Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  14C171J/ENF – Stryttwn Farm, Tynlon

7.2  15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth

7.3  23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch

7.4  34C681 – Stad Ty’n Coed,Llangefni

7.5  45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn

Cofnodion:

7.1  14C171J/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw a chwblhau llety gwyliau newydd ynghyd â newid defnydd tir i ddibenion marchogaeth cysylltiedig yn Stryttwn Farm, Tynlon.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 18 Ionawr, 2017.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, fe atgoffodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs y Pwyllgor am gefndir y cais a bwriad yr ymgeisydd i osod yr adeilad allanol a addaswyd i ymwelwyr i ddibenion marchogaeth penodol, sef gweithgaredd gwledig yn ei hanfod, a chyfleuster i dwristiaid. Dywedodd bod y cais hwn yn un anodd gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall gan Arolygwyr Cynllunio bod y rhan fwyaf o waliau cynnal yr adeilad allanol yn is-safonol ac o’r herwydd fe aeth rhagddo i ddymchwel rhai ohonynt. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio drwy ddweud bod yr ymgeisydd wedi cael ei gynghori gan Arolygwyr Adeiladu i gysylltu gyda’r Adran Gynllunio cyn cychwyn ar y gwaith o ddymchwel waliau’r adeiladau allanol.     

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgs fod yr ymgeisydd wedi gwario arian sylweddol yn gwella’r adeilad. Roedd y Cynghorydd Parry o’r farn bod angen cyfleuster o’r fath ar yr Ynys a’i fod yn haeddu cael ei gymeradwyo. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y cafodd y cais blaenorol am ganiatâd ôl-weithredol ar gyfer llety gwyliau ei wrthod yn 2016 am fod y safle mewn cefn gwlad agored mewn ardal wledig anghysbell. Mae’r cais yn un am gyfleuster marchogaeth i dwristiaid a bod polisïau cynllunio i gefnogi menter o’r fath. Fodd bynnag, mae safle’r cais mewn lleoliad gwledig agored ac nid yw’r Swyddogion Cynllunio wedi’u hargyhoeddi bod cyfleuster o’r fath yn briodol yn y lleoliad hwn a bod yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac fel eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  15C30H/FR – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm nad oedd yn teimlo bod y risg o lifogydd ar raddfa a oedd yn cyfiawnhau ei wrthod ac oherwydd na fyddai’r cais yn cael effaith andwydol ar ecoleg Cors Ddyga. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, dywedwyd wrth yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwydd i ohirio’r cais. Penderfynodd aelodau’r Pwyllgor ohirio’r cais.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R O Jones, i’r gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod cais wedi cael ei wneud i alw’r cais i mewn i Lywodraeth Cymru yn gofyn i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad arno. O’r herwydd, gwaherddir yr Awdurdod Cynllunio Lleol rhag cymeradwyo’r datblygiad hyd oni fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu a ddylid galw’r cais i mewn ai peidio. Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, cadarnhawyd bod y Gweinidog perthnasol wedi cychwyn ymchwiliad i’r cais ond nad oes amserlen bendant wedi cael ei chadarnhau i’r Awdurdod Lleol. Argymhellodd y Swyddog y dylai’r Pwyllgor ystyried gohirio’r mater unwaith yn rhagor. Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ann Griffith, ei bod yn gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru angen amser i ymchwilio i’r mater ond roedd o’r farn bod angen amserlen oherwydd roedd wedi cymryd cryn amser i benderfynu ar geisiadau blaenorol. Dywedodd bod angen i’r ymgeisydd fedru rhedeg busnes o safle’r cais. Gofynnodd y Cynghorydd Griffith a fyddai modd rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y byddai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn anfon pryderon yr Aelod Lleol ymlaen. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn gweld a fydd Gweinidog Cymru yn penderfynu galw’r cais i mewn ai peidio. Fe eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog oherwydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi pryderon bod y datblygiad mewn ardal llifogydd a bod yr ardal yn un o bwys gwyddonol. Ni chafwyd eilydd i’w gynnig.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3  23C280F – Cais ôl-weithredol ar gyfer sied amaethyddol a pharlwr godro ynghyd â chreu phwll slyri a gwaith cysylltiedig ym Mhlas Llanfihangel, Capel Coch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynwyd ymweld â’r safle ac fe wnaethpwyd hynny ar 16 Tachwedd. Oherwydd bod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law, bu’n rhaid ail-ymgynghori ac ail-hysbysu deiliaid eiddo cyfagos ac am y rheswm hwnnw, gohiriwyd y cais tan y cyfarfod hwn. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y derbyniwyd darluniadau diwygiedig yn hwyr ar 31 Ionawr, 2017 ar gyfer dau seilo ar y safle a bod hynny’n ychwanegol at y sied amaethyddol ar y safle. Yr argymhelliad yn awr oedd gohirio’r cais oherwydd bydd angen ymgynghori’n gyhoeddus ar y darluniadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef o’r farn bod angen ymweld â safle’r cais er mwyn gweld union leoliad y ddau seilo a’u heffaith ar y dirwedd a’r amgylchedd. Dywedodd y Cadeirydd mewn ymateb y cafwyd ymweliad safle ym mis Tachwedd 2016. Ymatebodd y Cynghorydd Davies drwy ddweud ei fod ef o’r farn fod gwaith datblygu wedi cael ei wneud ar y safle heb awdurdod a’i fod ef yn ddiweddar wedi gweld goleuadau llachar ar y safle sy’n niweidiol i’r dirwedd. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor weld y safle fel y mae ar hyn o bryd. Gofynnodd y Cadeirydd i Reolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a fyddai’n briodol ail-ymweld â safle’r cais. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Pwyllgor wedi ymweld â’r safle ac y byddai, yn ei farn ef, yn amhriodol i ail-ymweld â’r safle os oedd y Swyddog Cynllunio o’r farn nad oedd unrhyw newid o bwys i’r cais cynllunio. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mewn ymateb nad y darluniadau diwygiedig i gynnwys dau seilo ar y safle yn ei farn ef, yn gyfystyr â newid sylweddol i’r cais er ei fod yn cytuno bod yna waith datblygu wedi digwydd ar safle’r cais yn dilyn ymweliad y Pwyllgor.

 

Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i ymweld â’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes.

 

Yn dilyn y bleidlais:-

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais o ganlyniad i dderbyn lluniadau diwygiedig yn hwyr ar 31 Ionawr, 2017 ar gyfer Seilos ar y safle. Bydd angen ymgynghori gyda’r cyhoedd mewn perthynas â’r lluniadau.

 

7.4  34C681 – Cais amlinellol ar gyfer codi 8 annedd a 2 annedd fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ynghyd â chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig ar dir tu ôl i Stad Tyn Coed, Llangefni

 

Wedi gwneud datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd R.O. Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn groes i bolisi a bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Ionawr, 2017, penderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y Pwyllgor o’r farn bod y fynedfa’n beryglus, lefel uchel y gwrthwynebiad yn lleol, bod y safle y tu allan i’r ffin ddatblygu a bod y safle wedi cael ei wrthod yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn ebost gan y Cynghorydd Jeff M. Evans, Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, mewn perthynas â’r cais hwn. Ymddiheurodd y Cynghorydd Evans nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw am ei fod i ffwrdd ar berwyl elusennol. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Evans yn dymuno mynegi ei farn i’r Pwyllgor, sef y dylid gwrthod y cais oherwydd gwrthwynebiad y Cyngor Tref a’r trigolion, mynedfa, draenio, dŵr wyneb, priffyrdd, problemau posibl o safbwynt diogelwch ar y ffyrdd. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y rhoddwyd pump o resymau dros wrthod y cais yn y cyfarfod diwethaf; mae posibilrwydd y ceir apêl mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd bod raid i’r Pwyllgor fod yn hyderus bod modd cyfiawnhau’r pump rheswm a bod digon o dystiolaeth i’w cefnogi. Awgrymodd y Swyddog y dylai’r Pwyllgor asesu’r rhesymau’n ofalus. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, bod trigolion Stad Tyn Coed yn hyderus y gallent ddarparu tystiolaeth bellach i ymhelaethu ar y rhesymau dros wrthod petai’r cais yn mynd i apêl. Derbynnir nad yw graddfa gwrthwynebiad lleol ynddo’i hun yn rheswm dros wrthod cais ond pan mae’r Cyngor Tref, y 3 Aelod Etholedig Lleol a’r trigolion oll yn mynegi pryderon ffeithiol, yna mae’n amlwg bod problemau gyda’r cais. Yr ail reswm a roddwyd dros wrthod y cais oedd y ffaith bod y safle y tu allan i’r ffin ddatblygu ac nad oedd wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) a dywedodd y Swyddog, Astudiaeth ar y Cyd 2014 o Argaeledd Tir ar gyfer Tai, y gellid ystyried safleoedd eraill fel rhai derbyniol ar gyfer tai. Nid yw’r Astudiaeth o Argaeledd tir yn gyfredol a dylid rhoi pwys ar y ffaith nad yw’r safle hwn o fewn ffiniau’r CDLlC drafft; cafodd atodlen o newidiadau ei chyhoeddi ond wythnos yn ôl ar gyfer ymgynghoriad pellach ac nid yw’r safle hwn wedi ei gynnwys yn yr atodlen ac mae hynny gyfiawnhad dros wrthod y cais. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rees hefyd at y tri rheswm arall a roddwyd dros wrthod y cais, sef priffyrdd a diogelwch y fynedfa a materion yn ymwneud â dŵr wyneb a draenio.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Bob Parry OBE FRAgS yntau ei wrthwynebiad cryf fel Aelod Lleol i’r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef yn parhau i fod o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn or-ddatblygiad ar y safle a bod y safle wedi cael ei wrthod yn y Cynllun Datblygu Lleol. Cynigiodd y dylid cadarnhau’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i wrthod y cais. Fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod angen i’r aelodau ystyried yn ofalus a oedd tystiolaeth i gyfiawnhau’r 5 rheswm a nodwyd dros wrthod y cais. Nid oedd y rheswm cyntaf, yn ei farn ef, yn rheswm cynllunio ac roedd rhesymau 2 a 5 yn amrywiadau o’r un rheswm ac nid oedd yn ymwybodol bod unrhyw dystiolaeth dechnegol gerbron y Pwyllgor i gyfiawnhau rhesymau 3 a 4.

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol, cytunwyd mai dyma oedd y rhesymau dros wrthod y cais:-

 

·      Mae safle’r cais y tu allan i ffin anheddiad Llangefni ac nid yw wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd drafft;

·      Problemau gyda diogelwch yn fynedfa;

·      Problemau gyda draenio dŵr wyneb.

 

PENDEERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais.

 

7.5  45C468 – Cais llawn i newid defnydd adeilad allanol yn annedd, creu mynedfa i gerbydau, gosod system trin carthffosiaeth ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecoleg yn Bodrida Bach, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol. Mae’r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy’n ofynnol dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd a 7 Rhagfyr, 2016 a 4 Ionawr, 2017, gohiriwyd y cais er mwyn derbyn darluniadau diwygiedig a gwybodaeth ychwanegol. Mae’r darluniadau diwygiedig bellach wedi dod i law ynghyd â chadarnhad gan yr Awdurdod Priffyrdd ynghylch lleoliad y llecyn pasio newydd sydd ei angen. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: