Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 14C171J/ENF – Stryttwn Farm, Tynlon

 

12.2 21LPA727A/CC – Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel

 

12.3 34LPA1013B/DA/CC – Ffordd Gyswllt, Llangefni

 

12.4 39LPA589P/CC – Ysgol David Hughes, Porthaethwy

 

12.5 42C253 – Ysgol Gynradd Pentraeth, Pentraeth

Cofnodion:

12.1    14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd, ynghyd â newid defnydd a wneir o dir i ddibenion marchogyddiaeth cysylltiedig yn  Fferm Stryttwn, Tynlon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y cafodd cais blaenorol am ganiatâd ôl-weithredol a roddwyd yn 2014 ar gyfer datblygiad i addasu ac ehangu stabl presennol yn annedd ac a oedd wedi torri rheolau cynllunio, ei wrthod oherwydd ystyriwyd bod y datblygiad mewn lleoliad anghynaliadwy ac anghysbell heb unrhyw berthynas gyda, ac yn bell o unrhyw anheddiad ac/neu gyfleusterau eraill. Dywedodd y Swyddog bod yr ymgeisydd, wedi colli’r dyddiad cau ar gyfer gofyn am gael siarad yn gyhoeddus yn y cyfarfod hwn, wedi cysylltu gyda’r Adran Gynllunio drwy e-bost a ddarllenodd allan i’r Pwyllgor. Yn ei e-bost, roedd yr ymgeisydd yn pwysleisio’r ymdrechion a wnaeth i gyfaddawdu ac i weithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i ddatrys y mater a chyfeiriodd yn ogystal at y straen a’r gofid yr oedd yr holl broses wedi ei hachosi iddo ef a’u deulu.  Aeth yr ymgeisydd yn ei flaen i ddwyn sylw at rinweddau’r cais, sydd, yn ei farn ef, mewn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygiad o’r math yma, byddai’n galluogi teuluoedd i farchogaeth yn ddiogel ac ni fyddai angen ond y mynediad lleiaf i fwynderau eraill e.e. siopau sy’n golygu byddai’r g. shops meaning that the need to travel would be limited. Os bydd y cais yn cael ei wrthod, dywedodd yr ymgeisydd y byddai’n apelio. O ran y cais cyfredol, er bod y Swyddog yn cydnabod bod y penderfyniad yn union gytbwys, wedi pwyso a mesur, ystyrir bod y cynnig yn annerbyniol oherwydd ei leoliad yn y cefn gwlad agored heb unrhyw berthnas gyda, ac yn bell oddi wrth unrhyw anheddiad neu gyfleusterau eraill a byddai’n golygu bod y defnyddiwr yn dibynnu ar y defnydd o gerbydau preifat sy’n groes i bolisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS fod polisïau cynllunio’n cefnogi datblygiadau twristaidd fel hwn; mae’r ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r adeilad allanol wedi ei addasu ar gyfer ei osod i ymwelwyr i ddibenion marchogaeth penodol sydd, i bob pwrpas, yn weithgaredd gwledig. Roedd y Swyddog yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad anodd a bod rhinweddau yn nwy ochr y ddadl. Atgoffodd y Cynghorydd R.G. Parry'r Pwyllgor o’r cefndir i’r achos hwn a dywedodd bod yr apelydd wedi gwario llawer o arian ar wella’r adeilad sy’n destun y cais hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Parry i’r Pwyllgor gefnogi’r cais fel un a ddeuai â thwristiaeth y mae gwir angen amdano i’r rhan hon o’r Ynys ac fel cais sy’n haeddu cael ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod yn meddwl bod angen i’r Pwyllgor gael gwybod mwy am y cynnig er mwyn ei ystyried yn llawn a chynigiodd y byddai ymweliad safle o gymorth i helpu’r Aelodau ddod i benderfyniad ar y cais pan oedd yr holl wybodaeth ganddynt. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Ym marn y Cynghorydd Jeff Evans, nid oedd angen ymweliad safle ac, yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd a’r hyn oedd yn hysbys am hanes y cais, cynigiodd y dylid caniatáu’r cais. Roedd y mwyafrif o’r farn y dylid ymweld â’r safle. 

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

 

12.2    L21LPA727A/CC – Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau i greu cyfleusterau ychwanegol gan gynnwys ystafell ddosbarth; creu lle parcio newydd a mynedfa newydd i gerbydau ynghyd ag ailwampio’r trefniadau parcio presennol i gynnwys cilfan yn Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan yr Awdurdod Lleol ydoedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3    34LPA1013B/DA/CC – Cais am faterion a gedwir yn ôl ar gyfer manylion llawn ynghylch dylunio, goleuo, adrannau, lleoli a thirlunio Rhan 3 o’r ffordd gyswllt rhwng Ffordd y Stad Ddiwydiannol a Ffordd Ddosbarthu Bryn Cefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd cais gan y Cyngor ydoedd.

 

Dangosodd y Prif Swyddog Cynllunio fersiwn gywir o’r map o’r safle i’r Pwyllgor (roedd fersiwn anghywir wedi ei chynnwys gyda’r adroddiad ysgrifenedig) a dywedodd bod caniatâd cynllunio wedi ei roddi ar gyfer y Ffordd Gyswllt a bod rhan helaeth ohoni eisoes wedi cael ei hadeiladu.  Ystyriwyd bod y manylion pellach a gyflwynwyd gyda’r materion hynny a oedd wedi eu cadw yn ôl yn dderbyniol a bod modd felly eu cymeradwyo. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ynghylch y modd y cynhaliwyd y broses o ymgynghori gyda’r cyhoedd, cadarnhaodd y Swyddog  y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cais ac yr ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd drwy arddangos rhybuddion yn yr ardal a hysbyseb yn y wasg. Yn ogystal, anfonwyd llythyrau’n uniongyrchol at y 17 eiddo a oedd agosaf at y datblygiad.

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4    39LPA589P/CC – Cais llawn i adeiladu estyniad sy'n cynnwys lifft llwyfan i'r drychiad deheuol ym mloc "B" yn Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  45C253 Cais llawn i newid defnydd a wneir o ran o dir er mwyn creu parc i blant yn Ysgol Gynradd Pentraeth, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dogfennau ategol: