Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  12C479B – Rose Hill, Biwmares

7.2  20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.3  45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1   12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd yn hen safle’r farchnad arddio ar dir tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 9 Mehefin, 2017.

 

Dywedodd Mr. Berwyn Owen (a oedd yn cefnogi’r cais) ei fod o’r farn bod adroddiad y Swyddog i’r Pwyllgor yn anghywir, roedd am i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol yr ymgynghorwyd â Swyddog Cadwraeth y Cyngor yn helaeth mewn perthynas â’r cais hwn. Nododd fod Adroddiad Asesiad Effaith ar Dreftadaeth wedi’i lunio a’i fod wedi’i asesu gan y Swyddog Cadwraeth. Mae’r Swyddog Cadwraeth wedi mynegi ei gefnogaeth i’r cais. Dywedodd Mr Owen hefyd y byddai’r annedd arfaethedig yn gartref i bobl ifanc a bod y cais yn haeddu cefnogaeth.   

 

Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio bod 5 llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn mewn perthynas â’r cais hwn a bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r cais o ganlyniad i faterion parcio ac y byddai’r datblygiad yn arwain at ymwthiad anghydnaws yn yr ardal leol. Mae 2 lythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn sy’n nodi y byddai datblygiad o’r fath yn gwella’r safle a’r ardal gyfagos. Nododd bod y Swyddog Cadwraeth yn cefnogi’r cais a bod Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi mynegi y dylid rhoi amod archeolegol ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i’r cais. Fodd bynnag, nodwyd bod y Swyddog Cynllunio o’r farn nad yw’r datblygiad yn cydymffurfio â’r pellteroedd angenrheidiol oddi wrth eiddo cyfagos fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Agosrwydd Datblygiadau. Mae’r canllawiau’n nodi y dylai prif ffenestri’r llawr gwaelod fod wedi’u lleoli o leiaf 10.5 metr o’r terfyn.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.2   20C310B/EIA/RE – Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Bu’r Cynghorydd Richard O. Jones ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais hwn ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais o ganlyniad.

 

Yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. O ganlyniad, cynhaliwyd ymweliad safle ar 17 Awst, 2016. Cafwyd penderfyniad pellach yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017 i ymweld â’r safle a cynhaliwyd yr ymweliad safle hwnnw ar 15 Mawrth, 2016. Yn ychwanegol ar hynny, er budd yr aelodau etholedig newydd, ymwelwyd â’r safle eto ar 9 Mehefin, 2017.   

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod cais wedi’i dderbyn gan 2 siaradwr cyhoeddus, sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y cyfarfod. Nododd fod y protocol yn y Cyfansoddiad yn rhoi’r disgresiwn i’r Cadeirydd ganiatáu i fwy nag un siaradwr annerch y cyfarfod os ystyrir hynny’n briodol lle mae cais sylweddol yn cael ei ystyried. Nodwyd, o ganlyniad i natur a maint y datblygiad fferm solar fod y Cadeirydd wedi cytuno i’r cais. Fodd bynnag, mae un o’r siaradwyr cyhoeddus wedi mynegi nad ydyw wedi cael digon o amser i baratoi ei anerchiad i’r Pwyllgor. Ystyriwyd felly y byddai’n briodol gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid gohirio’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.3   45C480 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais cyn Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhellion y Swyddog gan ei fod yn ystyried bod modd cyfiawnhau’r cais o dan Bolisi 49 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP3 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a’i fod yn gais mewnlenwi derbyniol.  

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod yr annedd arfaethedig wedi’i lleoli o fewn ffin setliad Niwbwrch, mae’r fynedfa i’r safle wedi’i lleoli y tu allan i’r ffin datblygu. Bydd yr annedd arfaethedig a’i chwrtil yn gorwedd yn union gyfagos i erddi cefn yr eiddo sydd gerllaw. Bydd cefn yr eiddo arfaethedig wedi’i leoli ond 2 fetr i ffwrdd o ffin y plot.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, bod yr ymgeisydd yn dymuno byw ger ei theulu wedi iddi golli ei gŵr. Nododd nad yw’r eiddo cyfagos yn gwrthwynebu’r cais. Arferai’r safle fod â 5 bwthyn arno a oedd yn lletya gweithwyr cynllun Traphont Malltraeth ac yn ei farn ef, nid oedd hwn yn safle tir glas. 

 

Roedd y Cynghorydd K.P. Hughes yn ystyried bod y cais yn cydymffurfio â Pholisi 49 o Gynllun Datblygu Lleol Ynys Môn a Pholisi HP3 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd ac nad oedd yn safle mewnlenwi ansensitif ym mhentref Niwbwrch. Cynigiodd y dylid cadarnhau penderfyniad y cyfarfod blaenorol i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais oherwydd ei agosrwydd at yr anheddau cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd T.Ll Hughes MBE. 

 

Yn y bleidlais i ddilyn:-

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Dogfennau ategol: