Eitem Rhaglen

Rheoli Trysorlys

·        Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys  2017/18

 

·        Cyflwyno Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2016/17

 

·        Cyflwyno adroddiad ar Ymarferion Rheoli Trysorlys

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2017/18 i’w ystyried gan y  Pwyllgor. ’Roedd y Datganiad yn cynnwys y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol, y Datganiad Polisi blynyddol ar yr Isafswm Darpariaeth Refeniw , y Datganiad Blynyddol ar y Polisi Rheoli’r Trysorlys a’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Rheoli'r Trysorlys.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151, fel a ganlyn –

 

           Bod y Datganiad Rheoli’r Trysorlys yn parhau i fod yn sylfaenol yr un fath ag a fabwysiadwyd ar gyfer 2016/17. Nid yw'r sefyllfa o ran yr economi wedi newid yn ei hanfod ac mae cyfraddau llog yn parhau i fod yn isel ac mae hynny’n cyfyngu’r dewisiadau o ran y strategaeth.

           Cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor yw gyrrwr allweddol y gweithgarwch rheoli’r trysorlys. Bydd y rhaglenni cyffredinol (yn unol â'r tabl yn adran 2 yr adroddiad) yn cael eu cyfyngu i'r hyn sy'n fforddiadwy, o ran gwariant cyfalaf gwirioneddol a'r goblygiadau refeniw h.y. y costau refeniw sy'n deillio o benderfyniadau cyllido cyfalaf.

           Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi gweithredu polisi o osgoi benthyca newydd drwy redeg i lawr y balansau arian sbâr. Mae angen adolygu hyn yn ofalus er mwyn osgoi talu costau benthyca uwch mewn yn y dyfodol pan na fydd yr Awdurdod yn gallu osgoi benthyca newydd i gyllido gwariant cyfalaf, e.e. i ariannu cyfraniad y Cyngor tuag at y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a / neu ailgyllido dyled sy’n aeddfedu.

           Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn parhau i fenthyca llai.  Mae hyn yn golygu nad yw'r angen i gael benthyg cyfalaf (y Gofyniad Cyllido Cyfalaf) wedi cael ei ariannu'n llawn trwy fenthyca gan ei fod yn defnyddio arian o’i gronfeydd wrth gefn, balansau a llif arian fel mesur dros dro. Mae'r dull hwn o weithredu yn un doeth gan fod yr elw a geir o fuddsoddiadau yn isel a’r risg gwrthbarti yn uchel, a pharheir i ddilyn y dull hwn o weithredu lle bo'n briodol.

           Mae’r amgylchiadau cyfredol yn dangos bod mabwysiadu ymagwedd hyblyg o ran y dewis rhwng  benthyca mewnol a benthyca allanol. ‘Roedd manteision ac anfanteision y benthyca mewnol a’r benthycal allanol wedi'u nodi yn rhan 3.3.1 o'r adroddiad. Bydd y Swyddog Adran 151 yn monitro cyfraddau llog ac yn mabwysiadu dull pragmatig a fydd yn ymateb i amgylchiadau fel y byddant yn newid, gan roi  gwybod am unrhyw benderfyniad i'r corff gwneud penderfyniadau priodol ar y cyfle cyntaf.

           Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy nag y mae ei angen, nac yn benthyca er mwyn paratoi i gwrdd ag angen, dim ond i allu elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycwyd.

           Gan y bydd y cyfraddau benthyca tymor byr gryn dipyn yn rhatach na'r cyfraddau sefydlog tymor hir, efallai y bydd cyfleoedd posib i greu arbedion drwy newid o ddyled tymor hir i ddyled tymor byr. Adroddir ar yr holl weithgarwch aildrefnu dyledion i'r Pwyllgor Archwilio. Fodd bynnag, mae adolygiad diweddar wedi amlygu y byddai'n costio mwy i'r Cyngor aildrefnu dyledion nag y byddai'n arbed mewn llog sy'n ddyledus yn sgil y tâl a godir gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus am ad-dalu’n gynnar.

           Mae strategaeth fuddsoddi’r Cyngor a’i flaenoriaethau yn seiliedig ar ddiogelwch yn gyntaf, hylifedd yn ail ac elw’n drydydd. Bydd y Swyddog Adran 151 yn cynnal rhestr gwrthbartion yn unol â'r meini prawf a nodir yn Atodiad 6 o'r adroddiad a bydd yn adolygu'r meini prawf ac yn eu  cyflwyno i'r Cyngor i'w cymeradwyo fel y bo angen. ‘Roedd y polisi statws credyd wedi'i nodi yn rhan 4.2 yr adroddiad.

           Oherwydd y rhagolygon y bydd elw o fuddsoddiadau yn debygol o aros yn isel yn ystod 2017/18 a thu hwnt, yr unig newid y bwriedir ei wneud i egwyddorion a pholisïau craidd Strategaeth Rheoli Trysorlys y flwyddyn flaenorol yw cynnwys Cronfeydd Marchnad Arian fel opsiwn buddsoddi ychwanegol i'r Meini Prawf Gwrthbarti er mwyn creu opsiynau diogel ychwanegol ar gyfer buddsoddiadau'r Cyngor.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd  a chefnogodd y Pwyllgor drefn yr Awdurdod o fabwysiadu ymagwedd geidwadol yn gyffredinol tuag at reoli'r trysorlys, yn enwedig o ystyried holl ansicrwydd yr amgylchedd economaidd.

           Nododd y Pwyllgor y rhagwelir y byddai costau benthyca ar gyfer 2016/17 yn £6m, sef £4m ar gyfer y Gronfa Gyffredinol a £2m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Gofynnodd y Pwyllgor, o gofio’r holl ansicrwydd ynghylch y rhagolygon ar gyfer cyfraddau llog fel y nodir yn rhan 3.2 o’r  adroddiad, a oedd yn ddoeth i fod yn meddwl am gymryd benthyciadau pellach. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 ei bod yn debygol  y byddai’n rhaid i'r Cyngor ymrwymo i fenthyca i ariannu ei ran ef o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Er bod y sefyllfa ar gyfer cymryd benthyciadau yn ffafriol ar hyn o bryd oherwydd y cyfraddau llog isel, ni fydd yr Awdurdod yn benthyca dim ond i ailfuddsoddi a manteisio ar y cyfraddau llog isel gan y byddai’r elw yn debygol o fod yn llai na'r gost o fenthyca. Os bydd arwyddion fod y cyfraddau llog yn mynd i godi efallai y bydd yr Awdurdod yn ystyried benthyca bryd hynny i wneud y mwyaf  o'r cyfraddau llog isel. Fodd bynnag, nid yw ymgynghorwyr y Cyngor yn rhagweld cynnydd mewn cyfraddau llog yn y tymor canol, felly ni fydd y strategaeth yn newid.

           Nododd y Pwyllgor fod benthyca allanol y Cyngor yn £110.7m ar 10 Tachwedd, sy'n sylweddol uwch na'r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd oddeutu £89m. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd y bydd y Cyngor yn gallu ad-dalu'r ddyled pe bai’r cyfraddau llog yn codi. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth a’r Swyddog Adran 151 (Adnoddau) bod y rhan fwyaf o fenthyciadau’r Awdurdod ar hyn o bryd ar gyfradd sefydlog felly mae'n gwybod faint y mae angen iddo ad-dalu – mae cymryd benthyciadau ar gyfradd isel sefydlog o fantais ac mae’n cynnig rhywfaint o ddiogelwch os bydd cyfraddau yn codi yn y dyfodol;  pe bai’r cyfraddau llog yn uchel, yna byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i symud i gyfradd amrywiol. Mae'r cynnydd o ran benthyca net y Cyngor i’w briodoli’n bennaf i brynu allan o’r system gymhorthdal ar gyfer y CRT (tua £21m).Gan fod y Cyngor yn buddsoddi yn ei asedau drwy'r rhaglen gyfalaf, bydd angen benthyca oherwydd mai dyna sut mae'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n rhannol.  Strategaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y flwyddyn nesaf yw cyfyngu’r gyllideb gyfalaf i'r hyn sy'n gynaliadwy trwy fenthyca â chymorth h.y. benthyciadau sy'n cael eu hariannu drwy'r setliad (ar wahân i'r prosiect Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain y bydd angen lefel o fenthyca digymorth ar ei gyfer).Cadarnhaodd y Swyddog bod unrhyw fenthyciadau sy'n gysylltiedig â’r CRT yn cael eu hariannu gan arian CRT h.y. rhenti.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar hanes benthyciadau'r Awdurdod o gymharu ag awdurdodau eraill. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) fod yr Awdurdod yn Ynys Môn wedi bod yn gymharol geidwadol yn ei ymagwedd tuag at fenthyca. Yn ogystal, nid oedd wedi etifeddu unrhyw ddyled gan yr awdurdod  cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.

 

Penderfynwyd -

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.

           Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus a’r Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys yn Atodiad A) ar gyfer 2017/18 a

           Anfon y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys i'r Pwyllgor Gwaith heb wneud sylwadau ychwanegol arno.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

 

6.2       Cyflwynwyd yr Adroddiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad economaidd ar gyfer rhan gyntaf blwyddyn ariannol 2016/17; ‘roedd yn  adolygu’r prif strategaethau buddsoddi a benthyca hanner ffordd drwy’r flwyddyn yn ogystal â gweithgarwch ers Chwarter 2, a hefyd yn bwrw golwg ar y flwyddyn i ddod.

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn dangos bod yr Awdurdod wedi benthyg ychydig yn llai na'r hyn a broffiliwyd yn y strategaeth ar ddechrau'r flwyddyn. Gellir priodoli hyn i’r ffaith nad oedd rhai prosiectau wedi cychwyn, arian grant cyfalaf heb ei wario a rhywfaint o lithriad ar wariant CRT. Felly mae'r gwariant cyfalaf wedi bod yn llai ac ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau ychwanegol. Mae’r Awdurdod, yn hytrach wedi defnyddio cyllid yn fewnol; ni ragwelir y bydd unrhyw fenthyca ychwanegol o hyn tan ddiwedd y flwyddyn. Hyd yma mae’r Awdurdod wedi cydymffurfio â'r holl ddangosyddion darbodus perthnasol o fewn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17. Mae Atodiad 5 yr  adroddiad hefyd yn darparu crynodeb o’r gweithgarwch buddsoddi hyd yn hyn eleni.

 

Cadarnhaodd y Swyddog ei fod yn fodlon â'r sefyllfa fel y'i cyflwynwyd.

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ac ‘roedd yn fodlon bod y gweithgarwch rheoli’r trysorlys,  yn y cyfnod hwn hanner ffordd drwy flwyddyn ariannol 2016/17, yn cyflawni yn unol â'r strategaeth.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’i anfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ychwanegol.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

6.3       Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod. Roedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor i sicrhau bod y Cyngor yn dilyn arferion gorau’r Côd Ymarfer ar gyfer Rheoli'r Trysorlys gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) sydd yn argymell bod y Cyngor yn dogfennu ei weithdrefnau rheoli trysorlys yn ffurfiol fel Arferion Rheoli'r Trysorlys (ARhT ) a’u bod yn cael eu monitro wedyn.

 

Penderfynwyd –

 

                Nodi cynnwys yr adroddiad.

                Cymeradwyo'r Arferion Rheoli'r Trysorlys fel y nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: