Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

12.2  19C1198 – Pafiliwn Parc Caergybi, Caergybi

 

12.3  29LPA1008F/CC/VAR – Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu

 

12.4  38C324 – Alma Hall, Carreglefn

 

12.5  46C582/AD – Maes Parcio Y Range, Penrhosfeilw, Caergybi

 

12.6  46C583/AD – Maes Parcio  Pysgotwyr, Penrhosfeilw, Caergybi

 

12.7  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

 

12.8  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

 

12.9  48C202 – Penrallt Bach, Gwalchmai

Cofnodion:

12.1  18C225B Cais llawn i godi annedd newydd a chreu mynedfa ynghyd â gosod paced  trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i Aelodau gael gwell dealltwriaeth o safle’r cais o ran ei gyd-destun a’i berthnasedd i’r pentref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd ymgymryd ag ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.2    19C1198 – Cais llawn i newid defnydd adeilad o bafiliwn i gaffi ym Mhafiliwn  Parc Caergybi, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn un a wneir ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y cais; arhosodd yn y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a'r argymhelliad yn amodol ar yr amodau a nodir ynddo.

 

12.3    29LPA1008F/CC/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (10) o ganiatâd cynllunio rhif 29LPA1008A/CC (codi ysgol gynradd newydd) er mwyn caniatáu rhywfaint o oleuni i lifo o'r safle dros y ffiniau yn Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr amod gwreiddiol (10) ar y caniatâd ar gyfer yr ysgol newydd yn nodi y dylai unrhyw gynllun goleuni gael ei ddylunio fel nad oes unrhyw ollyngiad goleuni yn digwydd y tu hwnt i ffiniau’r safle. Fodd bynnag, nid yw wedi bod yn bosibl dylunio cynllun sy’n bodloni gofynion diogelwch goleuni ond nad yw’n golygu bod rhywfaint o oleuni’n gollwng i’r tir cyfagos. Mae cynllun goleuni newydd wedi’i ddylunio sy’n bodloni anghenion y Swyddogion Iechyd Amgylcheddol ond sy’n golygu peth gollyngiad i eiddo preswyl cyfagos. Mae’r Swyddogion Iechyd Amgylcheddol wedi cadarnhau bod y lefelau golau yn rhai na fyddant yn achosi niwsans yn yr ardal; yn ychwanegol at hynny fe gynigir cynllun rheoli caeth a fydd yn nodi pryd y caniateir defnyddio’r goleuadau ac mai dim ond yn ôl yr angen y bydd hynny’n digwydd. Mae buddion diogelwch i’r goleuadau ac mae Swyddogion yn fodlon nad yw’r effeithiau’n ddigonol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r argymhelliad gyda’r amodau a nodwyd ynddo.

 

12.4    38C324 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir yn Alma Hall, Carreglefn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw aelodau’r Pwyllgor at y ffaith bod y darlun o’r cynllun a gyhoeddwyd fel rhan o agenda’r cyfarfod yn anghywir. Dangoswyd llun o’r cynllun cywir i’r Pwyllgor.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr Sion Jones (o blaid y cais) am ei resymau dros wneud y cais gan ei fod yn berson lleol wedi’i fagu yng Ngharreglefn a oedd wedi ceisio prynu yn yr ardal ond a oedd wedi methu o ganlyniad i brisiau tai. Roedd wedi gorfod symud ei blant i Ysgol Rhosybol gan fod y teulu bellach yn rhentu yn ardal Amlwch gan nad oes unrhyw beth addas ar gael yng Ngharreglefn. Mae’r plot yn cynnig cyfle i adeiladu o’r newydd a fyddai’n galluogi’r plant i ddychwelyd i’r ysgol leol ac at eu cysylltiadau teuluol yng Ngharreglefn. Mae’r cais yn un rhesymol gan ei fod yn un ar gyfer annedd tair llofft. Mae dau lythyr o gefnogaeth wedi eu hanfon gan y trigolion hynny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad a’r unig bwynt a godwyd oedd un o fynediad ar yr hyn sy’n ffordd breifat. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r pwyllgor gynnal Ymweliad Safle er mwyn i Aelodau allu gweld y cais yn ei gyd-destun ac asesu agosrwydd y datblygiad i eiddo arall yn yr ardal gyfagos a’r effaith bosibl a allai godi o ganlyniad. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.5    46C582/AD – Cais llawn i godi arwydd gwybodaeth ym Maes Parcio’r Maestir, Penrhos Feilw, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn berchen i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a’i argymhellion yn amodol ar yr amodau a nodwyd ynddo. 

 

12.6    46C583/AD – Cais llawn i godi arwydd gwybodaeth ym Maes Parcio’r Pysgotwyr, Penrhos Feilw, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn berchen i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Nicola Roberts. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r argymhellion yn amodol ar yr amodau am nodwyd ynddo. 

 

12.7    47C153 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa a gosod paced trin carthffosiaeth ynghyd â chreu estyniad i'r fynwent bresennol ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Aelod Lleol wedi’i alw i mewn am benderfyniad gan y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â’r safle er mwyn i aelodau allu asesu’r datblygiad arfaethedig yn well o fewn ei gyd-destun ac mewn perthynas â’r fynwent a’r pentref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.  

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.8    47C154 -  Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa newydd ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Aelod Lleol wedi’i alw i mewn am benderfyniad gan y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, i’r Pwyllgor ymweld â’r safle er mwyn i aelodau allu asesu’r datblygiad arfaethedig yn well o fewn ei gyd-destun ac mewn perthynas â’r fynwent a’r pentref. Dywedodd hefyd bod posibilrwydd o fudd cymunedol o ran y bwriad i gynnig tir i wella’r ffordd ac y byddai o fantais i’r Aelodau weld y ffordd a’r manteision a allai godi o wella’r ffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

Penderfynwyd ymgymryd ag ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.8    48C202 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Penrallt Bach, Gwalchmai

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r Pwyllgor ymweld â’r safle er mwyn gallu gwneud gwell asesiad o’r cais a’r fynedfa o fewn ei gyd-destun a’r effeithiau posibl ar amwynderau preswyl deiliaid eiddo cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle am y rhesymau a roddwyd.

Dogfennau ategol: