amser ac, o ganlyniad, yr amserlen ar gyfer dirwyn y Cyd-Bwyllgor i ben fel endid ac fel fforwm, yn enwedig o ystyried bod cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor, a’r cyfarfod olaf o bosib,  wedi ei drefnu ar gyfer 17 Mawrth, 2017.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-Bwyllgor y bydd y Cyd-Bwyllgor yn peidio a bod yn gyflogwr ar 31 Awst, 2017; bwriedir y bydd y newidiadau staff a weithredir fel rhan o'r Strategaeth yn dod i rym ar 1 Medi, 2017 a bryd hynny bydd Cyngor Gwynedd yn dod yn gyflogwr fel yr awdurdod arweiniol ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd.  Bwriedir y bydd y cytundeb partneriaeth rhwng y ddau awdurdod yn ei le erbyn 31 Mawrth, 2017 a gwneir pob ymdrech  i ffurfioli'r trefniadau llywodraethu erbyn mis Mawrth, fel y gellir cyflwyno’r model llywodraethu  i'r Cyd-Bwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Mawrth. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd angen cynnal cyfarfod (ydd) o’r Cyd-Bwyllgor ar ôl mis Mawrth, 2017 er mwyn cau'r cyfrifon yn ffurfiol cyn diwedd mis Medi yn unol â'r gofyn statudol.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU: Swyddogion i gadarnhau'r gofynion ar gyfer cyfarfodydd ynghyd â’r amserlen ar gyfer dod â'r Cyd-Bwyllgor i ben.