Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Trysorydd bod yr adroddiad yn cadarnhau'r dyraniadau cyllidol ar gyfer 2017/18. Mae portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn werth £22,487,169 ar hyn o bryd. Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf bydd yr incwm o’r buddsoddiadau ar gyfer 2017/18 yn £675,000. Nododd bod yr Ymddiriedolaeth, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016, wedi cytuno i dalu cyfraniad at gyflogau Swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gweithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth. Mae cyllideb o £30k yn 2017/18 ar gyfer gwneud y cyfraniadau hyn.
Y gyllideb a argymhellir ar gyfer grantiau yn 2017/18 yw: -
Oriel Ynys Môn £215k
Neuaddau Pentref £ 70k
Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol
a Mân Grantiau £100k
Grantiau mwy - Ymrwymiadau Tymor Hir: -
Ffermwyr Ifanc Ynys Môn £ 30k
Urdd Gobaith Cymru £40k
Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Môn £ 40k
Menter Môn £110k
Cynigir torri’r gyllideb ar gyfer Neuaddau Pentref i £70k o gymharu ag £80k yn 2016/17 a hynny i adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau am arian o’r gyllideb hon.
Yn ogystal, cynigir torri'r gyllideb ar gyfer Grantiau i Gyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau i £100k o gymharu â £125k yn 2016/17 i adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau am arian o’r gyllideb hon.
Ychwanegodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2016, wedi penderfynu gwneud darpariaeth o £350k ar gyfer cyllido grantiau mwy yn 2017/18.
Materion a godwyd gan Aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol: -
· Cwestiynau ynglŷn â thelerau'r grant i Menter Môn mewn perthynas ag arian cyfatebol o ffynhonnell Ewropeaidd ac ynghylch a fydd y prosiect yn cael ei fonitro. Dywedodd y Trysorydd bod proses fonitro wedi cael ei sefydlu ac y cyflwynir adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn ymhelaethu ar y defnydd a wneir o’r cyllid grant gan Menter Môn;
· Mynegodd yr Aelodau bryderon am y gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer grantiau i Neuaddau Pentref a Chymuned a’r gyllideb ar gyfer Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau. Argymhellwyd y dylid eu hadfer ac y dylid hysbysebu’r grantiau bychan blynyddol yn well, sef trwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol fel sy’n digwydd ar gyfer y grantiau mwy;
· ‘Roedd yr Aelodau yn credu y dylai'r Pwyllgor Adfywio roi sylw gofalus i’r ceisiadau a gafwyd oherwydd y gallai ddigwydd bod y rhan fwyaf o'r ceisiadau yn haeddu cefnogaeth. Dywedodd y Trysorydd y gall y Pwyllgor Adfywio ofyn i'r Ymddiriedolaeth lawn gynyddu'r dyraniad ar gyfer grantiau mwy, ond mae'n rhaid i'r Ymddiriedolaeth fod yn ymwybodol ei bod yn dibynnu ar dwf cronfa’r Ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn ariannol; bydd HSBC Investment Management yn cyflwyno rhagolygon mewn perthynas â thwf cronfa’r Ymddiriedolaeth.
PENDERFYNWYD : -
· Mabwysiadu cyllideb ar gyfer 2017/18 fel a ganlyn: -
Oriel Ynys Môn £215k
Neuaddau Pentref £80k
Cyfleusterau Chwaraeon a
Chymunedol a Mân-Grantiau £125k
Cyngor Sir Ynys Môn (cyfraniad at
gyflogauSwyddogion y Cyngor Sir) £30k
Grantiau mwy o'r Gronfa Cyfalaf £350k
Ymrwymiadau Tymor Hir £220k
· Dirprwyo £125k i'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i ymdrin â cheisiadau am Grantiau Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau.
Dogfennau ategol: