Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 31C10K – Tyn Lon Garage, Llanfairpwll

11.2 36C228A – Shop Sharpe, Llangristiolus

Cofnodion:

11.1 31C10K - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn Garej Tyn Lôn, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran dyluniad, maint, effeithiau a’r deunyddiau.

 

Cynigodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2 36C338C - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir y tu cefn i Siop Sharpe, Llangristiolus.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i "swyddog perthnasol" fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad. Yn ogystal, galwyd y cais i mewn gan un o'r Aelodau Lleol ar y pryd.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Siaradodd Mr P. Antrobus (yn erbyn y cynnig) am bryderon ynghylch gorddatblygu, maint ac effeithiau. Byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol annerbyniol ar yr eiddo cyfagos a’r ardal o gwmpas oherwydd edrych drosodd, colli preifatrwydd a thrwy fod yn weledol ormesol. Mae allan o gymeriad ac yn fwy nag eiddo eraill yn y cyffiniau. Soniodd Mr Antrobus am faterion dŵr wyneb a draenio yn ogystal â materion sy’n ymwneud â'r fynedfa i gerbydau, gan nodi bod damweiniau bron wedi digwydd  sawl gwaith wrth y plot gyferbyn ag Ysgol Henblas.

 

Dywedodd Mr Owain Evans (o blaid y cynnig) yr argymhellir gwrthod y cais ond nid ar sail lleoliad, golwg nac edrych drosodd, ond ar sail y CDLl ar y Cyd newydd sydd, o ran ei amseriad, yn anlwcus i'r ymgeisydd a dyna’r unig reswm pam mae’r Swyddog yn gwrthwynebu'r cynnig.  Dywedodd Mr Evans fod y swyddog wedi argymell cymeradwyo cais ar gyfer annedd drws nesaf yn ôl ym mis Ionawr, 2017 oherwydd ystyriwyd ei fod yn dderbyniol o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn fel datblygiad mewnlenwi.  Rhoddwyd mwy o bwys ar y Cynllun Lleol bryd hynny er bod y cynnig y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref o dan y CDU a stopiwyd. Mae'r cynnig dan sylw yn ddatblygiad mewnlenwi hefyd. Er y gellir rhoi pwys sylweddol ar y CDLl ar y Cyd, nid yw’n glir faint o bwysau y gellir rhoi arno o gymharu â’r cynlluniau eraill, a hynny oherwydd nad yw wedi ei fabwysiad eto. Yng nghanol mis Mehefin, ‘roedd yr Arolygydd yn dal i gymeradwyo apeliadau ac yn dweud nad oedd modd rhoi pwys ar y ddogfen bolisi newydd. Sut gellir rhoi mwy o bwys ar y polisi hwn yn awr felly? Am y rheswm hwnnw, ‘roedd yn gofyn i'r Pwyllgor ailystyried argymhelliad y Swyddog.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod 4 llythyr o gefnogaeth ac 1 llythyr o wrthwynebiad wedi dod i law yn ychwanegol at y rheini yn y dogfennau sylwadau. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau i’w faint, ac er ei fod o’r un uchder, mae ei ôl troed yn llai. Mae Llangristiolus yn anheddiad Rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn sy'n caniatáu ar gyfer ceisiadau am anheddau unigol ar safleoedd mewnlenwi neu safleoedd yr ystyrir eu bod yn estyniad addas i'r anheddiad, ond yn amodol ar gwrdd â’r meini prawf manwl a restrir o fewn y polisi. Mae'r cynnig yn bodloni'r meini prawf hynny. Fodd bynnag, mae safle'r cais y tu allan i'r ffin datblygu yn y CDU a stopiwyd ac mae hefyd y tu allan ond yn union wrth ymyl y ffin ddatblygu ar gyfer Llangristiolus yn y CDLl ar y Cyd. Cadarnhaodd y Swyddog fod apeliadau yn cael eu derbyn o dan y CDLl ar y Cyd, ond gyda'r amod "hyd nes y bydd adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd wedi ei dderbyn”. Mae hynny wedi digwydd erbyn hyn. Mae adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd yn golygu y gellir roi pwys mawr ar bolisïau'r CDLl ar y Cyd. Mae safle'r cais y tu allan i ffin datblygu'r pentref ac felly’n groes i ddarpariaethau'r CDLl ar y Cyd. Gwneir yr argymhelliad i wrthod y cais am resymau polisi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, gyda’r Cynghorydd Robin Williams yn eilio, fod y cais yn cael ei wrthod.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: