Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Cynllunio Arbedion - Cyngor Sir Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar drefniadau Cynlluniau Arbedion y Cyngor ynghyd â'r ymateb gan Reolwyr i'r argymhellion a wneir ynddo.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y trefniadau Cynllunio Arbedion yn ganlyniad i adolygiad pellach o drefniadau cynllunio ariannol y Cyngor a gynhaliwyd ym mis Medi, 2016. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn mhob un o'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru ac mae'n dilyn adolygiad cynharach a wnaed o wydnwch ariannol yr awdurdodau lleol ac yr adroddwyd arno ar lefel yr awdurdodau unigol ac ar lefel genedlaethol ar ffurf  crynodeb cenedlaethol a gyhoeddwyd yn Awst 2016. Cyfeiriodd y Swyddog at sgôp yr adolygiad o’r Cynlluniau Arbedion a dywedodd fod yr adroddiad yn dod i'r casgliader bod gan y Cyngor fframwaith cynllunio ariannol sy’n gwella, y ceir cynlluniau arbedion sydd heb ddatblygu digon a’i bod yn bosibl na fyddant yn cefnogi cydnerthedd ariannol yn llawn yn y dyfodol.” Mae'r adroddiad hefyd yn nodi rhai newidiadau cadarnhaol yn y sefyllfa ers 2015/16 ac yn nodi hefyd fod y Cyngor wedi cydnabod bod angen newid ei ddull gweithredu strategol mewn perthynas â chynllunio ariannol ac adolygu ei ddull gweithredu mewn perthynas â ffioedd a thaliadau.” Mae'r adroddiad wedi gwneud pum cynnig ar gyfer gwella; manylir ar y rhain yn Atodiad 2 ynghyd â'r ymateb gan Reolwyr a'r dyddiad cwblhau ar gyfer y camau arfaethedig.

 

Dywedodd Mr Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru fod yr adroddiad yn un cadarnhaol ar gyfer y Cyngor a’i fod yn adlewyrchu'r ffaith bod y Cyngor wedi parhau i gryfhau ei drefniadau ariannol. Gellir gwella’r broses o ran sut y cwblheir yr asesiadau o effaith y cynigion arbedion ar faterion cydraddoldeb.   Er bod yr asesiadau hyn yn cael eu gwneud nid oeddent oll wedi eu cynnal pan gytunwyd ar y cynigion ar gyfer arbedion. Byddai'n cynorthwyo Aelodau Etholedig i wneud penderfyniadau gwybodus ar y cynigion arbedion pe bai asesiad wedi ei wneud ymlaen llaw o effaith pob cynnig ar gydraddoldeb. Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod hyn yn cael sylw fel rhan o'r adolygiad o broses gosod cyllideb 2017/18.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod Rheolwyr yn hyderus eu bod yn gallu datblygu cynlluniau arbedion sy'n gadarn, yn gywir ac yn gyraeddadwy, gan wella gwydnwch y Cyngor i wrthsefyll pwysau ariannol yn y dyfodol.  Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 fod strategaeth y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweithio i dynhau’r gyllideb a chael gwared ar y slac ynddi, a hynny i'r fath raddau nad yw'r dull hwn o weithredu yn ymarferol nac yn ddigonol erbyn hyn. Er bod lle o hyd i wella prosesau, mae’r ymagwedd tymor hir, o reidrwydd, yn golygu gorfod ailystyried pa wasanaethau y gellir eu darparu, gan gadw mewn cof y gwasanaethau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu darparu yn ôl y gyfraith a’r rheini nad oes raid eu darparu ac sy’n wasanaethau dewisol, ynghyd â’r ffordd o ddarparu gwasanaethau. Mae’r rhan fwyaf o wariant y Cyngor ar Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phriffyrdd sydd oll yn wasanaethau statudol; felly, mae'n anodd gweld sut y gall y Cyngor barhau i weithredu'n effeithiol ac yn ymarferol mewn cyd-destun o gyllidebau sy’n gostwng heb iddo drawsnewid sut y darperir gwasanaethau er mwyn lleihau costau. Mae'r broses hon wedi dechrau o fewn y Cyngor ac mae’n parhau.

 

Cytunodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid â'r sylwadau a wnaed ac ychwanegodd fod y Cyngor, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ei drefniadau cynllunio ariannol a chyllidebol. Mae'r ffordd y cyllidir y cynghorau ac amseriad cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gyfer y  setliad i lywodraeth leol yn gwneud cynllunio’r gyllideb yn anodd. Nid yw cynllunio’r gyllideb ac arbedion o flwyddyn i flwyddyn bellach yn cwrdd â’r angen; rhaid i’r Cyngor edrych i’r tymor hir a’r allwedd i hyn yw trawsnewid gwasanaethau a'r ffordd y cânt eu darparu.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod balansau cyffredinol o 5% yn parhau i fod yn ddigonol ac yn ymarferol o ran trefniadau cynllunio ariannol y Cyngor a pharhad y rhaglen llymder. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yr ystyrir fel rheol bod 5% o’r gyllideb refeniw net yn lefel dderbyniol o adnoddau i'w cadw wrth gefn. Ar gyfer y Cyngor hwn mae hynny’n cyfateb i £6m. Fodd bynnag, mae angen datrys rhai ystyriaethau cyn i'r sefyllfa derfynol gyda’r cronfeydd wrth gefn ddod yn glir, gan gynnwys Tâl Cyfartal a ph’un a fydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cyfarwyddeb gyfalafu ar gyfer tâl cyfartal a fyddai'n caniatáu i'r Awdurdod gyfalafu’r costau hynny. Oni fyddai modd eu cyfalafu, byddai’n rhaid cwrdd â chostau’r hawliadau tâl cyfartal sy’n weddill o’r balansau cyffredinol. Y llynedd, rhyddhawyd £1m o'r balansau cyffredinol i wella prosesau busnes y Cyngor er mwyn cynhyrchu rhagor o arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol; er bod defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer diben o'r fath yn dderbyniol, ni fyddai'n cynghori defnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bleidiol i gydweithredu a gweithio rhanbarthol, yn arbennig ar gyfer y gwasanaethau statudol mawr, yn debygol o effeithio ar gynlluniau arbedion awdurdod unigol pan ddisgwylir i’r awdurdod hwnnw alinio ei wasanaethau â gwasanaethau hyd at bump o awdurdodau eraill a allai fod â gwaelodlin wahanol a dull gwahanol o weithredu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd y Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru ar Ddiwygio Llywodraeth Leol yn gwneud gweithio rhanbarthol yn orfodol ond, serch hynny, mae'n cynnig bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu cyfrifoldebau os byddai gwneud hynny o fudd i’r gwasanaeth neu’n gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth ac yn lleihau costau.  Yr hyn sydd heb gael sylw yw cost y trefniadau llywodraethu a gweinyddu ar gyfer gweithio rhanbarthol. Os rhennir adnoddau ac os sefydlir cyd-bwyllgorau mae'n rhaid iddynt fod yn atebol ac mae goblygiadau cost i’r trefniadau hynny. Mae hwn yn asesiad y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud cyn ymrwymo i drefniadau gweithio rhanbarthol a chydweithredol.

 

Penderfynwyd -

 

           Derbyn canfyddiadau adroddiad yr Archwiliwr a nodi ei gasgliadau, a chydnabod bod y Cyngor yn parhau i adolygu a mireinio ei drefniadau cynllunio ariannol.

           Derbyn yr ymateb gan Reolwyr a chytuno i’w gyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: