Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016/17

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2016/17.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016/17. Mae'r adroddiad yn darparu adolygiad o ba mor dda y darparwyd gwasanaethau cymdeithasol ar Ynys Môn yn 2016/17 gan gynnwys llwyddiannau allweddol yn y Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn ogystal â'r heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw yn y flwyddyn i ddod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod 2016/17 wedi bod yn flwyddyn heriol o ran y cyd-destun y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu y tu mewn iddo. Cafodd y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu ei drawsnewid i gwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (SSWB). Yn ogystal, mae’r cyni ariannol a’r pwysau parhaol ar gyllidebau, ynghyd ag ymwybyddiaeth o’r tueddiadau a’r gofynion tebygol yn y dyfodol yn golygu bod angen ailfeddwl yn radical am y modd y darperir gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant, dywedodd y Swyddog fod llawer o'r gwaith yn cael ei yrru gan yr argymhellion a wnaed yn adroddiad AGGCC yn dilyn ei harolygiad o’r Gwasanaethau Plant. Mae'r argymhellion hyn yn cael eu gweithredu drwy Gynllun Gwella'r Gwasanaethau Plant a bydd yn cael ei fonitro gan y Panel Plant a fydd yn adrodd yn ôl ar gynnydd i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Yn dilyn adroddiad AGGCC, bu’r ffocws ar ddatblygu strategaeth gweithlu sy'n canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff; gwella goruchwyliaeth i weithwyr cymdeithasol; gwella ansawdd ymarfer mewn perthynas ag amddiffyn plant; cryfhau partneriaethau a chydweithio o fewn y Cyngor ac yn allanol gydag asiantaethau partner; cynnal adolygiad o leoliadau preswyl a cheisio lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

 

Mae’r Gwasanaethau Oedolion wedi gweld cyfnod o sefydlogrwydd sydd wedi galluogi'r gwasanaeth i ganolbwyntio ar y dyfodol ac i atgyfnerthu cynnydd mewn perthynas â datblygu ac adeiladu Hafan Cefni; ehangu’r capasiti i ofalu am bobl sydd â dementia ar yr Ynys; ail-dendro’r contract ar gyfer gofal cartref; datblygu mentrau atal megis y Tîm Gofal Ychwanegol Môn a'r Gwasanaeth Tylluanod Nos; cynyddu’r niferoedd sy'n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol a chryfhau'r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad. Bydd blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cynnwys moderneiddio gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu a datblygu cyd-gynhyrchu gyda darparwyr ar yr Ynys.

 

O ran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu cyfanrwydd, bu pwyslais ar ddatblygu a hyfforddi’r gweithlu ac ar baratoi ar gyfer cyflwyno system TG genedlaethol (WCCIS) yn y Cyngor yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn galluogi'r gwasanaeth i weithio'n fwy effeithiol. Mae gwella ymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaeth yn enwedig o ran gwrando ar farn defnyddwyr drwy gael sgwrs Beth sy'n Bwysig ar adeg yr asesiad cychwynnol a chan ystyried hefyd eu profiadau wrth lunio gwasanaethau a darpariaeth yn parhau i fod yn faes allweddol. Mae angen parhaus ar draws y gwasanaethau cymdeithasol i ddatblygu'r agenda ataliol – bydd cymryd camau ataliol yn gwella bywydau a lles unigolion a bydd hefyd yn helpu'r Awdurdod i reoli'r cynnydd yn y galw ac i ddefnyddio ei adnoddau yn fwy effeithlon ac effeithiol. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth yr un modd ag adnewyddu’r ffocws ar ofalwyr a'u hanghenion.

 

Mae'r broses o baratoi adroddiad 2016/17 wedi bod yn wahanol iawn i un y blynyddoedd blaenorol ac mae wedi arwain at newid fformat ac arddull. Gwnaed hyn o ganlyniad i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sydd wedi cael eu defnyddio fel sail ar gyfer yr adroddiad Ynys Môn er mwyn amlinellu’r newidiadau a wnaed o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y cynnydd a wnaed yn ogystal â'r heriau sydd o'n blaenau a gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried a oedd y blaenoriaethau ar gyfer gwelliant a nodwyd yn yr adroddiad yn briodol i'r amgylchedd heriol y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu ynddo.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol a'r cyd-destun y cynhaliwyd yr hunanasesiad ynddo gan godi’r pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor y gwelliannau a gafodd eu cynllunio a'u gweithredu o ganlyniad i arolygiad AGGCC o Wasanaethau Plant ac fel y’u nodir yn yr Adroddiad Blynyddol. Nododd y Pwyllgor y byddai AGGCC yn ailymweld â'r Awdurdod i adolygu cynnydd yn erbyn yr argymhellion a wnaed a gofynnodd am sicrwydd bod gan yr Awdurdod ddigon o amser i weithredu’r rhaglen o welliannau cyn iddi gael ei hailasesu gan AGGCC. Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod AGGCC yn bwriadu cynnal arolygiad dilyn i fyny o fewn 12 i 18 mis yn amodol ar ofynion y rhaglen reoleiddio yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, yr adnoddau sydd ar gael ac yn amodol hefyd ar i’r rheoleiddiwr gael ei fodloni gyda lefel y cynnydd ar Ynys Môn. Er bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio tuag at ail ymweliad ym mis Mawrth, 2018 yr ystyriaeth allweddol drwy gydol y rhaglen o welliannau yw sicrhau bod y gwelliannau a wneir yn gynaliadwy yn y tymor hir yn enwedig wrth i gyllidebau barhau i ostwng.

           Mewn cyd-destun o adnoddau cyfyngedig, nododd y Pwyllgor y bydd partneriaeth a chydweithio yn cymryd arnynt fwy o arwyddocâd. Felly, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sgôp ar gyfer rhannu gwasanaethau ymhellach. Dywedodd Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol nifer o dimau ar draws gwasanaethau Oedolion a gwasanaethau Plant  sy'n gweithio ar y cyd; tra bo’r rhain gyda BIPBC gan fwyaf mae yna enghreifftiau o weithio ar y cyd gyda  Chyngor Gwynedd (y tîm Gwasanaeth Cefnogi Teulu Integredig) a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn sydd hefyd yn cynnwys sefydliadau partner eraill. Mae’r Tîm Dyletswydd Allan o Oriau ar gyfer Gwasanaethau Plant hefyd yn wasanaeth ar y cyd. Mae trefniadau cydweithio’r Awdurdod hefyd yn ymestyn y tu draw i'w gymdogion agosaf yn enwedig mewn perthynas â datblygu prosesau a pholisïau sydd, yn aml, yn rhai rhanbarthol. Wrth ymrwymo i drefniadau ar y cyd, rhaid i’r Awdurdod fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau statudol a bydd yn cadw ei gyfrifoldeb unigol am elfennau sylweddol yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Plant. Fodd bynnag, mae lle i ragor o gydweithio effeithiol e.e. o safbwynt maethu lle gall recriwtio gofalwyr maeth fod yn her.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor wedi ei fodloni mewn perthynas â'r canlynol -

 

           Bod yr Adroddiad Blynyddol wedi amlinellu sefyllfa bresennol y Cyngor o ran cyflawni ei Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Bod yr Adroddiad Blynyddol yn adlewyrchu'n gywir y blaenoriaethau gwella ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant am y flwyddyn i ddod.

           Bod yr Adroddiad Blynyddol yn adlewyrchu atebolrwydd a chyfrifoldeb y Cyngor o ran ei Wasanaethau Cymdeithasol

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: