Eitem Rhaglen

Strategaeth Tai Gwag 2017 - 2022

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a sylwadau'r Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Tai Gwag ar gyfer 2017-2022. Mae'r Strategaeth yn nodi'r cyflawniadau hyd yma yn ogystal â’r modd y bydd yr adnoddau yn cael eu targedu yn y dyfodol.

 

Canmolodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y Strategaeth fel dogfen gadarnhaol a fyddai’n cynorthwyo'r Awdurdod i barhau gyda'r gwaith da a ddechreuwyd o ran dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a thrwy hynny helpu i fodloni'r angen am dai ar yr Ynys.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddogfen Strategaeth a gwnaed y pwyntiau canlynol –

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y sail ar gyfer cyfrifo bod 840 o gartrefi ar yr Ynys ar hyn o bryd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag bod yr adran Treth Gyngor yn cadw data ar berchnogion tai gwag a pherchnogion ail gartrefi ac yn cyflwyno’r wybodaeth hon yn flynyddol i'r Swyddog Tai Gwag; defnyddir y wybodaeth hon i ddiweddaru'r gronfa ddata tai gwag. Mae'r gronfa ddata’n cael ei diweddaru ymhellach bob tri mis fel y daw tai gwag yn ôl i ddefnydd ac eraill yn dod yn wag. Un o’r amcanion strategol yw cynnal a gwella cywirdeb y data tai gwag. Gall y rhesymau pam fod tai yn dod yn wag amrywio o eiddo i eiddo.

           Nododd y Pwyllgor fod dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn ymdrech gydunol ac mae'n golygu cydweithio rhwng nifer o wasanaethau ar draws y Cyngor, gan gynnwys y gwasanaeth gorfodi. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd bod gan y Tîm Gorfodi gapasiti digonol i allu ymdopi â’r pwysau cynyddol ac amrywiol. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag mae ei chyfrifoldeb hi yw cydlynu ymagwedd y Cyngor tuag at orfodaeth yn y maes tai gwag ac mae hyn yn cynnwys gwneud gwaith paratoi ar ffurf casglu tystiolaeth, drafftio adroddiadau ac amlinellu'r camau y mae angen eu cymryd. Nid yw camau gorfodaeth fodd bynnag yn ateb cyflym ac mae’n rhywbeth a wneir pan fydd pob opsiwn arall wedi methu â chynhyrchu canlyniad boddhaol. Rhaid rhoi amser i berchenogion tai sydd wedi derbyn rhybuddion i ymateb ac i fynd i'r afael â'r mater.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y broses a ddilynir wrth geisio dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag y bydd Swyddogion bob amser yn ceisio gweithio gyda pherchnogion tai gwag yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyngor, cymorth ac opsiynau a ddyluniwyd i helpu perchnogion tai gwag fel yr amlinellir yn y pecyn cymorth a ddisgrifir yn adran 6 yr adroddiad. Lle mae trafodaethau wedi methu, a pherchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn gwrthod neu'n methu â dychwelyd eu heiddo yn ôl i ddefnydd, gellir cymryd mesurau cadarnach i fynd ar drywydd hyn. Pan fydd angen cymryd camau o’r fath, bydd y Cyngor yn glynu wrth ei egwyddorion gorfodi sy’n golygu gorfodaeth deg a chyson.

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch effaith yr orsaf bŵer niwclear newydd arfaethedig ar anghenion tai; argaeledd tai ac ar y broblem tai gwag. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y mater yn cael ei ystyried ac mai un o'r materion niferus a’r manteision posibl sy'n cael sylw mewn trafodaethau parhaus gyda Horizon mewn perthynas â datblygiad Wylfa Newydd yw’r posibilrwydd o ddod â mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd.

           Holodd y Pwyllgor a fyddai'n bosib ymestyn y strategaeth i gynnwys capeli nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach oherwydd bod potensial i’w haddasu’n anheddau preswyl e.e. fflatiau. Dywedodd y Swyddog Tai Gwag bod nifer o’r capeli’n adeiladau rhestredig a’i bod ar ddeall y gall o bosib fod yn anos dan y CDLl ar y Cyd newydd i gael caniatâd ar gyfer addasu capeli rhestredig i ddibenion  preswyl.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor gefnogi'r Strategaeth Tai Gwag ar gyfer 2017-2022 ac argymell strategaeth i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ei mabwysiadu.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: