Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  17C226HGernant, Lôn Ganol, Llandegfan

12.2  17C511 – Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandedgan

12.3  17C512 – Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn

12.4  19C845KClwb Peldroed Holyhead Hotspur, Canolfan Hamdden Caergybi

12.5  21C58HParc Eurach, Llanddaniel Fab

12.6  39LPA1014B/CC – Ysgol Feithrin, Porthaethwy

12.7  39C295B/LB – Swyddfa Docynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy

12.8  46C570 – Mast Cysylltiadau, Ynys Lawd, Caergybi

12.9  47C149Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Cofnodion:

12.1  17C226H – Cais llawn i addasu ac ehangu Gernant, Lôn Ganol, Llandegfan

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorydd John Griffith y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol. 

 

Siaradodd Mr. Arwyn Williams, yr ymgeisydd, o blaid ei gais. Dywedoddy cafodd ei gais i altro ac ymestyn Gernant ei wrthod yn Hydref 2016 oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd ym maint yr adeilad allanol gwreiddiol. Mae o wedi rhoi sylw i bryderon y Pwyllgor ac wedi gostwng maint yr estyniad ac ystyrir ei fod yn dderbyniol i deulu o bump. Cyfeiriodd Mr Williams at adroddiad y Swyddog a ddywed ‘nid ystyrir y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol ar fwynderau eiddo preswyl cyfagos’  a ‘tra’n derbyn y gellir dadlau bod y cynigion cyfredol yn gwella edrychiad yr adeilad’, mae hyn yn bwysig o safbwynt Polisi Cynllunio 55.  Dywedodd bod tri o’r Aelodau Lleol yn cefnogi’r cais ynghyd â’r Cyngor Cymuned lleol; mae’r Aelod Cynulliad yntau’n cefnogi’r cais. 

 

Dywedodd Mr. Williams bod ei eiddo ef, sef Gernant, wedi ei leoli rhwng dwy annedd fawr ac na fyddai ei gais ef yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos; mae digon o dir rhwng Gernant a’r briffordd sydd gerllaw. Nododd mai llenwi bwlch yn unig rhwng y tŷ a’r garej fyddai’r cais hwn.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais. Dywedodd bod angen cefnogi pobl leol oherwydd mae’r ymgeisydd wedi cyfaddawdu o ran maint yr addasiadau a’r estyniad i’w eiddo. Nododd mai cais ar gyfer teulu ifanc o 5 yw hwn. Mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y cais yn haeddu cael ei gefnogi fel y gellir darparu cartref digonol ar gyfer teulu ifanc. 

 

Roedd y Cynghorydd Lewis Davies, Aelod Lleol ac Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cytuno gyda’i gyd Aelod etholedig nad oedd y cais hwn yn niweidio mwynderau eiddo cyfagos a’r AHNE. Roedd o’n gwbl gefnogol i’r cais ac o’r farn y gellid ei gymeradwyo o fewn Polisi Cynllunio 55. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r rheswm dros wrthod y cais oedd y cynnydd yn arwynebedd y llawr sydd y tu hwnt i feini prawf y polisïau cynllunio ac mae wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored. Roedd yn argymell gwrthod y cais.

 

Dyma oedd y bleidlais:-

 

I ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog:-

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies a Vaughan Hughes.   Cyfanswm 2

 

Ymatal rhag pleidleisio :-

 

Y Cynghorwyr K.P. Hughes, T. Victor Hughes, W.T. Hughes,

R.O. Jones                                                                   Cyfanswm 4

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan yr ystyriwyd y byddai’r cais yn gwella cyd-destun gweledol yr annedd, rhywbeth y gellir ei gymeradwyo o dan Bolisi 55.

(Yn unol â’r gofynion yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais).

 

12.2  17C511 – Cais llawn i ddymchwel yr ysgol bresennol, codi pump annedd newydd ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol yn Hen Ysgol, Bro Llewelyn, Llandegfan

 

Cyflwynwyd y cais  i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Rhoes y Prif Swyddog Cynllunio ddiweddariad i’r Pwyllgor a nododd fod 7 llythyr o wrthwynebiad bellach wedi dod i law. Dywedodd nad oedd unrhyw faterion ychwanegol wedi cael eu codi yn y llythyrau hyn a bod y cyfan ohonynt wedi cael sylw yn adroddiad y Swyddog. Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu oherwydd bod y safle o fewn ffin ddatblygu anheddiad diffiniedig pentref Llandegfan.  Deallir y bydd y 5 annedd sy’n rhan o’r cais oll yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy i bobl leol; bydd angen llofnodi cytundeb Adran 106 cyn rhyddhau’r caniatâd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig am anheddau fforddiadwy i bobl leol a chynigiodd bod y cais yn cael ei ganiatáu. Fe eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  17C512 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y neuadd gymunedol, codi pedair annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau yn Neuadd Llansadwrn, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais  i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Llansadwrn wedi ei enwi fel anheddiad rhestredig dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn sy’n caniatáu codi anheddau sengl o fewn neu ar gyrion anheddiad. Mae digon o le ar gyfer 4 annedd a y plot ac nid ystyrir y bydd caniatáu datblygu 4 annedd fel datblygiad mewn-lenwi yn y lleoliad hwn yn achosi niwed. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig am anheddau fforddiadwy ar gyfer pobl leol a chynigiodd bod y cais yn cael ei ganiatáu. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4  19C845K – Cais llawn ar gyfer codi ardal sefyll 65 metr o hyd wedi’i chysgodi ar gyfer cefnogwyr yng Nghlwb Pêl-droed Hotspurs Caergybi, Canolfan Hamdden Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais  i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd T.Ll. Hughes ei fod ef, fel Aelod Lleol, yn cefnogi’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  21C58H – Cais llawn ar gyfer codi 10 o unedau gwyliau ychwanegol ym Mharc Eurach, Llanddaniel Fab

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradodd Dr. Neil Trevor Jones fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Oherwydd bod yr unedau cychwynnol ym Mhentref Gwyliau Parc Eurach wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd, dywedodd Dr Jones ei bod yn amlwg nad oedd marchnad ar gyfer y math yma o gyfleuster. Yn adroddiad y Swyddog Cynllunio i’r Pwyllgor, dywedwyd na fydd yr unedau ychwanegol sy’n cael eu cynnig yn dibynnu ar ddefnyddio ceir preifat. Mae’r safle bws hanner milltir o Barc Eurach ac fel un a oedd yn byw yn lleol, nid oedd ef wedi gweld neb o Barc Eurach yn defnyddio cludiant cyhoeddus. Ers cyflwyno’r cais am unedau ychwanegol ym Mharc Eurach, roedd caniatâd cynllunio wedi cael ei ryddhau ar gyfer addasu ysgubor yn 4 uned yn Tyddyn Llywarch sydd dros y ffordd i’r datblygiad hwn. Mae tenantiaeth y tir o gwmpas Parc Eurach wedi newid dwylo yn ddiweddar ac mae’r tenant yn cadw 600 o wartheg godro ar y tir. Mae lefel y peiriannau trwm sy’n mynd ar hyd y ffordd ger Parc Eurach, Bryn Celli Ddu a Tyddyn Llywarch wedi cynyddu’r sylweddol ers i denantiaeth y tir newid dwylo. Byddai’r cynnydd pellach yn y traffig a fyddai’n gysylltiedig gyda’r cais cynllunio arfaethedig am 10 o unedau gwyliau ychwanegol yn afresymol ac yn beryglus.  Dywedodd Dr Jones ymhellach bod adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor yn cyfeirio at y ffaith bod Parc Eurach yn union gyferbyn â’r Pentref Gwyliau cyfredol ac y byddir yn edrych arno ochr yn ochr â hwnnw ac anheddiad Llanddaniel a bydd gwaith plannu sylweddol yn cael ei wneud a llyn ac ardal goediog yn cael eu darparu. Dyma’r union addewidion na chawsant eu gwireddu pan ganiatawyd y Pentref Gwyliau gwreiddiol. Mae’r safle mewn lleoliad uchel ac nid yw’n bosib ei sgrinio o gyfeiriad y de wrth fynd i mewn i’r pentref. Gallai cael 10 o bobl di-Gymraeg eto yn y pentref newid cydbwysedd ieithyddol pentref fel Llanddaniel. Mae 2 arwydd Saesneg yn unig wedi cael eu codi’n ddiweddar gyda’r neges ‘No Access’ ger y fynedfa i Barc Eurach.  Dywedodd Dr Jones nad oes unrhyw dystiolaeth y byddai’r cyfleuster hwn yn gwella economi’r Ynys. Roedd nifer o amodau’n gysylltiedig â draenio a charthffosiaeth yn y cais hwn ac roedd y materion hyn wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i Dr Jones a oedd y cabanau gwreiddiol ym Mharc Eurach i ddibenion gwyliau’n unig. Ymatebodd Dr. Jones na fu modd gwerthu’r rhan fwyaf o 20 o gabanau a ganiatawyd ac o’r herwydd, caiff yr amodau eu gollwng fel y gellid defnyddio’r safle fel Pentref Gwyliau. Roedd yn amodau gwreiddiol yn dweud na châi trigolion fyw ar y safle yn barhaol.  Gofynnodd y Pwyllgor a oedd pobl yn byw yn y cabanau hyn yn barhaol ar hyn o bryd. Dywedodd Dr Jones fod pobl yn byw ar y safle’n barhaol ac yn mynd i’r gwaith o’r safle. Mae plant sy’n byw ar y safle hefyd wedi bod yn mynychu’r ysgol leol.

 

Siaradodd Mr. Geoff Green, yr ymgeisydd, o blaid ei gais. Dywedodd Mr Green iddo brynu safle Parc Eurach pan oedd 3 o dai yn cael eu defnyddio ar sail barhaol. Dywedodd nad oedd wedi gwerthu’r tai hynny oherwydd iddo eu hetifeddu pan brynodd o’r safle. Yn ystod y cyfnod y bu wrthi’n datblygu’r safle ac yn ddiweddarach, roedd wedi derbyn a gwrthod 11 o gynigion gan bobl a oedd yn dymuno byw ar y safle. Byddai hynny wedi bod yn groes i’r amodau cynllunio a ganiatawyd ar gyfer y safle. Dywedodd ei fod wedi colli rhan o’r safle yn ystod y dirwasgiad. Dywedodd Mr. Green hefyd ei fod wedi prynu safle arall yn Llyn Jane, Llandegfan sydd yn ddatblygiad llwyddiannus o gabanau pren i ddefnydd gwyliau yn unig ac sydd wedi ennill y Wobr Cabanau Gwyliau Gorau yng Nghymru am y 5 mlynedd diwethaf. Llwyddwyd i wneud hyn oherwydd yr ymrwymiad i weithredu ar y caniatâd cynllunio a’r brydles gyfreithiol a oedd yn rhan o’r datblygiad yn Llyn Jane,  Llandegfan. Dywedodd y byddai’n fodlon llofnodi unrhyw ddogfennau cyfreithiol mewn perthynas â Pharc Eurach petai’n llwyddo i gael caniatâd cynllunio ar gyfer unedau ychwanegol ar y safle. Dywedodd  Mr. Green ymhellach ei fod yn bwriadu buddsoddi i ddarparu llety twristiaeth o ansawdd uchel sydd ei angen yn awr ac yn arbennig yn y dyfodol er mwyn cefnogi Ynys Môl cyrchfan y bydd twristiaid yn dewis dod iddo. Roedd Mr Green yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi codi unrhyw arwyddion yn ymyl y safle.

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Green am y datganiad a wnaed gan y gwrthwynebydd i’r cais fod pobl yn byw’n barhaol ar y safle. Dywedodd Mr. Green nad ef oedd perchennog y rhan honno o’r tir mwyach oherwydd collodd y safle yn ystod y dirwasgiad a bod y bobl a oedd yn byw’n barhaol yn y 3 tŷ yno cyn iddo brynu’r safle’n wreiddiol.  Yr oedd ef wedi gwrthod gwerthu eiddo ar y safle yn groes i amodau cynllunio. Roedd yr eiddo sydd ganddo ef ar werth i bwrpas gwyliau’n unig a hynny’n unol â’r amodau cynllunio.

 

Rhoes y Cynghorydd H. Eifion Jones, fel Aelod Lleol, fanylion cefndir am y safle ym Mharch Eurach. Mae Parc Eurach wedi’i leoli ar lôn fechan gul i gyfeiriad  Ffingar, Llanedwen.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn wreiddiol am 20 o unedau gwyliau ar y safle yn 2002.  Nododd fod teimladau cymysg yn y gymuned mewn perthynas â’r unedau gwyliau ym Mharc Eurach a fod pryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a’r problemau a gafodd y perchennog o safbwynt dŵr, carthffosiaeth a thrydan i’r safle. Daeth yn amlwg bod rhai o’r unedau wedi cael eu gwerthu fel y gallai pobl fyw ar y safle yn barhaol. Dywedodd y Cynghorydd Jones petai’r datblygwr wedi cyflwyno cais am 20 o anheddau ar y safle ar y pryd, mae’n fwy na thebyg y byddai wedi cael ei wrthod oherwydd bod y safle wedi’i leoli yn y cefn gwlad ac y byddai’n groes i bolisïau cynllunio. Oherwydd y dirwasgiad, cafodd y safle ei ail-feddiannu a’i werthu i berchennog arall. Yn 2008, cyflwynwyd cais ar gyfer 20 o unedau ar y safle ond ddaeth dim byd o’r cais. Mae’r cais sydd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion heddiw yn gais am 10 o unedau gwyliau; cyflwynwyd y cais hwn i’r Adran Gynllunio yn 2014.  Ym marn y Cynghorydd Jones, roedd hi’n briodol gofyn i’r Swyddog pam y cymerodd cymaint o amser i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones hefyd bod 20 o lythyrau o wrthwynebiad wedi cael eu derbyn gan drigolion Llanddaniel mewn perthynas â’r cais hwn ac mae eu pryderon wedi cael eu rhestru yn adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor. Mae’r Cyngor Cymuned lleol hefyd yn gwrthwynebu’n gryf i’r cais. Mynegwyd pryderon yn y gymuned ynghylch problemau traffig a’r peryglon i gerddwyr sy’n cerdded yn ymyl y safle hwn. Gofynnwyd am lecynnau pasio mewn perthynas â chais arall a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn a dim ond cais am un uned oedd hwnnw. Yn ei farn ef, nid oedd defnyddio trafnidiaeth leol yn berthnasol i’r cais hwn oherwydd nid oes un bws bob dwy awr i Fangor. Gofynnodd y Cynghorydd Jones a oedd Cynllun Rheoli Traffig wedi cael ei gomisiynu oherwydd nad oedd sôn am hynny yn adroddiad y Swyddog.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod polisïau cynllunio ar gael i gefnogi creu llety gwyliau a gwella cyfleusterau i dwristiaid. Oherwydd y pellter oddi wrth yr eiddo preswyl cyfagos, ystyrir na fyddai’r cynnig hwn yn arwain at unrhyw ymyrraeth negyddol ar fwynderau trigolion lleol. Bydd nifer sylweddol o goed yn cael eu plannu i wella’r dirwedd. Ystyrir y gellir draenio’r safle’n ddigonol i osgoi unrhyw broblemau draeniad. Roedd y cais a gyflwynwyd yn 2008 am 20 o unedau wedi cael ei drafod yn eang er mwyn gostwng nifer yr unedau i 10 a sicrhau’r canlyniad gorau posib ar gyfer yr ardal leol. 

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd nad oedd ym ymwybodol fod Arolwg Rheoli Traffig wedi cael ei gynnal mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod Arolwg Traffig wedi cael ei gynnal ar gyfer y cais gyferbyn â’r safle hwn yn ddiweddar a bod cyflymder y traffig ar y briffordd yn dderbyniol o safbwynt gwelededd. Nododd bod y fynedfa i’r safle hwn yn dderbyniol ac na fyddai ychwanegu 10 o unedau’n cael effaith andwyol ar y rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd H. Eifion Jones ei fod ef o’r farn y dylai Arolwg Rheoli Traffig fod wedi cael ei gynnal flynyddoedd yn ôl mewn perthynas â’r cais hwn. Ers cyflwyno’r cais hwn, caniatawyd addasu uned yn llety gwyliau yn y cyffiniau a gofynnwyd am Arolygon Rheoli Traffig mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.    

 

Dywedodd y Cynghorydd T.V. Hughes ei fod yn cytuno bod angen comisiynu Arolwg Rheoli Traffig oherwydd bod nifer o gerddwyr yn defnyddio’r lôn fechan hon sy’n mynd heibio’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid ymweld â’r safle oherwydd effaith y cais ar yr ardal leol a’r dirwedd. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6  39LPA1014B/CC – Cais amlinellol ar gyfer codi dwy annedd gyda’r holl faterion wedi’u cadw’n ôl ar yr hen safle yn yr Ysgol Feithrin, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies beth oedd ymateb y Cyngor Tref i’r cais hwn oherwydd mae traffig trwm yn barhaus yn yr ardal hon. Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod ganddynt bryderon ynghylch y fynedfa gyfredol i’r safle hon. Mae mynedfa newydd yn cael ei chreu i wasanaethu’r cynnig ac ystyrir y bydd yn dderbyniol oherwydd bydd llai o draffig yn defnyddio’r safle fel dwy annedd yn hytrach na fel meithrinfa. Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio i ymateb y Cyngor Tref a nododd mai cais amlinellol yw’r cais ac y byddant yn disgwyl am fanylion pellach ar adeg cyflwyno’r cais llawn.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gais gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  39C295B/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwneud gwaith trwsio yn Swyddfa Archebu Tocynnau’r Pier, Ffordd Cynan, Porthaethwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw perchennog yr adeilad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8  46C570 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y mast presennol a chodi mast newydd 25 metr ar dir yn Ynys Lawd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion gan ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Lewis Davies. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.9  47C149 – Cais llawn i ddymchwel rhan o’r ysgol bresennol, newid defnydd yr ysgol yn swyddfa (Dosbarth B1), codi 10 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn Ysgol Gynradd, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod ar dir a oedd yn rhannol ym mherchenogaeth y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fel Aelod Lleol, y dylid gohirio’r cais oherwydd nid oedd y Cyngor Cymuned lleol wedi cael cyfle i gyfarfod ac oredd pryderon yn lleol mewn perthynas â’r cais i godi 10 o anheddau yn yr ardal. Mae’r gymuned leol hefyd wedi mynegi ei hawydd i gael asesiad o angen lleol mewn perthynas â’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.   

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: