Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 GTP/TVG01/2014 – Traeth y Newry a’r Grinoedd, Caergybi

Cofnodion:

13.1 GTP/TVG01/2014 – Cais i gofrestru tir fel Grîn Tref neu Bentref (GTB) yn Nhraeth y Newry a’r Grinoedd, Caergybi

 

Cyfeiriwyd y mater at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r Awdurdod Cofrestru ar gyfer yr ardal at ddibenion Deddf Tiroedd Comin 2006. Yr Awdurdod Cofrestru sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau i gofrestru tir fel grinoedd tref neu bentref (GTB) o dan y Ddeddf. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae’r Cyngor llawn wedi dyrannu;’r cyfrifoldeb am benderfynu ceisiadau GTB i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. 

 

Adroddodd y Swyddog Cyfreithiol bod hanes y cais a’r modd yr ymdriniwyd ag ef yn cael ei grynhoi yn adroddiad y Swyddog. Gan fod y gyfraith yn ymwneud â GTB yn arbenigol a chymhleth, cafodd swyddogion yr Awdurdod gyngor gan Mr Jeremy Pike, bargyfreithiwr sydd ag arbenigedd yn y maes. Ar 31 Mawrth, 206 rhoddodd Mr Pike gyngor ysgrifenedig i’r Awdurdod Cofrestru ar y cais, y gwrthwynebiadau a wnaed iddo a’r cyflwyniadau pellach a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd (Waterfront Action Group) a’r prif wrthwynebwyr (Stena Line Ports Ltd a Conygar Stena Line Limited). Cynghorodd Mr Pike nad oedd y cais yn gwneud achos prima facie ar gyfer cofrestru; cynghorodd Mr Pike hefyd na ddylai’r Awdurdod Cofrestru wneud penderfyniad ar y Cais tan fod tystiolaeth a’r dadleuon ar faterion penodol a nodwyd yn ei gyngor, wedi eu clywed. Wrth dderbyn y cyngor hwn, rhoddodd yr Awdurdod Cofrestru gyfarwyddyd i Mr Pike weithredu fel Archwiliwr mewn ymchwiliad cyhoeddus anstatudol i’r Cais ac yna i baratoi adroddiad gydag argymhelliad o ran sut y dylai’r Awdurdod Cofrestru benderfynu ar y Cais. Roedd yr adroddiad gan Mr Pike yn cynnwys, fel atodiad i adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth, dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 3 a 7 Hydref, 2016 yn Neuadd y Dref, Caergybi.  

 

Roedd yr adroddiad gan Mr Pike yn crynhoi ym mharagraff 296 “that use of the Land was ‘by right’ and not ‘as of right’ for the whole of the Relevant Period because the Council held it and had made it available for such use; and  because until 2007 the whole of the Land was subject to the Byelaws, which either caused any sports and pastimes on the Land to be unlawful rather than lawful, or alternatively when considered in conjunction with the lease to the Council gave rise to the grant of permission to the public to use the Land.” Ei argymhelliad felly oedd na fedrir cofrestru’r tir ar hyn o bryd a bod yn rhaid gwrthod y cais. Mae’r Swyddog yn argymell y dylid derbyn argymhelliad a chasgliadau Mr Pike ac y dylai’r Awdurdod Cofrestru wrthod y cais.

 

Rhoddodd y Swyddog Cyfreithiol wybod i’r Pwyllgor yn dilyn cael adroddiad Mr Pike gan y Cyngor, bod yr Athro Emeritus Terence Looker ar ran y Waterfront Action Group wedi anfon e-bost ar 23 Chwefror, 2017 at Reolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor a oedd yn cynnwys datganiad i’w gynnwys â phapurau’r agenda ar gyfer y cyfarfod hwn. Ar yr un diwrnod fe ddosbarthodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yr adroddiad i Aelodau’r Pwyllgor. Anfonwyd y datganiad hefyd at Gyfreithwyr Conygar Stena Line Ltd; fe wnaethant gadarnhau mewn e-bost dyddiedig 23 Chwefror nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud heblaw am nad oedd y datganiad gan yr Athro Looker yn cynnwys unrhyw beth perthnasol ar gyfer ystyriaeth y Cyngor o’r adroddiad a oedd yn codi o’r Ymholiad Cyhoeddus. Ar 23 Chwefror hefyd, anfonodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol gopi o’r datganiad at Mr Jeremy Pike gyda chais iddo rhoi gwybod os oedd yn ystyried bod y datganiad yn effeithio ar ei adroddiad neu ei argymhelliad mewn unrhyw ffordd. Cadarnhaodd Mr Pike, ar 28 Chwefror, 2017 ac wedi ystyried y sylwadau a wnaed ynghyd â’r e-bost gan Gyfreithiwr y Gwrthwynebydd, nad oedd datganiad pellach yr ymgeisydd yn cyffwrdd ar unrhyw fater o fewn ei adroddiad na’r argymhelliad, ac nad oedd unrhyw beth felly yr oedd angen iddo ychwanegu i’r hyn a nodir yn yr adroddiad.

 

Gwahoddir y Pwyllgor i gytuno â’r argymhelliad yn adroddiad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad i’r Cyngor gan Mr Jeremy Pike, Bargyfreithiwr.

 

Siaradodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones fel Aelod Lleol. Diolchodd i’r Cyngor am gynnal yr Ymchwiliad Cyhoeddus a roddodd gyfle i drigolion yr ardal leol fynegi eu barn ar y mater. Dangosodd yr ymchwiliad fod Traeth Newry a’r Grîn yn fannau cysegredig i’r gymuned leol. Er yn siomedig â’r canlyniad, mae trigolion Caergybi yn edrych ymlaen at gael cydweithio â Conygar Stena Line Limited er mwyn gallu gwella’r ardal a gobeithir y byddant yn ystyried pryderon y trigolion lleol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, wrth weithredu ar ran y Cyngor fel Awdurdod Cofrestru, yn gwrthod cais GTP/TVG/01/2014  i gofrestru tir yn Nhraeth Newry a’r Grîn, Caergybi yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a nodwyd gan y Bargyfreithiwr, Mr Jeremy Pike yn ei adroddiad. (Ymataliodd y Cynghorydd John Griffith ei bleidlais)   

Dogfennau ategol: