Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 - Chwarter 4

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r canlyniadau dros dro ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2016/17 yw tanwariant o £633k; mae hyn yn well na’r gorwariant a ragwelwyd ac yr adroddwyd arno yn Chwarter 3. Mae’r esboniadau am yr amrywiadau sylweddol yn y cyllidebau a reolir gan wasanaethau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae nifer o eitemau’n cael eu heithrio o gyllidebau’r gwasanaeth am fod gwariant yn erbyn y penawdau hyn y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth. Ar ôl cymryd yr eitemau hyn i ystyriaeth, mae’r tanwariant cyffredinol i’r Cyngor yn gostwng i £311k a hwn yw’r swm sydd i’w drosglwyddo i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

 

Amlygodd yr Aelod Portffolio Cyllid y canlynol fel pwyntiau i’w nodi -

 

  Ymrwymiad posibl oddeutu £2.8m i setlo hawliadau tâl cyfartal sy’n parhaufod angen sylw, sy’n golygu y bydd lefel yr arian wrth gefn heb ei ymrwymo yn gostwng o £7.886m i £5.086m. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru a fyddai’n caniatáu i’r Cyngor drin y gwariant fel gwariant cyfalaf a fyddai’n trosglwyddo’r gost i’r gyllideb refeniw dros nifer o flynyddoedd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, yna bydd y swm o £2.8m yn arian nad yw wedi ei ymrwymo ac yn cael ei roi’n ôl yn y gronfa wrth gefn gyffredinol sydd ar gael i’r Cyngor.

  Roedd gorwariant o £861k yn y gwasanaeth ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y sefyllfa hon yn waeth na’r un a adroddwyd arni yn chwarter 3, sef £775k. Mae’r cynnydd yn nifer y lleoliadau allsirol arbenigol ers cychwyn y flwyddyn academaidd newydd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ar y Gwasanaeth ac mae’r gorwariant am y flwyddyn ariannol ar y cyllidebau hyn yn £396k. Cafwyd gorwariant o £331k ar gludiant ysgolion.

  Roedd gorwariant o £1,019k yn y Gwasanaethau Plant ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n sylweddol uwch na’r canlyniad a ragwelwyd yn Chwarter 3, a’r rheswm dros y gorwariant yw cost y ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, sy’n ddarpariaeth arbenigol fel arfer. Mae hon yn ddarpariaeth sy’n cael ei harwain gan y galw ac ychydig iawn o reolaeth sydd gan y gwasanaeth drosti. Fodd bynnag, mae mesurau lliniaru yn cael eu rhoi ar waith, yn bennaf drwy fabwysiadu ymagwedd ataliol, er mwyn sicrhau lles y boblogaeth sy’n derbyn gofal yn Ynys Môn fel y disgrifir ym mharagraff 3.3.2 yr adroddiad.

  Tanwariant o £1.541m yn y Cyllid Corfforaethol a briodolir yn bennaf i arian annisgwyl unwaith ac am byth. Bydd arbedion Cyllid Corfforaethol yn ariannu gorwariant ar wasanaethau.

 

Daeth yr Aelod Portffolio Cyllid i’r casgliad bod yr arbedion a gyflawnwyd yn 2016/17 wedi deillio’n rhannol oherwydd amgylchiadau rhagluniaethol a bod rhaid cwestiynu a fyddent yn parhau i fod ar gael yn 2017/18. Y neges i wasanaethau yw ei bod yn hanfodol eu bod yn cyrraedd eu targedau arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18.

 

Ategodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151 fod gwasanaethau, yn arbennig Addysg a Gwasanaethau Plant, o dan bwysau ariannol. Fodd bynnag, wrth i arbedion gael eu hychwanegu at y cyllidebau mae’n fwyfwy anodd i wasanaethau danwario; o dan yr amgylchiadau hynny mae’n rhaid rheoli cyllidebau’n fanwl ac yn ofalus.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa gyffredinol a chyfeiriwyd yn benodol at y gorwariant yn y Gyllideb Addysg Ganolog. Nododd y Pwyllgor Gwaith fod Cludiant Ysgol yn faes sy’n gorwario’n hanesyddol ac oherwydd hynny gofynnwyd a oedd y cyllidebau ar gyfer y ddarpariaeth hon, yn ogystal â’r cyllidebau ar gyfer lleoliadau tu allan i’r sir, yn realistig ac oni fyddai’n fwy buddiol defnyddio dull cyllidebu ar sail sero gyda chyllid yn cael ei ddyrannu ar sail angen? Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ei fod yn credu y gallai cludiant ysgol ganfod arbedion pellach drwy wneud trefniadau ystyriol a gofalus; daeth y gyllideb lleoliadau tu allan i’r sir o dan bwysau ym mis Medi ac nid oedd modd rhagweld hynny; mae’r gyllideb hon yn fwy agored i symudiad plant i mewn ac allan o’r system ofal.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod blwyddyn ariannol 2017/18 yn debygol o fod yn un heriol a bod angen ei monitro’n ofalus.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol 2016/17.

  Bod y canlyniad yr adroddir arno yn y ddogfen yn parhau i fod yn ganlyniad amodol hyd nes y cwblheir yr archwiliad statudol.

Dogfennau ategol: