Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion – Ardal Llangefni – Ymgynghoriad Statudol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Amlinellodd y Deilydd Portffolio Addysg yr argymhellion yn yr adroddiad i’r Pwyllgor ac eglurodd y gwahaniaethau rhwng y ddau opsiwn a roddwyd ymlaen ar gyfer Ymgynghoriad Statudol Ardal Llangefni.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, oherwydd y pwysau ar yr ysgolion yn nhref Llangefni, y penderfynwyd cynnwys y dalgylch hwn o fewn Band A y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Mae gan Ysgol y Graig ac Ysgol Corn Hir eisoes fwy o ddisgyblion na’u capasiti. Cyfeiriodd at y broses ymgynghori ynghyd â nifer o ymatebion a gafwyd yn ardal dalgylch Llangefni gan fudd-ddeiliaid yr ysgolion yn Ysgol Henblas, Ysgol Esceifiog, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Nododd oherwydd caniatâd cynllunio diweddar a roddwyd i ddatblygiad mawr o dai yn Llangefni, ystyriwyd ei bod yn angenrheidiol ail-ymgynghori ar yr opsiynau ynghylch Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Fel Aelod Lleol, mynegodd y Cynghorydd Dylan Rees ei bryderon ynglŷn â’r opsiynau i gau Ysgol Talwrn ac Ysgol Bodffordd gan fod yna farn gref i gadw’r ysgolion hyn ar agor. Cyfeiriodd at y cyhoeddiad diweddar gan Ms. Kirsty Williams AC – Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg, mewn perthynas â’r angen i Gynghorau ystyried pob dewis amgen ymarferol i gau ysgolion gwledig. Dywedodd ymhellach fod cymuned Bodffordd wedi mynegi pryderon, petai’r ysgol yn cau y byddai’r gymuned yn colli’r defnydd cymunedol o adeilad yr ysgol a hefyd yn colli cae chwarae’r ysgol.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod trafodaethau wedi’u cynnal yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2017 ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni. Nododd fod y cymunedau lleol wedi mynegi safbwyntiau cryf.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg ynglŷn â newidiadau o ran cyfyngu’r côd ar gyfer moderneiddio ysgolion a nododd y byddai 18 o’r 47 o ysgolion ar Ynys Môn yn dod o dan y categori ‘ysgolion bach’ o fewn y côd trefniadaeth newydd y mae Gweinidog y Cabinet yn ei gynnig. Nid yw’r newidiadau arfaethedig i’r Côd Trefniadaeth Ysgolion yn cynnwys fawr o newidiadau nad yw’r gwasanaeth eisoes yn eu gwneud fel rhan o’r broses ymgynghori o fewn ei raglen bresennol ar gyfer moderneiddio ysgolion. Fodd bynnag, mae’r Côd diwygiedig yn awgrymu ffactorau ychwanegol y mae angen i’r awdurdod lleol eu hystyried cyn argymell cau ysgolion. Mae’n rhaid i’r protocol ar gyfer cau ysgolion adlewyrchu’r ffaith fod yr awdurdod wedi ystyried cynaladwyedd yr ysgolion bach gan gynnwys edrych ar glystyru, ffederaleiddio ysgolion a defnydd y gymuned o’r ysgolion, a gweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill e.e. yr Awdurdod Iechyd. Mae’r ymgynghoriad yn ardal Llangefni yn cael ei wneud o fewn y Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r prif yrwyr ar gyfer y rhaglen moderneiddio ysgolion yw codi safonau addysg ar gyfer plant yr Ynys. Nododd y byddai’r Awdurdod yn cael ei herio gan Lywodraeth Cymru petai’r holl ffactorau y cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu atynt heb gael eu cynnwys mewn achos busnes cadarn i Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Pwyllgor Gwaith ystyriaeth i’r wybodaeth a gyflwynwyd a mynegodd mai addysg plant ar yr ynys yw’r ffactor pwysicaf wrth ystyried moderneiddio ysgolion. Awgrymwyd y dylid gofyn i’r Adain Eiddo ymchwilio i bosibiliadau o sicrhau defnydd cymunedol i’r ysgol ym Modffordd pe gwneir y penderfyniad i gau’r ysgol yn y dyfodol.

 PENDERFYNWYD:-

 

Mai Opsiwn B yw’r opsiwn a ffafrir a bydd hynny’n ymgorffori:-

 

·           Opsiwn 3 – sef adeiladu ysgol newydd yn lle Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd;

·           Opsiwn 8 – addasiadau i Ysgol Esceifiog, Gaerwen;

·           Opsiwn 7 – bydd angen ymgynghori ymhellach ar yr opsiwn o addasu Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion o Ysgol Talwrn, a chau Ysgol Talwrn;

·           Opsiwn 9 – addasiadau i Ysgol Henblas.

Dogfennau ategol: