Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  19LPA1025E/CC/VAR – Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi

12.2  31C79H – 3 Mulcair House, Llanfairpwll

12.3  37C197B – Cyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn

12.4  37C198 – Fodol, Llanedwen

12.5  39LPA1036/CC – Cronfa Ddŵr Porthaethwy, Porthaethwy

12.6  44C340 – Plas Main, Rhosybol

 

Cofnodion:

12.1      19LPA1025E/CC/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amodau (02) (rhestr waith) a (04) (cynllun rheoli traffig) o ganiatâd cynllunio rhif 19LPA1025/CC (newid defnydd cyn neuadd y farchnad yn llyfrgell, swyddfa a siop goffi ategol) er mwyn gallu cyflwyno'r manylion yn raddol ar adegau y cytunwyd arnynt yn Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

12.2      31C79H – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) yn siop prydau poeth parod (dosbarth defnydd A3) yn 3 Mulcair House, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R.Meirion Jones yn gallu bod yn bresennol i annerch y Pwyllgor ond ei fod wedi gofyn i’w sylwadau ar y cais gael eu hystyried. Roedd y Cynghorydd Jones o’r farn y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd y siop trin gwallt bresennol i fod yn Siop Pitsa Tecawê a bod y siop drws nesaf i siop hwylus Spar. Nododd bod 15 llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn, ynghyd â deiseb yn cynnwys 30 o lofnodion yn erbyn y cais oherwydd rhesymau priffyrdd, aflonyddwch cyffredinol, bod nifer o gyfleusterau prydau parod eisoes yn bodoli yn yr ardal a bod angen system awyru ddigonol yn y cyfleuster. Mae oriau agor y siop wedi eu nodi fel 4.00pm – 11.00pm a gellid rhoi amod i’r perwyl hwn. Mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi argymell y dylid gwrthod y cais gan y byddai’n creu gweithgareddau llwytho ychwanegol a fyddai’n golygu fod cerbydau’n cael eu gorfodi i barcio ar y briffordd gan achosi problemau o ran diogelwch y briffordd a diogelwch cerddwyr.      

 

Dywedodd y Cynghorydd K.P Hughes fod ganddo ei amheuon am yr argymhelliad i wrthod y cais o ganlyniad i faterion parcio, nid oes cyfleusterau parcio addas ger nifer o gyfleusterau parcio eraill mewn ardaloedd fel Caergybi ac ardaloedd eraill ar yr Ynys.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Lleol, ei fod ef hefyd wedi galw’r cais i mewn i’w benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y pryderon lleol. Roedd yn cefnogi argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gwrthod y cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.3  37C197B – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y cyfleusterau cyhoeddus yn gaffi yng Nghyfleusterau Cyhoeddus, Brynsiencyn. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer trawsnewid yr hen gyfleusterau cyhoeddus i fod yn gaffi gydag estyniad bach i ochr y safle er mwyn gallu darparu toiled, ynghyd ag addasiadau i du allan a thu mewn yr adeilad. Nododd hefyd, os yw’r Pwyllgor yn caniatáu’r cais, bod angen gosod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod manylion y cyfleuster echdynnu arogleuon yn eu lle. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K.P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol ar y caniatâd sy’n nodi manylion y cyfleuster echdynnu bwyd y mae angen ei osod cyn i’r cyfleuster agor.  

 

12.4       37C198 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn Fodol, Llanedwen.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O. Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

12.5       39LPA1036/CC – Cais llawn i gael gwared ar y ffens bresennol, codi

    ffens newydd diogelwch 2.1m o uchder ynghyd â thorri a gwneud

    gwaith ar goed sydd wedi eu diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed yng

    Nghronfa Ddŵr Porthaethwy, Porthaethwy. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad yw’r ffens bresennol yn darparu rhwystr digonol er mwyn atal mynediad i’r gronfa ddŵr ac mae argymhelliad wedi’i wneud y dylid gosod ffens â strwythur fwy solet. Dywedodd fod llythyr o wrthwynebiad wedi’i dderbyn sy’n nodi fod y ffens bresennol yn ddigonol. Mae gohebiaeth bellach wedi’i derbyn sy’n nodi, petai’r cais yn cael ei ganiatáu, bod angen i’r ffens newydd fod yn un strwythur agored fel y gellir gweld yr olygfa o fywyd gwyllt a natur ar y safle. Mae’r Uwch Swyddog Tirlun a Choed wedi ystyried y cais yn llawn ac mae’n cytuno â’r angen i dorri coed a gwneud gwaith ar goed ar y safle. Yn ogystal, cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at wybodaeth a dderbyniwyd bod madfallod cribog yn bresennol ar y safle ac os bydd y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais y bydd angen amod pellach ynghlwm â’r cais er mwyn eu diogelu ar y safle.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amod ychwanegol er mwyn sicrhau mesurau osgoi rhesymol er mwyn gwarchod madfallod dŵr cribog ar y safle. 

 

12.6  44C340 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd ym Mhlas Main, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi’i dynnu’n ôl gan yr ymgeiswyr.

 

Nodi fod y cais wedi’i dynnu’n ôl gan yr ymgeiswyr.

 

Dogfennau ategol: