Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynglŷn â’r uchod.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i brosiectau o dan y categorïau a ganlyn :-

 

·        Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·        Grantiau Eraill (grantiau bychan unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach, ac felly dim ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol fydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wneud yn dilyn hynny. £8,000 yw uchafswm y grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a hyd at 70% o’r costau cymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu uchafswm a chanran y gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbyniwyd.

 

Mae Swyddogion perthnasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a’r meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiad A sydd ynghlwm i’r adroddiad. Defnyddiwyd system gyfeirio ar y cyd ar gyfer y ddau fath o grant a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; mae unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm.

 

Ystyrir y ceisiadau hyn yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac roedd copi ohono ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.

 

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellir ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2017/18 fel a ganlyn :-

 

001 -

Clwb Pêl Droed Bro Goronwy

Uwchraddio ac adnewyddu’r cawodydd yn yr ystafelloedd newid

DIM

 

(Ddim yn gymwys am fod y clwb wedi derbyn grant yn 2015/16)

 

002 -

Côr Cymunedol Llanddona

Cynorthwyo’r Côr i gynhyrchu cryno ddisg

 

 

£1,395

003 -

Cymdeithas Morisiaid Môn

Cyhoeddi cylchgrawn ‘Tlysau’r Hen Oesoedd’. Datblygu gwefan gyfoes. Cyhoeddi llyfr poblogaidd/cael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol

 

£4,676

 

(Yn amodol ar dderbyn dyfynbrisiau)

004 -

Cymdeithas Hamdden Benllech a’r Cylch

Adnewyddu’r Cwrt Tenis

DIM

 

(Nid yw cynlluniau gwerth dros £30,000 yn gymwys am ystyriaeth)

 

005 -

Clwb Bowlio Biwmares

Gwella cynnal a chadw’r lawnt fowlio drwy brynu casetiau ychwanegol i’r peiriant torri gwair

 

£1,295

006 -

Clwb Henoed Llanfaethlu

Cynorthwyo gyda chostau cludiant i fynd â phensiynwyr ar deithiau

 

£500

 

(Cymeradwyo’r egwyddor, yn amodol ar dderbyn mwy o wybodaeth am y gweithgareddau a chyfraniad gan y rhai sy’n cymryd rhan)

 

007 -

Creatasmile

Darparu sesiynau hwyl i’r teulu ar gyfer plant awtistig/gdd/aur ac anghenion ychwanegol a’u teulu agos

 

£1,750

009 -

Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Llanbedrgoch

Adeiladu Tŷ Crwn Traddodiadol

 

DIM

010 -

Grŵp Cymunedol Amlwch

Gofyn am gefnogaeth ariannol ar gyfer nifer o fentrau

 

£4,200

 

(yn amodol ar dderbyn dyfynbrisiau a phrawf o berchnogaeth neu brydles ar y tir – cyfraniad tuag at yr elfen rhandir yn unig gan nad yw’r ddwy elfen arall yn gymwys)

 

 

 

 

011 -

Gwasanaeth Ysgolion William Mathias Cyf.

Arian tuag at gost Cwrs Haf 2017 i ddisgyblion oedran 10 – 18 oed drwy Wynedd ac Ynys Môn

DIM

 

(Mae’r Gwasanaeth yn derbyn cyllid gan yr Awdurdod ac nid yw’n gymwys gan fod y gweithgareddau’n cynnwys ardal Gwynedd hefyd)

 

012 -

Heneiddio’n Dda

Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Bwrdd Heneiddio’n Dda a’r Canolfannau Trefi

DIM

 

(Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

 

013 -

Cyngor Cymuned Bryngwran

Ffensio ychwanegol i’r cae chwarae

 

£2,524

014 -

Clwb Pêl Droed Fali

Prynu pyst gôl symudol

£1,329

 

(yn amodol ar dderbyn copi o’r cyfansoddiad, polisïau a chyfrifon)

 

015 -

Fforwm Anabledd Taran Cyf.

Cynorthwyo gyda chyflogau staff

DIM

 

(Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

 

016 -

Trigolion Llanddaniel Fab

Arian i ailddatblygu adeilad cymunedol y pentref

 

£8,000

018 -

Cymdeithas MS Gwynedd a Môn

Ariannu dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer pobl sydd â MS

DIM

 

(Derbyniwyd grant gan yr Ymddiriedolaeth yn 2015/16)

 

019

Cyfeillion Swtan

Trwsio to gwellt y bwthyn

£1,545

 

 

 

 

 

020

Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn

Arian i gyflogi Swyddog Hyfforddi pwrpasol

 

DIM

 

Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi costau rhedeg)

 

022 -

Canolfan Llanfairynghornwy

Atgyweirio’r Ganolfan

£8,000

 

(yn ddibynnol ar dderbyn ail ddyfynbris ar gyfer y gwaith)

 

023 -

Neuadd Gymuned Penrhoslligwy

Tarmacio’r maes parcio

Tynnwyd y cais yn ôl

 

024 -

Clwb Bowlio Caergybi

Adnewyddu nenfwd y Tŷ Clwb

 

£1,575

025 -

Neuadd yr Eglwys a Chymuned Moelfre

Gosod llwyfan symudol a phrynu byrddau a thaflunydd

 

£3,918

026

Cymdeithas Tir Glas

Cyhoeddi llyfr coffaol a chreu gwefan

 

£3,804

028

Pwyllgor y Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

 

Cyllido darn o waith celf cyhoeddus gan artist lleol i’w arddangos yn yr Eisteddfod ac yna yn Oriel Ynys Môn

 

NIL

 

(Ymddengys fod y cais er budd unigolyn. Codwyd pryder hefyd ynglŷn â chostau cynnal a chadw’r  gwaith celf ar ôl yr Eisteddfod)

 

038

Neuadd Gymunedol Sefydliad y Merched Llaneilian

Darparu cyfleusterau dŵr poeth i olchi dwylo yn y gegin a’r toiledau a gosod toiled newydd

 

£1,050

Y ceisiadau a gyfeiriwyd ymlaen i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol gan y Pwyllgor Adfywio fel a ganlyn :-

 

029 -

Heneiddio’n Dda

Costau rhedeg

 

DIM

 

(Nid yw costau rhedeg yn gymwys i dderbyn cyllid)

 

 

 

 

 

 

030 -

Clwb Pêl Droed Cemaes

Uwchraddio’r llifoleuadau

DIM

 

(Ddim yn gymwys oherwydd bod y Clwb wedi derbyn grant ar gyfer llifoleuadau yn 2016/17)

 

031 -

Cwmni Cymunedol Amlwch Cyf.

Prynu offer

DIM

 

(Ni chyflwynwyd prydles yr adeilad, nid oedd cyfrifon blwyddyn ar gael)

 

032 -

Clwb Pêl Droed Llandegfan

Uwchraddio’r cyfleusterau

£7,000

 

(Yn amodol ar weld y brydles a darparu ail ddyfynbris)

 

033 -

Coleg Menai (ar y cyd â Biwmares yn ei Flodau)

Creu gardd goffa

DIM

 

(costau’r cais yn aneglur)

 

034 -

Clwb Criced Porthaethwy

Prynu rholer newydd

£8,000

 

(yn amodol ar dderbyn tystiolaeth gan y Clwb nad oes ganddynt ffynhonnell ariannu arall ar gyfer prynu’r offer)

 

035 -

Y Samariaid

Costau rhedeg

DIM

 

(Nid yw costau rhedeg yn gymwys)

 

 

 

 

036 -

Clwb Gymnasteg Ynys Môn

Offer newydd ar gyfer ehangu’r Clwb

DIM

 

(ddim yn gymwys gan fod y Clwb wedi derbyn grant yn 2016/17)

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau, fel y’i rhestrir uchod (£58,037) [gyferbyn â’r symiau a argymhellir], sy’n cyfateb i gyfradd grant o 70%.

 

Dogfennau ategol: