12.1 12C49P/DEL – Casita, Biwmares
12.2 33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen
12.3 34LPA1033/CC – 6-29 Llawr y Dref, Llangefni
12.4 48C203 – 31 Maes Meurig, Gwalchmai
Cofnodion:
12.1 12C49P/DEL –Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a
Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais yw hwn i ddileu amod
(09) o ganiatâd cynllunio 12C49M / VAR sy'n nodi mai dim ond
pobl dros 55 oed y caniateir iddynt fyw yn yr unedau. Gosodwyd yr amod yn wreiddiol am
fod yr ymgeiswyr yn
arbenigo mewn darparu ar gyfer pobl dros 55 oed. Fodd bynnag, o
ganlyniad i newidiadau yn y farchnad ac ansicrwydd ynghylch a
fyddai’r unedau
yn cael eu prynu, byddai dileu'r amod yn caniatáu ar gyfer
ystod ehangach o ddarpar brynwyr ac yn cynyddu tebygolrwydd y
datblygiad. Mewn perthynas â thai fforddiadwy, cytunwyd ar
gyfraniad o £100,000 yn y Cytundeb Adran 106 blaenorol a
osodwyd fel amod gyda chymeradwyo’r cais. Mae'r ddarpariaeth
tai fforddiadwy yn cael ei thrafod ar hyn o bryd gyda'r ymgeisydd a
chaiff y mater hwn ei gynnwys mewn cytundeb newydd. Dywedodd y Prif
Swyddog Cynllunio hefyd fod angen cwblhau gwaith i
sefydlogi’r ddaear cyn dechrau unrhyw waith arall fel yn y
cais blaenorol, a bod yr amod hwn yn parhau i fod yn rhan o’r
cais.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel un o’r Aelodau Lleol,
fod y cais o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bod y
gwaith sefydlogi tir yn achos pryder i'r trigolion lleol ac i
Gyngor Tref Biwmares. Roedd o'r farn y dylid cadw’r cyfyngiad
oed. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais ac
eiliodd y Cynghorydd T.V. Hughes y cynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Jeffrey M. Evans y dylid gohirio rhoi sylw
i’r cais er mwyn caniatáu i'r Swyddog gael gwybod gan
y datblygwr pam fo eisiau dileu'r amod cyfyngiad oed mewn perthynas
â datblygu'r safle. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y
cynnig i ohirio rhoi sylw i’r cais.
Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis
Davies, Ann Griffith, John Griffith a T.V. Hughes i wrthod y cais
yn groes i argymhelliad y Swyddog. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeffrey
M. Evans, K.P. Hughes, W.T. Hughes a Nicola Roberts i ohirio
ystyried y cais. Gwrthodwyd y cais ar bleidlais fwrw'r
Cadeirydd.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyriwyd nad yw’r cais yn bodloni anghenion yr ardal leol a bod angen datblygiad o’r fath ar gyfer pobl dros 55 oed.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).
12.2 33C190Q/VAR –Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio’r fynedfa wreiddiol ar gyfer cerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod
Lleol.
Fel Aelod Lleol, cynigiodd y Cynghorydd T.V. Hughes y dylid ymweld
â'r safle gan fod Cyngor Cymuned Llanfihangel Esceifiog wedi
mynegi gwrthwynebiad i'r cais ar y sail bod y ffordd sy'n arwain at
y fynedfa i'r chwarel yn anaddas. Maent hefyd wedi nodi y dylid
cau’r fynedfa sy’n destun y cais hwn yn sgil amod sy'n
gysylltiedig â'r caniatâd ar gyfer y fynedfa a
ddefnyddir ar hyn o bryd. Eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y
cynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
12.3 34LPA1033/CC –Cais llawn ar gyfer gosod lifft platfform allanol ynghyd â gwaith cynnal a chadw ac ailfodelu yn 6 - 29 Llawr y Dref, Llangefni.
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan
y Cyngor ac ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei
ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 48C203 – Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn 31 Maes Meurig, Gwalchmai
Cyflwynwyd
y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod
sylfeini’r estyniadau yn ffinio â thir sy'n eiddo i'r
Cyngor ac y cyflwynwyd rhybudd arno.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes fod y cais yn cael ei
ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: