Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 34C556B – Gwernhefin, Glanhwfa Road, Llangefni

Cofnodion:

10.1 34C556B - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Gwernhefin, Ffordd Glanhwfa, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei ganiatáu er ei fod yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol Ynys Môn.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor ei bod wedi cael gwybod gan y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, ei fod yn gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle. Gwahoddodd y Cynghorydd Dylan Rees i roi ei resymau am ofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fod trigolion yn yr ardal gyfagos, er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i'r datblygiad ei hun, wedi cysylltu ag ef oherwydd pryderon am y fynedfa i safle’r datblygiad arfaethedig oddi ar Ffordd Glanhwfa. ‘Roedd dau gais blaenorol ar y safle hwn wedi cael eu gwrthod oherwydd materion diogelwch priffyrdd; felly ‘roedd yn ystyried ei fod yn bwysig bod Aelodau'r Pwyllgor yn gweld y fynedfa drostynt eu hunain i asesu a yw'r amodau a gynigir yn yr adroddiad yn ddigonol i fynd i'r afael â materion priffyrdd posib.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd hefyd yn siarad fel Aelod Lleol, ei bod o farn wahanol a’i bod yn ystyried bod yr amodau a amlinellir yn adroddiad y Swyddog yn ddigonol er mwyn sicrhau diogelwch y briffordd, gan olygu felly nad oedd angen ymweld â’r safle. Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei wasanaethu gan y fynedfa sydd yno ar hyn o bryd ac sydd eisoes yn cael ei defnyddio.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd bod y fynedfa yn fater o bryder oherwydd gwelededd is-safonol i'r Gogledd Ddwyrain.  Fodd bynnag, mae’r caniatâd a roddwyd ar gyfer safle cyfagos Parc Mount yn amodol ar sicrhau y cedwir y ffin ddim uwch nag 1m ac na chaiff dim o fewn 1m i'r ffin fod yn uwch nag 1m ar unrhyw adeg.  Mae hwn yn fater gorfodaeth a ddylai sicrhau llain welededd foddhaol i'r cyfeiriad hwnnw. Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd felly yn codi unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, er gwaethaf y ffaith fod caniatâd wedi ei roi, nad oes unrhyw sicrwydd y bydd y datblygiad yn Parc Mount yn mynd yn ei flaen nac y byddai’r gwelededd yn cael ei wella i gydymffurfio â gofynion y Gwasanaeth Priffyrdd o ganlyniad. Mae hon yn ystyriaeth y mae angen i'r Pwyllgor ei chadw mewn cof.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes, gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio, fod y Pwyllgor yn bwrw ymlaen i benderfynu ar y cais. Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd Dafydd Roberts yn eilio, y dylid ymweld â’r safle yn unol â’r cais a wnaed gan yr Aelod Lleol. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i benderfynu’r cais ei gario.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

Siaradodd Mrs Rhian Williams (o blaid y cynnig) ar ran ei mab, sef yr ymgeisydd a gafodd ei eni a'i fagu yn Llangefni ac a oedd yn rhedeg busnes bach sy'n cyflogi chwech o ddynion ifanc lleol. Cyflwynwyd y cais cyntaf yn 2006 ac yn dilyn hynny gosodwyd carafán sefydlog ar y safle i roi rhyw gymaint o annibyniaeth i’r ymgeisydd ac fel y gallai redeg ei fusnes gyda'i weithwyr. Nid yw’r trefniant hwn yn addas mwyach yn enwedig gan fod gan ei mab blentyn saith mlwydd oed sydd angen y sefydlogrwydd y byddai annedd barhaol a pharhad y busnes yn ei gynnig.   Gofynnodd i'r Pwyllgor edrych yn garedig ar y cais fel un a wnaed gan ddyn ifanc o'r ardal sydd wedi ymdrechu i gydymffurfio â'r holl newidiadau y gofynnwyd iddo eu gwneud er mwyn sicrhau bod y cais yn cydymffurfio â rheoliadau cynllunio.

 

Holodd y Pwyllgor Mrs Williams am y gweithgarwch busnes ar y safle ac a yw hynny’n debygol o ychwanegu at faterion diogelwch priffyrdd. Eglurodd Mrs Williams fod dwy fan wedi bod yn mynd a dod yn ôl ac ymlaen i'r safle ers blynyddoedd lawer. Dywedodd ei bod yn deall y byddai'n rhaid gwella’r gwelededd o'i heiddo yn Gwernhefin ac na fyddai'n broblem. Ni fyddai dim yn newid o ran traffig a byddai car ei mab, dwy fan a'r ddau eiddo uwchben Gwernhefin yn parhau i ddefnyddio'r fynedfa a rennir.

 

Er ei fod yn cydymdeimlo â chais Mrs Williams ac er nad yw'r cymdogion ‘chwaith yn anghytuno gyda'r cais, dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, un o’r Aelodau Lleol, fod pryderon y cymdogion yn parhau ynghylch y trefniadau mynediad. Mae’r ffordd fynediad a rennir yn drac sengl sy’n anaddas i gerbydau fynd a dod i ddibenion busnes – mae tudalen Facebook yn dangos bod cyfarpar sy'n gysylltiedig â’r busnes eisoes ar y safle, gan gynnwys faniau, sgip a chynhwysydd storio. Mae trigolion lleol yn poeni y bydd y gweithgarwch hwn yn cynyddu unwaith y bydd yr annedd wedi ei chodi ac maent yn gofyn am amod yn gwahardd rhedeg unrhyw fusnes o'r safle oherwydd y peryglon ychwanegol y byddai hynny’n ei achosi o ran diogelwch y briffordd.

 

Er bod safle'r cais y tu allan i ffin ddatblygu Llangefni yng Nghynllun Lleol Ynys Môn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y rhan fwyaf o'r safle o fewn y ffin yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd; mae'r cais felly yn dderbyniol o ran polisi. Mae'r cais wedi ei ddiwygio i ostwng uchder yr annedd arfaethedig er mwyn lleihau ei heffaith weledol yn y dirwedd a'r ardal o’i chwmpas. Mae Dŵr Cymru yn cynnig amodau safonol; mae'r Adain Ddraenio wedi gofyn am ragor o fanylion ac mae Cyngor Tref Llangefni wedi gwneud sylwadau y dylai'r fynedfa gwrdd â gofynion technegol. Cafwyd dau lythyr ychwanegol yn nodi pryder am ddiogelwch y briffordd.  Dywed adroddiad y Swyddog nad oes unrhyw dystiolaeth bod busnes yn cael ei redeg o'r safle - sut bynnag, mater gorfodaeth yw hynny yn hytrach nag un y gellir mynd i'r afael ag ef trwy amod cynllunio. Nid yw’r Gwasanaeth Priffyrdd yn codi dim gwrthwynebiad i'r cynnig ac felly argymhellir ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a oedd yn siarad fel un o’r Aelodau Lleol, ei bod yn cefnogi’r cais fel un sy’n cydymffurfio â'r polisi. Mae'r cynnig yn llawer mwy derbyniol yn weledol na'r garafán sefydlog sydd eisoes ar y safle; mae’r materion priffyrdd yn cael sylw ac ni fydd y traffig ddim mwy nag ydyw ar hyn o bryd. Mae’r Cynghorydd R G Parry, OBE, FRAgS, sef Aelod Lleol arall, hefyd yn gefnogol i'r cais. Cynigiodd y Cynghorydd Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo a chafodd ei heilio gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond fod y cwestiynau ynghylch natur y gweithgaredd busnes ar y safle yn parhau i fod heb eu hateb. Cwestiynodd y Cynghorydd Redmond hefyd y sail polisi ar gyfer penderfynu’r cais hwn a nifer o geisiadau eraill yn y cyfarfod heddiw gan fod mwy o bwys yn cael ei roi ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) nag ar y cynlluniau sydd mewn grym ar hyn o bryd er nad yw’r CDLl ar y Cyd wedi ei fabwysiadau hyd yma. Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond ei fod yn bwriadu ymatal rhag pleidleisio ar yr holl geisiadau lle’r oedd y CDLl ar y Cyd yn cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad polisi, a hynny gan nad oedd yn argyhoeddedig na fyddai penderfyniadau o'r fath yn agored i gael eu herio.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais am annedd yw hwn a bod y mater o ran rhedeg busnes ar y safle yn fater gorfodaeth ar wahân. O ran polisi, mae adroddiad ac argymhellion cyfrwymol yr Arolygydd mewn perthynas â'r CDLl ar y Cyd wedi eu derbyn ac felly gellir rhoi pwys sylweddol ar y Cynllun fel y polisi cyfredol diweddaraf un.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y gellir rhoi sylw i sicrhau’r gwelededd gofynnol dros dir trydydd parti trwy amod Grampian a fyddai'n atal y datblygiad rhag dechrau hyd nes y bydd y mater gwelededd wedi derbyn sylw, ac y gallai bod angen cytundeb Adran 106 hefyd. O ran polisi, mae'r CDLl ar y Cyd yn bendant yn ystyriaeth gynllunio berthnasol a gellir rhoi pwys sylweddol arno  wrth benderfynu ceisiadau o hyn ymlaen gan iddo fod yn destun archwiliad ac argymhellion yr Arolygydd sy’n golygu y gellir rhoi pwys ar bolisïau'r Cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod yn gefnogol i'r cais fel un sydd hefyd yn gyson â darpariaethau’r CDU a stopiwyd.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: