Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 17C518 - Penterfyn, 24 Frondeg, Llandegfan

12.2 19C1204 – 3 Ffordd Jasper, Holyhead

12.3 24C345 – Tregarth, Llaneilian

12.4 28C541/ENF – Glyn Garth, 10 Ffordd y Traeth, Rhosneigr

12.5 33C315 – Tros y Marian, Lôn Groes, Gaerwen

12.6 46C52D – Tir Nant, Lôn St Ffraid, Trearddur

12.7 46C254C – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

12.8 46C578 – The Pavilion, Lôn Isallt, Trearddur

Cofnodion:

12.1 17C518 - Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau sy’n cynnwys balconi yn Penterfyn, 24 Fron Deg, Llandegfan

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan ddau Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Siaradodd Mrs E A Morris (yn erbyn y cynnig) yn benodol yn erbyn y rhan o'r cais a fyddai'n cynnwys drysau dwbl yn agor allan o'r ystafell wely arfaethedig uwchben y garej i falconi. Byddai'r balconi yn edrych yn syth i lawr dros ei heiddo a ffenestr ei hystafell wely a byddai’n amharu ar ei phreifatrwydd yn llwyr. Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai'n gosod cynsail peryglus iawn i eraill ei ddilyn. O ran yr eiddo o’r enw Penmaen sydd â balconi ar hyn o bryd, nid yw’r eiddo hwn yn cael ei gyfrif fel un sydd o fewn stad Fron Deg. Nid oedd y cais dan sylw yn gydnaws ag unrhyw un o'r eiddo ar stad Fron Deg o fyngalos. Dywedodd Mrs Morris bod ffenestr yn y groglofft eisoes yn amharu ar ei phreifatrwydd a phe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo byddai lefel a graddfa’r fath amhariad ar ei phreifatrwydd a’r edrych drosodd yn dyblu.

 

Holodd y Pwyllgor Mrs Morris am yr edrych dros ei heiddo o eiddo cyfagos a chanddo falconi sydd yn sylweddol fwy na'r un a gynigir gan y cais hwn yn ôl adroddiad y swyddog.  Dywedodd Mrs Morris bod yr eiddo hwnnw o’r enw Penmaen yn annibynnol sydd y tu allan i stad Fron Deg; mae gan yr eiddo falconi erioed ac nid yw'n amharu ar ei phreifatrwydd. Eglurodd ei bod wedi tyfu a chynnal ei gwrych ar lefel benodol ac felly nid yw’r balconi yn broblem. Ni allai weld y balconi o'i heiddo ei hun er y gallai trigolion Penmaen yn ôl pob tebyg weld to ei heiddo hi yn 26 Fron Deg o'u balconi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau o'r Aelodau Lleol wedi galw’r cais i mewn  oherwydd materion preifatrwydd ac oherwydd eu bod yn ystyried y byddai'r bwriad yn amharu ar gymeriad yr ardal. Nid yw'r Swyddog o'r farn y bydd y balconi yn cael effaith annerbyniol ar yr eiddo yn 26 Fron Deg  oherwydd bod digon o bellter rhwng y ddau eiddo yn ogystal â ffordd y stad. Cynigir amod sgrinio i leddfu effaith unrhyw edrych drosodd a allai ddigwydd ar eiddo cyfagos. Nid yw'r Swyddog yn ystyried y byddai'r estyniadau a’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos nac ar unrhyw un o'r eiddo cyffiniol i'r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 19C1204 - Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn 3 Ffordd Jasper, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o'r safle yn ymestyn i dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Cynllunio o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o ran maint, cymeriad a dyluniad ac nid ystyrir y byddai'n cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos i’r fath raddau y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd Vaughan Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddfa a chyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 24C345- Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda’r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir ger Tregarth, Llaneilian, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Siaradodd Mrs B. Jolleys (o blaid y cynnig) am yr angen am yr annedd arfaethedig oherwydd ei lleoliad. Eglurodd ei bod hi a'i gŵr yn ofalwyr peripatetig cofrestredig sy'n golygu eu bod yn gallu rhoi cymorth i blant yn eu cartref eu hunain. Maent wedi rhoi cymorth i’w chwaer sydd wedi mabwysiadu tri o blant ag anableddau difrifol. Mae bod dim ond 3 milltir neu lai o'u cartref yn bwysig o ran y daith i'r ysgol, ymweliadau ag ysbytai ac argyfyngau.  Mae'r ardal o dir hefyd ar ffordd dawel a byddai'r tŷ y bwriedir ei godi wedi ei osod gryn dipyn yn ôl o'r ffordd gan ei wneud yn ddiogel ar gyfer y ddau fachgen sydd ag awtistiaeth ddifrifol ac y mae hi a'i gwr yn ofalwyr ysbaid iddynt. Nid oes ond dau eiddo cyfagos. Mae preswylwyr yr eiddo agosaf yn gwybod am ymrwymiadau maethu’r teulu ac yn hapus iddynt barhau â nhw. Cartref gwyliau yw’r llall. Pe bai unrhyw fater yn codi gyda thrigolion y cartref gwyliau, gellid darparu’r gofal ysbaid pan fo’r eiddo’n wag. Y plant a’u teuluoedd sy’n dibynnu ar eu cefnogaeth sydd angen y plot o dir ac nid y teulu.  Weithiau rhoddir ystyriaeth arbennig i ffermwyr a gweithwyr coedwigaeth ar sail eu galwedigaeth. Mae ei gallu hi a’i gŵr i barhau i fod yn ofalwyr peripatetig ac ysbaid yn dibynnu'n fawr ar sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y cynnig.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y safle o fewn Ardal Tirwedd Arbennig yn y CDLl ar y Cyd ac yn gyfagos i'r AHNE. Barn y Swyddog oedd y byddai'r cynnig yn arwain at ddatblygiad rhubanaidd ac y byddai’n nodwedd ymwthiol ac anghydnaws er niwed sylweddol i gymeriad a mwynderau'r ardal. Ystyrir felly y byddai'r datblygiad yn groes i ddarpariaethau Polisi 50 y Cynllun Lleol a Pholisi HP5 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Yn ogystal, oherwydd y pwys sylweddol y gellir ei roi ar y CDLl ar y Cyd, dylid ystyried y ffaith bod safle'r cais yn y cefn gwlad agored lle mae’n rhaid i ddatblygiadau gwrdd â’r polisïau cynllunio cenedlaethol ac NCT 6 sy’n rhoi cyfiawnhad ar gyfer anheddau ar eu pennau eu hunain yn y cefn gwlad pan fo angen y llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu lle gwaith neu’n agos iddo. Er bod yr ymgeiswyr wedi cyflwyno achos am ystyriaeth arbennig ar sail eu galwedigaeth fel gofalwyr, dywedodd y Swyddog nad yw’r cais yn bodloni gofynion NCT 6. Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei wrthod. Ar ben hynny, ni chafwyd digon o fanylion yn ymwneud â materion priffyrdd, draenio ac ecoleg i fedru cynnig argymhelliad mewn perthynas â'r materion hyn.

 

‘Roedd rhai aelodau o'r Pwyllgor yn ystyried bod y cais yn haeddu cefnogaeth oherwydd y gwasanaeth gwerthfawr a roddir gan yr ymgeiswyr ac am eu bod yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP5 y CDU a stopiwyd. ‘Roedd Aelodau eraill yn cytuno â’r Swyddog bod y cynnig yn y cefn gwlad agored ac y byddai'n cael effaith andwyol ar Ardal Tirwedd Arbennig ac y byddai’n niweidiol oherwydd ei agosrwydd at yr AHNE a’i fod felly’n tynnu’n groes i'r polisïau uchod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones, gyda’r Cynghorydd Kenneth Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith, gyda’r  Cynghorydd Dafydd Roberts yn eilio, fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Atgoffodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y Pwyllgor, er budd cysondeb, ei fod wedi gwrthod cais yn gynharach yn Llangristiolus a oedd yn dderbyniol o dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol oherwydd ei fod yn groes i bolisïau'r CDLl ar y Cyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond, gyda’r Cynghorydd Glyn Haynes yn eilio, y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais tan y cyfarfod nesaf pryd y bydd statws y CDLl ar y Cyd fel ystyriaeth polisi yn eglur, a hefyd oherwydd na chafwyd manylion materion priffordd, ecoleg a draenio. Yn y bleidlais ddilynol cafodd y cynnig i ohirio rhoi sylw i’r cais ei gario.

 

Penderfynwyd gohirio penderfynu ar y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.4 28C541 / ENF - Cais i gadw balconi yn Glyn Garth, 10 Ffordd y Traeth, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Siaradodd Mr Peter Williams (yn erbyn y cynnig) fel cymydog i 10 Ffordd y Traeth a dywedodd fod y balconi y gofynnir am ganiatâd ar ei gyfer tua 1.5m uwchben balconi / teras to ei eiddo ef sydd wedi cael caniatâd. ‘Roedd wedi anfon e-bost i'r adran gyda sylwadau ar 12 Gorffennaf ond nid yw’r sylwadau hynny wedi eu cynnwys yn yr adroddiad; mae'r sylwadau hynny’n nodi ei wrthwynebiad ar y sail nad yw’r sgrinio a ddangosir ar y lluniadau ond yn cuddio'r rhan o'r teras ac, i’r lleygwr, mae’n ymddangos ei fod yn y lle anghywir sy’n edrych dros y garej a gardd yr ymgeisydd. Dywedodd Mr Williams ei fod wedi cael gwybod y byddai'n rhaid sgrinio i uchder o 1.8m ar bob ochr i atal edrych drosodd pan oedd ef yn gwneud cais am ganiatâd ar gyfer ei falconi ef yn 3 Ffordd y Traeth ond eto nid oedd hynny’n ofynnol mewn perthynas â’r cynnig dan sylw. Ychwanegodd Mr Williams nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r balconi yn 10 Ffordd y Traeth cyn belled â bod rhaid i’r balconi hwnnw gwrdd â’r un gofynion â’r balconi yn ei eiddo ef, h.y rhaid sgrinio ar bob ochr er mwyn sicrhau preifatrwydd ac i atal edrych drosodd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod sylwadau Mr Williams wedi cyrraedd ar ôl i’r adroddiad ysgrifenedig gael ei ddrafftio. Dywedodd fod y caniatâd ar gyfer y balconi yn eiddo Mr Williams yn dweud bod rhaid sgrinio’r balconi ar dair ochr tra bod yr argymhelliad ar gyfer y cynnig hwn yn un i  sgrinio ar ddwy ochr. Y rheswm am hynny yw asesiad y swyddog bod angen sgrinio cornel de ddwyreiniol y balconi i liniaru edrych drosodd i'r eiddo yn 9 Ffordd y Traeth, ond nad oes angen  sgrinio ar hyd wal orllewinol y balconi sy’n wynebu cefn Rhes y Traeth sy'n cynnwys eiddo Mr Williams yn 3 Ffordd y Traeth oherwydd y sgrin sydd yno eisoes o gwmpas y balconi yn 3 Ffordd y Traeth a'r pellter gwahanu rhwng y balconi dan sylw yng nghefn yr eiddo ar hyd Rhes y Traeth. Mae amod gyda’r caniatâd ond mater i'r Pwyllgor yw penderfynu a yw'n dymuno ymestyn y trefniadau sgrinio y tu hwnt i'r gofyniad a nodir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Dew, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod y balconi wedi ei godi heb ganiatâd, ac felly nid oedd unrhyw amodau mewn grym.  Mae'r Cyngor Cymuned fel arfer yn argymell sgrinio priodol mewn ceisiadau o'r fath er mwyn gwarchod mwynderau a phreifatrwydd trigolion cyfagos. Mae'r balconi sy’n destun y cais hwn yn edrych dros gefn eiddo yn Rhes y Traeth ac felly ni fyddai sgrinio yn golygu colli golygfeydd.  Dywedodd y Cynghorydd Dew bod angen tegwch i bawb a gofynnodd i'r Pwyllgor osod amod ar y caniatâd bod raid sgrinio o amgylch y cyfan o’r balconi i uchder o 6 troedfedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd Kenneth Hughes yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog a bod amod sgrinio (01) yn cael ei newid fel bod raid codi sgrîn breifatrwydd 1.8m o uchel ar bob ochr i'r balconi.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar newid amod (01) i'w gwneud yn ofynnol i godi sgrîn breifatrwydd 1.8m o uchder ar bob ochr i'r balconi.

 

12.5 33C315 - Cais llawn i greu trac mynedfa newydd i gerbydau creu ar dir ger Tros y Marian, Lôn Groes, Gaerwen

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o'r datblygiad ar dir sydd ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y datblygiad arfaethedig yn rhan o raglen ehangach o waith sy'n cael ei wneud gan Dŵr Cymru fel ymgymerwr statudol i liniaru llifogydd yn yr ardal. Mae’n cynnwys gwaith ar y garthffos gyhoeddus a gosod tanc storio dan y ddaear i gadw gorlif o'r system. Mae angen y fynedfa i gerbydau a’r ffin pren a gynigir fel rhan o’r cais er mwyn darparu mynediad i'r tanc fel y gellir gwneud gwaith cynnal a chadw arferol. Mae'r cynllun wedi cael ei newid i gwrdd â gofynion yr Awdurdod Priffyrdd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, gyda’r Cynghorydd Eric Jones yn eilio, fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6 46C52D - Cais llawn i godi annedd gan gynnwys mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Tir Nant, Lôn St. Ffraid, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau Aelod Lleol oherwydd pryderon ynglŷn â'r fynedfa i gerbydau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod 3 llythyr ychwanegol o wrthwynebiad i'r cynnig wedi dod i law. Er bod y rhan fwyaf o safle'r cais o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer Trearddur dan Gynllun Lleol Ynys Môn ac o dan y CDU a stopiwyd, dywedodd y swyddog ei fod y tu allan ond yn gyfagos i anheddiad Trearddur dan ddarpariaethau PCYFF 1 a TAI 5 yn y Cynllun Datblygu lleol (CDLl) ar y Cyd. Mae oed y cynllun datblygu a’r ffaith bod darpariaethau diweddarach yn y CDLl ar y Cyd yn golygu nad ystyrir bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol yn yr achos hwn. Felly argymhellir gwrthod y cais. Dywedodd y Swyddog ymhellach fod yr ymgeisydd wedi gofyn i’r Pwyllgor ohirio rhoi sylw i’r cais er mwyn rhoi amser iddo ddiwygio'r cynllun; mae hwn yn fater i'r Pwyllgor benderfynu arno.  Fodd bynnag, o safbwynt y Swyddog, mae'n anodd gweld sut y gellir newid digon ar y cynnig fel ei fod yn cydymffurfio â pholisi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio, fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7 46C254C - Cais llawn i ddymchwel yr annedd bresennol ac i godi dwy annedd newydd yn ei lle yn Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol oherwydd pryderon ynghylch gorddatblygu ar safle amlwg iawn ac effeithiau andwyol ar yr eiddo cyfagos.

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Siaradodd Alaw Griffith (yn erbyn y cynnig) ar ran trigolion yr eiddo cyfagos Bryn Eithin. Dywedodd y byddai'r bwriad yn arwain at orddatblygu ardal pentir agored ac y byddai allan o gymeriad gyda'r eiddo yn y cyffiniau. Nid yw'r cynnig yn cadw at y pellteroedd gwahanu rhwng anheddau a bennir yn Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio 8 ac felly byddai'n cael effaith niweidiol ar fwynderau deiliaid Bryn Eithin yn ogystal ag unrhyw ddeiliaid posib yn y tai arfaethedig. Mae cais tebyg wedi ei wrthod yn flaenorol ar sail gorddatblygu ac nid ystyrir bod y cynnig hwn yn goresgyn y rhesymau dros wrthod bryd hynny. Mae yna faterion draenio y mae angen eu datrys hefyd.

 

Dywedodd Mr Owain Evans (o blaid y cynnig) fod yr adroddiad ysgrifenedig yn gwrthddweud ei hun yn yr hyn y mae'n ei ddatgan am y gofod o amgylch y tai arfaethedig. Mae cymeriad yr anheddau yn yr ardal hon yn amrywio ac mae pedair annedd gyferbyn â'r plot hwn wedi cael eu cymeradwyo yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, un o’r Aelodau Lleol, ei bryderon a’i resymau dros alw’r cais i mewn, gan ddweud fod y cynnig yn gyfystyr â gorddatblygu annerbyniol mewn ardal sensitif.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cynghorydd J. Arwel Roberts, un arall o’r Aelodau Lleol, hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig. O'r ddau gais blaenorol i ddymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd yn ei lle, cafodd un ei wrthod a thynnwyd y llall yn ôl. Mae'r cynllun wedi cael ei newid ers tynnu'r cais yn ôl ym mis Ebrill, 2017 i ymestyn y pellter gwahanu rhwng yr anheddau arfaethedig a'r eiddo cyfagos ac felly mae’r gwrthwynebiadau ar sail yr effeithiau ar fwynderau wedi cael eu lliniaru. Fodd bynnag, ystyrir bod y cynnig yn dal i fod yn annerbyniol gan nad yw'n cydymffurfio â Pholisi TAI 5 y CDLl ar y Cyd mewn perthynas â Thai Marchnad Leol sy'n ceisio cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith ac sy’n berthnasol i aneddiadau yn y cynllun y dangoswyd eu bod dan bwysau. Ystyrir hefyd y bydd yn cael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams, gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio, fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.8 46C578 - Cais llawn ar gyfer addasiadau ac estyniadau i’r Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir sydd  ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod safle'r cais yn rhannol o fewn Parth Risg Llifogydd C2 a bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gofyn am asesiad o ganlyniadau llifogydd i ddangos sut y byddai'r datblygiad yn delio â chanlyniadau llifogydd. Er bod dogfen wedi'i pharatoi, nid yw CNC yn ystyried bod ei chynnwys yn ddigonol i ddangos bod yr estyniad i’r pafiliwn yn ymdrin â'r risgiau’n ddigonol. At hynny, mae creu ardal barcio yn golygu gwneud defnydd bregus newydd o'r safle ac yn cynyddu'r perygl o lifogydd. Er nad oes gan yr Awdurdod Priffyrdd wrthwynebiadau technegol, mae’r asesiad canlyniadau llifogydd wedi methu â dangos y gellir rheoli'r risg yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog bod yr ymgeisydd wedi cael y cyfle i fynd i'r afael â'r pryderon ac nad yw’r ymateb a gafwyd hyd yma wedi bod yn ddigon i leddfu pryderon CNC.  Mae'r ymgynghorai statudol yn argymell gwrthod yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod yr estyniad arfaethedig yn gymedrol ac nad yw'n golygu newid sylweddol. Mae'r Pafiliwn yn cael ei ddefnyddio fel ystafelloedd newid gan y tîm pêl-droed lleol sydd wrth galon pentref Trearddur. Nid yw trigolion lleol ond yn cofio llifogydd yn y Pafiliwn unwaith o'r blaen. Rhoddwyd caniatâd yn ddiweddar i siop fach yng nghefn Gorsaf y Bad Achub yn union wrth lan y môr ac nid oedd yn credu bod unrhyw fesurau lliniaru gyda chodi’r adeilad hwnnw. Yn ogystal, defnydd hamdden a wneir o’r Pafiliwn yn hytrach na defnydd preswyl. Defnyddiwyd arian cyhoeddus ar gyfer y cynnig a byddai’n drueni mawr i wastraffu’r arian hwnnw ac byddai’n resyn i'r gymuned pe bai’r cais yn cael ei wrthod.

 

Er yr ystyrir bod y cais ynddo’i hun yn dderbyniol, eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y pryderon yn ymwneud â'r perygl o lifogydd. Dywedodd y Swyddog bod adroddiad yr ymgeisydd y darllenodd hi rannau ohono’n cadarnhau'r perygl o lifogydd ar y safle. Mae paragraff 6.2 yn NCT 15 yn nodi'r meini prawf ar gyfer cyfiawnhau datblygiadau ym Mharthau C1 ac C2; mae’r cynnig yn cwrdd â’r meini prawf hynny ac eithrio nad yw'r asesiad yn dangos y gellir delio’n ddigonol â chanlyniadau llifogydd.

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar y cais ceisiodd y Pwyllgor sefydlu natur a maint y perygl o lifogydd a'r effeithiau tebygol. Dygwyd sylw at y ffaith fod adeilad y Pafiliwn a’r perygl o lifogydd yn bodoli ers blynyddoedd lawer ac felly nid yw'r estyniad arfaethedig yn creu sefyllfa newydd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cynnig yn creu elfen newydd ar ffurf y maes parcio ac o'r herwydd rhaid i'r ymgeisydd ddangos sut mae'r datblygiad yn lliniaru’r risg i lefel dderbyniol.

 

Gan nad yw CNC wedi nodi eu gofynion o ran y math o gamau lliniaru i’w sefydlu, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod opsiwn i'r Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i'r ymgeisydd gyflwyno cynigion i'r perwyl hwn. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi ymateb, ond nad yw’r ymateb hyd yma yn cynnwys ceisio rheoli gemau a chadw rhestr o ddefnyddwyr y maes parcio wedi bod yn foddhaol gan CNC.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail bod adeilad y Pafiliwn wedi bod ar y safle ers blynyddoedd ac nad yw’r cynnig yn newid y perygl o lifogydd. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai angen tystiolaeth dechnegol i gefnogi cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad CNC. Ni chafodd y cynnig ei eilio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, gyda’r Cynghorydd John Griffith yn eilio, y dylid gohirio rhoi sylw i’r cais er mwyn rhoi mwy o amser i’r ymgeisydd ddarparu ymateb a fydd yn bodloni CNC.

Penderfynwyd gohirio penderfynu ar y cais am y rheswm a roddwyd.

Dogfennau ategol: