Eitem Rhaglen

Strategaeth Ynni Effeithlonrwydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni am y cyfnod 2017 i 2022.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y strategaeth wedi’i llunio mewn ymateb i ymrwymiadau cenedlaethol ar ynni yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; y cynnydd mewn costau ynni a niwed tymor hir i’r amgylchedd. Mae’r strategaeth hefyd yn dynodi swyddogaethau a chyfrifoldebau er mwyn gweithredu’r strategaeth, i nodi a gwneud y defnydd gorau o grantiau gan y Llywodraeth ac i ledaenu’r neges ynglŷn ag arbed ynni ar draws y Cyngor. Nod y strategaeth yw galluogi Cyngor Sir Ynys Môn i wneud gostyngiad o 15% yn ei ddefnydd o ynni erbyn 2022 ac i sicrhau bod yr holl ynni y mae’n ei ddefnyddio’n dod o ffynhonnell garbon niwtral erbyn 2050. Roedd cyfanswm gwariant blynyddol y Cyngor ar ynni a gwastraff yn 2015/16 yn fwy na £2.1m; drwy fabwysiadu argymhellion y strategaeth gall y Cyngor liniaru effaith cynnydd mewn costau tanwydd sy’n uwch na chwyddiant. Mae’r Cyngor wedi rhoi nifer o brosiectau arbed ynni ar waith yn barod, ac mae rhai ohonynt wedi dwyn ffrwyth. Yr amcanion cyffredinol yw lleihau’r defnydd o ynni; hyrwyddo ffynonellau ynni gwyrdd a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant ynni gwyrdd. Ar y dechrau bydd hyn yn cael ei wneud ar sail buddsoddi i arbed, gyda’r disgwyl y bydd llawer o’r gwariant hwnnw’n cael ei adennill dros amser yn sgil costau ynni is.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y bydd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd; mae Aelodau’r Pwyllgor Gwaith hefyd yn awyddus i dderbyn gwybodaeth fwy penodol am gynlluniau arbed ynni gwirioneddol a chynlluniau posib.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod gan y Cyngor raglen o waith arbed ynni sy’n gwbl ddibynnol ar grantiau gan Lywodraeth Cymru e.e. rhaglen ariannu SALIX Cymru. Mae’r Awdurdod wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran sicrhau cyllid ar gyfer goleuadau stryd, gyda 40% o oleuadau stryd erbyn hyn yn oleuadau LED. Talwyd amdanynt drwy ddefnyddio arbedion ar yr ynni a ddefnyddir a chostau cynnal a chadw is goleuadau o’r fath. Derbynnir nad oes arian cyfalaf ar gael yn fewnol yn y Cyngor ar hyn o bryd i gefnogi’r rhaglen hon gan fod blaenoriaethau eraill yn y rhaglen gyfalaf.

 

Er bod y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r strategaeth, gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â pha mor gyraeddadwy yw nodau’r strategaeth o ystyried y cyfyngiadau ariannol. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith hefyd am gael gweld y rhaglen o waith arbed ynni y cyfeiriodd y Swyddog ati ac awgrymwyd ymhellach fod ffynonellau cyllido eraill y gellir ymchwilio iddynt ar gyfer y rhaglen e.e. benthyciadau di-log.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) bod modd gwireddu’r strategaeth. Mae grantiau/cyllid ar gael ar gyfer goleuadau, er enghraifft, y gellir eu talu’n ôl dros gyfnod penodol ac os yw cynllun yn cyfarfod â meini prawf effeithlonrwydd ynni yna mae siawns dda o dderbyn grant - cynllun blaenoriaeth uchel arall yw adnewyddu boeleri’r canolfannau hamdden. Dywedodd y Swyddog y bydd y rhaglen arbed ynni yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn y dyfodol agos.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) y bydd y Grŵp Tir ac Asedau Corfforaethol yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun effeithlonrwydd ynni.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Effeithiolrwydd Ynni am y cyfnod 2017 i 2022 fel y’i chyflwynwyd.

Dogfennau ategol: