Eitem Rhaglen

Model Llywodraethu ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd

·        Cyflwyno’r Model Llywodraethu ar gyfer y Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y Cyd.

 

·        Cyflwyno’r penawdau oddi fewn i’r Gytundeb Partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer cyflawni’r Strategaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd.

Cofnodion:

Cylchredwyd siart llif er sylw’r Cyd-Bwyllgor a oedd yn dangos trefniant llywodraethiant y Gwasanaeth ADY a Ch i’w ddarparu gan Gyngor Gwynedd ar ran Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn. Cyflwynwyd hefyd dabl yn gosod allan y fforymau llywodraethiant o dan y Strategaeth newydd, eu cyfrifoldebau a’u cylch gorchwyl.

 

Nodwyd bod y canlynol yn fforymau newydd  yn y trefniadau llywodraethiant a fyddant yn ychwanegol i Dimau Rheoli Addysg y ddwy sir a’r Cabinet yng Ngwynedd a’r Pwyllgor Gwaith ym Môn y maent eisoes mewn bodolaeth

 

Uwch Dîm Rheoli Gwasanaeth ADY a Ch

Bwrdd Monitro a Chraffu ADY a Ch Gwynedd a Môn

Cyfarfodydd Pennaeth Addysg Gwynedd a Phennaeth Dysgu Ynys Môn

 

Eglurodd Swyddog Addysg ADY Cyngor Sir Ynys Môn sut y byddir yn gwneud cais am gymorth ychwanegol yn unol â’r Strategaeth; dywedodd y byddai’r  broses o roi cymorth yn llawer cynt o dan y drefn newydd. O ran y plant hynny y mae eu hanghenion yn rhai dwys bydd y llwybr at ddatganiad neu cymorth oriau penodol gyda chymhorthydd yn dal i fodoli ac ar gael iddynt; fodd bynnag y bwriad yw targedu’r plentyn yn gynt fel bo llai o angen am ymyrraeth ddwys.

 

Dywedodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y meini prawf a’r trothwyon mynediad at gymorth ychwanegol a weithredir gan y Fforymau ardal yn gyson ar draws y ddwy sir sy’n golygu y bydd y cyfle cyfartal o fewn y gwasanaeth yn gyfansawdd yn gryfach. Byddir yn arfarnu llwyddiant yr ymyrraeth drwy gasglu canlyniadau’r plant a’u hadrodd i’r ddau awdurdod. Caiff ansawdd y gwasanaeth hefyd sylw rheolaidd trwy’r Bwrdd Monitro a Chraffu. Yn ogystal bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu perthnasol y ddwy sir er mwyn iddynt gael gweld beth yw natur y buddsoddiad yn y gwasanaeth a‘i ganlyniad o ran perfformiad y grwp yma o blant fel y gallant arfarnu a yw’r gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian ai peidio. Bydd unrhyw benderfyniadau penodol ynghylch hynny yn cael eu gwneud gan Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn.

Dywedodd Swyddog Prosiect Cyngor Gwynedd mai crynodeb a gyflwynir trwy’r siart llif a’r tabl cyfrifoldebau, a cheir rhagor o fanylion yn y ddogfen bartneriaeth. Byddid yn gwerthfawrogi unrhyw sylw y carai aelodau’r Cyd-Bwyllgor eu cyflwyno mewn perthynas â lefel yr atebolrwydd y mae’r drefn newydd yn ei gynnig naill ai yn y cyfarfod hwn neu o fewn y bythefnos nesaf.

 

Bu i’r Cyd-Bwyllgor ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd gan wneud y sylwadau canlynol

 

           Bod y Cyd-Bwyllgor yn dymuno gweld parhau gyda’r cyfle sydd yn bodoli yn bresennol i holi gwasanaethau yn uniongyrchol megis y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol.

 

Dywedodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn y bydd monitro a thracio pob gwasanaeth unigol yn erbyn mesuryddion yn cael ei gyflawni gan y Bwrdd Monitro a Chraffu ADY a Ch Gwynedd a Môn y bydd Aelod o Gabinet Gwynedd ac Aelod Portffolio o Bwyllgor Gwaith Ynys Môn yn gynrychiolwyr arno.

 

           Bod y Cyd-Bwyllgor yn dymuno gweld Aelodau Meinciau Cefn hefyd yn cael y cyfle i graffu’r gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn y byddai hynny yn digwydd trwy gyfrwng y drefn graffu yn y ddwy sir. Gan fod trefniadau a chapasiti pwyllgorau craffu yn gallu amrwyio o sir i sir gofynnir am farn y Cyd-Bwyllgor ynglyn ag amlder cyflwyno adroddiadau i bwyllgorau craffu Ynys Môn a Gwynedd.

 

Cynigiodd y Cyd-Bwyllgor bod adroddiadau ynglyn â’r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad ar y cyd newydd yn dod gerbron pwyllgorau craffu Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn ddwywaith y flwyddyn i gychwyn.

 

Cytunwyd y dylai deunydd y cyflwyniadau gael ei gylchredeg i aelodau’r Cyd-Bwyllgor nad oeddent yn bresennol er mwyn rhoi cyfle iddynt hwythau hefyd gynnig sylwadau ar y cynnwys.