Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar fore 13 Mawrth, 2017, ac ar bryCyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar fore 13 Mawrth, 2017,Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Plant yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yma ar y Cynllun Gwella ar gyfer y Gwasanaethau Plant mewn ymateb i ganfyddiadau AGGCC yn dilyn arolygiad o’r Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod adroddiad y Swyddog yn cynnwys gwybodaeth y mae cyfyngiad arni yn Atodiad 2 ac o’r herwydd cynigiodd, yn unol â darpariaethau Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid cau'r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod am y drafodaeth ar yr eitem hon gan ei fod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A i'r Ddeddf honno. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â'r cynnig gan y Cadeirydd a phenderfynwyd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar y mater hwn.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Strategol (Plant) ar y camau gweithredu a nodir yn adran 4 yr adroddiad a chadarnhaodd bod y Cynllun Gwella Gwasanaeth yn mynd rhagddo'n dda gyda'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu a restrir naill ai wedi'u cwblhau neu ar darged i gael eu cwblhau erbyn y dyddiad a ddangosir. Fodd bynnag, mae llawer o feysydd y bydd angen gwreiddio gwelliannau ynddynt dros amser; mae gwaith eisoes wedi dechrau ar nifer o’r meysydd allweddol hyn. Dywedodd y Swyddog bod sylw arbennig yn cael ei roi i'r canlynol fel meysydd blaenoriaeth brys –

 

           Datblygu fframwaith ar gyfer darparu gwaith ataliol gyda phlant a theuluoedd. Mae hon yn dasg sylweddol sy'n cynnwys amrywiaeth o wasanaethau ac mae'n cael ei harwain gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Sefydlu systemau sicrwydd ansawdd a threfniadau hyfforddiant amlasiantaethol effeithiol i sicrhau bod gan staff a phartneriaid ddealltwriaeth o’r trothwyon asesu ar gyfer gwasanaethau plant statudol a’u bod yn cael eu gweithredu’n gyson.

           Datblygu strategaeth gweithlu i gynnwys amcanion tymor byr, canolig a hir ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant.

           Adolygu'r trefniadau ar gyfer rheolwyr tîm ac uwch ymarferwyr i sicrhau bod capasiti i sicrhau bod rheolwyr yn medru goruchwylio a chadw trosolwg effeithiol a chyson o benderfyniadau a wneir a darparu her a rhoi cyfeiriad i staff ar draws y gwasanaeth.

 

Dywedodd y Swyddog, heblaw am y camau blaenoriaeth uchod, fod yna ail gyfres o faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw yn ystod y deuddeng mis nesaf ac mae'r rhain wedi'u nodi ym mharagraffau 8 i 14 o'r adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol -

           Nododd y Pwyllgor, er ei fod yn derbyn bod gan yr Awdurdod bolisïau a gweithdrefnau a’i fod yn datblygu rhai eraill yn ôl y gofyn, nid oedd yn gallu cael sicrwydd bod yr aelodau perthnasol o'r staff yn deall y polisïau allweddol. Nododd y Pwyllgor hefyd fod angen system i ddangos bod y staff iawn wedi cael eu targedu, eu bod yn deall yr hyn y mae'r polisïau yn ei olygu a bod y polisïau hynny’n cael eu gweithredu ac yn gweithio.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd gwerthuso llwyddiant neu fethiant y polisïau y mae'r Awdurdod wedi eu sefydlu a’u datblygu yn dasg y gellir ei chyflawni mewn cyfnod byr o amser. Bydd rhai agweddau y bydd yr Awdurdod ei hun yn gallu eu gwerthuso tra bydd angen i rai  agweddau eraill gael eu dilysu’n allanol er mwyn darparu'r sicrwydd eu bod yn cael yr effaith a fwriadwyd ar y gwasanaethau i blant a'r canlyniadau a ddeisyfir. Dim ond trwy ofyn cwestiynau treiddgar y gall yr Awdurdod fod yn sicr ei fod yn cymryd y camau angenrheidiol i gwrdd â’r  gofynion a osodwyd gan AGGCC.

 

           Nododd y Pwyllgor y bydd na ellir ond sicrhau’r canlyniadau a ddeisyfir trwy sicrhau bod gan yr Awdurdod y staff iawn o ran y cymysgedd o sgiliau, cymwyseddau a phrofiad a bod hynny’n her mewn cyd-destun o adnoddau cyfyngedig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr efallai y bydd raid i’r Awdurdod, yn y tymor byr, recriwtio unigolion llai profiadol gyda golwg ar eu datblygu i gymryd drosodd gan staff asiantaeth dros gyfnod o amser. Er y bydd hyn yn cymryd amser mae'r Awdurdod yn cydnabod bod angen dull gweithredu tymor hir i ddatblygu gweithlu cadarn a medrus a fydd yn dymuno aros gyda'r Gwasanaethau Plant yn y Cyngor. Bydd angen mwy o gymorth ar staff llai profiadol ac efallai y bydd angen buddsoddiad yn y tymor byr. Bydd yr Awdurdod hefyd yn edrych ar gryfhau ei strategaeth recriwtio i ddenu mwy o weithwyr  Gofal Cymdeithasol Plant proffesiynol i’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn.

 

           Nododd y Pwyllgor fod recriwtio yn un agwedd ar y Strategaeth Gweithlu a bod rhaid i’r Awdurdod, ar ôl recriwtio yn llwyddiannus, sicrhau y bydd yr unigolion hynny yn dymuno aros o fewn y gwasanaeth i helpu i ddatblygu a chreu gweithlu sefydlog a gwydn yn y dyfodol. Nododd y Pwyllgor hefyd fod cadw staff wedi bod yn her ar adegau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai un elfen bwysig o ran cadw staff yw ansawdd y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth a ddarperir ar eu cyfer, yn enwedig felly yn y Gwasanaethau Plant lle gall y pwysau ar staff fod yn sylweddol. Bydd hyn yn cael sylw trwy’r Cynllun Gwella.

 

           Nododd y Pwyllgor y disgwyliadau ar aelodau mewn perthynas â herio perfformiad a gofynnodd am eglurhad ar y math o hyfforddiant a gwybodaeth yr oeddent eu hangen er mwyn ymgymryd â'r swyddogaeth hon yn effeithiol mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y gall Aelodau ddatblygu arbenigedd a hyder drwy ofyn cwestiynau treiddgar yn barhaus a thrwy ddysgu o’r broses honno.

 

           Mewn cyd-destun lle mae nifer y plant sy'n dod i mewn i'r system ofal yn cynyddu, nododd y Pwyllgor fod raid i’r Awdurdod geisio newid y diwylliant cyffredinol er mwyn lleihau nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal. I fedru cyflawni’r amcan hwn nododd y Pwyllgor fod angen iddo sicrhau bod pecyn cymorth cynhwysfawr wedi ei sefydlu sy’n cynnwys nid yn unig y gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant ond meysydd ehangach sy'n cael effaith ar fywydau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys addysg, iechyd, darpariaeth tai, cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi. Nododd y Pwyllgor fod Sgriwtini angen sicrwydd bod yr Awdurdod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r boblogaeth sy'n derbyn gofal a'i fod yn gallu dangos tystiolaeth o sut mae hynny’n digwydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Strategol (Plant) bod rhaid i’r Awdurdod fod yn glir bod y gweithgaredd atal a roddir ar waith ganddo’n cyrraedd yr unigolion hynny sydd fwyaf ei angen a’i fod yn monitro’r gweithgaredd hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cael yr effaith a ddymunir. Mae'r Awdurdod yn gwybod bod llawer o'r plant sy'n debygol o fynd drwy'r system gofal yn y genhedlaeth hon yn dod o amgylchiadau difreintiedig eu hunain a etifeddwyd gan eu rhieni. Yn aml mae’r  Awdurdod yn ymwybodol yn gynnar yn y broses pwy sydd fwyaf tebygol o ddod i mewn i’r system ofal. Fodd bynnag, mae’n her gwasanaeth cyfan ac mae’n  ymwneud ag ymateb yn briodol i'r teuluoedd sydd yn debygol o wneud y daith hon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhan 4.4 y Cynllun Gweithredu yn nodi datblygu Strategaeth Atal Gorfforaethol fel maes allweddol a bod yn rhaid i'r Awdurdod ddarparu ystod a lefel o wasanaethau ataliol ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Er na fydd hyn yn cael ei gyflawni dros nos, mae'r Awdurdod wedi gwneud ymrwymiad i hyn ddigwydd.

 

           Nododd y Pwyllgor y byddai’n gwerthfawrogi cael gwybodaeth fanylach yn y dyfodol i ddangos y gwelliannau sy'n cael eu gwneud.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Panel Plant yn sefydlu methodoleg ar gyfer gwerthuso gwelliant a chynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu ac ar gyfer adrodd yn ôl ar hynny.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon bod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn yn rhoi sicrwydd lefel uchel i'r Pwyllgor Gwaith fod taith wella’r Gwasanaethau Plant yn cadw at yr amserlen a osodwyd hyd yma a bod cynnydd yn cael ei wneud fel y cynlluniwyd.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH.

 

Dychwelodd y Pwyllgor i sesiwn agored ar y pwynt hwn.

Dogfennau ategol: