Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  20C31OB/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch

7.2  31C170E – Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

7.3  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.4  36C351 – Ty Llwyd, Rhostrehwfa

7.5  45LPA1029A/ECON – Morawelon, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1 20C310B / EIA / RE - Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 49.99MW  ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ynghyd ag Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd. 

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd R O Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd wedi dod i law mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac mae’n rhoi cadarnhad ffurfiol o'i gynlluniau a’i bolisïau. Er bod yr amodau a nodir yn yr adroddiad i'r Pwyllgor yn cynnwys y rhan fwyaf o'r polisïau a restrir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,  nid yw Polisi ADN1A (mewn perthynas â cheisiadau PV  Solar o dros 5Mw mewn ardaloedd chwilio posibl) a ddiwygiwyd yn y CDLl ar y Cyd wedi cael sylw llawn o fewn y cais. Felly bydd angen gohirio rhoi sylw i’r cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i Swyddogion ddelio â'r mater hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd KP Hughes bod y cais yn cael ei ohirio ac eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a roddwyd.

 

7.2 31C170E - Cais llawn ar gyfer codi 16 o anheddau (10 o anheddau gyda 2 ystafell wely, 4 annedd gyda 3 ystafell wely a 2 annedd gyda 4 ystafell wely) ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr ar dir ger Hen Lôn Dyfnia, Llanfairpwll

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu  yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu ond mae’r swyddogion cynllunio yn argymell ei ganiatáu.   Cyfeiriwyd y cais hefyd i sylw’r Pwyllgor gan yr Aelodau Lleol.

 

Dywedodd Mr Gwynne Owen (gwrthwynebydd i'r cynnig) ei fod yn ystyried bod y  cynllun safle ar gyfer y cynnig yn gamarweiniol; mae darn o dir sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain nad yw'n rhan o safle Lôn Dyfnia. Gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried y cais hwn mewn modd cyfannol gan y bydd yn cael effaith ar y traffig sy'n teithio allan o hen Lôn Dyfnia yn y dyfodol. Cyfeiriodd at set o luniau lliw a gyflwynodd i’r Pwyllgor diwethaf; mae un llun yn dangos polyn telegraff sydd yn amlwg wedi ei ddifrodi gan geir ar sawl achlysur. Nid yw’r swyddogion na'r aelodau etholedig oedd ar yr ymweliad safle wedi sylweddoli cymaint yw’r traffig yn yr ardal ac mae’n gwaethygu gyda’r nos ac ar benwythnosau; mae damwain yn anochel.  Mae trigolion lleol wedi cwyno wrth Scottish Power ac maent o’r farn bod angen rhoi’r llinellau ffôn a thrydan  dan y ddaear yn yr ardal ac maent wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu cysylltu â'r Awdurdod Cynllunio yn hyn o beth, ond mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd .  Cyfeiriodd Mr Owen at y ffotograffau sy'n dangos llifogydd ar y safle; nid yw’r tir hwn yn draenio'n ddigonol.    ‘Roedd wedi cael ar ddeall bod y datblygwr am fynd i'r afael â'r mater llifogydd gyda thanc i gasglu dŵr ac y byddai unrhyw orlif yn rhedeg i ffos ar yr A55 ond nid oes cadarnhad wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru bod hyn yn dderbyniol.

 

Dywedodd Mr Rhys Davies (o blaid y cais) bod cais am 17 o anheddau wedi ei wneud y llynedd i'r Pwyllgor a bu trafodaethau maith am orddatblygu a draenio a materion priffyrdd yn y cyfarfod. Gwrthodwyd y cais ar y pryd ac aeth y datblygwr i apêl a gwrthodwyd yr apêl honno ar sail un mater penodol yn unig oherwydd ailddatblygu un darn penodol o dir ar y safle. Nododd bod y datblygwr wedi mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y broses apelio a'r gwrthwynebiadau lleol i'r cais.   Mae'r aelodau etholedig newydd bellach wedi ymweld â'r safle fis diwethaf a byddant yn gyfarwydd bellach â'r cais a chefndir y cynnig. Dywedodd Mr Davies y bydd y cynnig hwn yn gwella'r rhwydwaith priffyrdd ar Ffordd Penmynydd; bydd y cynllun yn darparu llwybr troed cyhoeddus y tu allan i'r safle tai arfaethedig a threfniant cyffordd newydd; cynigir adlinio’r briffordd gyhoeddus rhwng Lôn Penmynydd a Hen Lôn Dyfnia; mae’r rhain yn faterion a godwyd yn y cais blaenorol ar gyfer y safle hwn. Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi ymateb nad oes ganddi unrhyw wrthwynebiad i'r gorlif dŵr ddraenio i mewn i gwrs dŵr ger yr A55. Bydd y datblygiad arfaethedig yn darparu tanc storio dŵr ar y safle ar gyfer lifogydd eithafol a bydd cysylltiad i system ffos gerrig ar dir cyfagos a bydd y gorlif yn mynd i draen sy’n arwain at gwrs dŵr ger yr A55.   

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Davies am awgrym a wnaed bod yr ardal yn dueddol o ddioddef llifogydd ac ynghylch gosod tanc casglu dŵr ar y safle; ‘roedd aelodau yn pryderu y byddai dŵr yn sefyll yng ngerddi’r anheddau arfaethedig.  Ymatebodd Mr. Davies fod y mater hwn wedi ei drafod yn fanwl yn ystod yr apêl yn 2016; eglurodd y bydd y tanc casglu dŵr yn cael ei osod gyferbyn â'r safle er mwyn caniatáu i'r dŵr lifo’n araf i’r cwrs dŵr ger yr A55.  Mynegodd Mr Davies bod y system hon wedi cael ei sefydlu ar gyfer cyfnodau o dywydd garw eithafol. Holwyd pwy fydd yn gyfrifol wedyn am y system ddraenio?  Dywedodd Mr Davies y bydd yn fater i'r awdurdod lleol benderfynu a fydd yn mabwysiadu'r system neu bydd angen cyflogi cwmni preifat i gynnal y system ddŵr ac efallai y bydd rhaid codi tâl ar ddeiliaid y tai am y cyfleuster hwnnw. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch yr awgrym y bydd Scottish Power yn tan ddaearu’r llinellau trydan a ffôn yn yr ardal hon ac a fyddai’r ymgeisydd yn rhoi sylw i'r mater hwn. Dywedodd Mr Davies bod y rhain yn faterion technegol ac nad oedd yn hollol sicr pa bolyn telegraff yr oedd y gwrthwynebydd yn cyfeirio ato yn ystod ei anerchiad i'r Pwyllgor.  Ailadroddodd y bydd rhwydwaith priffyrdd ger y safle yn cael ei wella'n sylweddol a bydd tynnu polion telegraff ac ati yn cael sylw bryd hynny.  

 

Fel un o’r Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery bod pryderon oherwydd y problemau dwysedd a llifogydd mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig hwn. ‘Roedd yr Arolygydd Cynllunio wedi cytuno â’r penderfyniad i  wrthod y cais blaenorol ar y safle hwn oherwydd gorddatblygu.  Nododd mai dim ond un annedd yn llai sydd yn y datblygiad hwn o gymharu â’r cais blaenorol gan y datblygwr.  Mae trigolion lleol wedi anfon sylwadau at yr awdurdod ynghylch y diffyg ymgynghori dilys gydag Adran Drafnidiaeth y Cynulliad o ran y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal a sylwadau'r Arolygydd Cynllunio yn ystod y broses apelio.

 

Dywedodd un arall o’r Aelodau Lleol, sef y Cynghorydd R. Meirion Jones fod y  datblygwr wedi cael gwared ar wrych i’r gogledd-ddwyrain o’r safle heb yn gyntaf gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad; cafwyd gwared ar wrychoedd eraill sy’n golygu bod y polion telegraff bellach yn y golwg ac ystyrir eu bod yn rhwystrau ar y palmant ger Lôn Dyfnia. Mae'r ymgeisydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar y safle ar gyfer 11 o anheddau ond nid yw cynyddu dwysedd y safle i 16 eiddo yn dderbyniol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn y tu allan i'r ffin datblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol, ond mae'n cael ei glustnodi fel safle posibl ar gyfer datblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd newydd. Mae'r cais arfaethedig yn awr yn un am 16 o anheddau ac mae’r Swyddogion Cynllunio yn ystyried bod y materion a godwyd mewn apêl yn 2016 wedi cael sylw. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn fanwl i’r Pwyllgor ynghylch sylwadau o ran y costau i'r Cyngor yn dilyn apêl; dywedodd bod y costau a gafwyd yn ymwneud â materion draenio a llifogydd mewn perthynas â'r cais. Nododd fod llythyr ychwanegol o wrthwynebiad wedi ei anfon gan Gyngor Cymuned Llanfairpwll a oedd yn sôn am lifogydd a dŵr wyneb ar y safle ac am orddatblygu’r safle a’i ddwysedd. Mae'r ohebiaeth hefyd yn datgan nad yw’r datblygwyr yn cynnig cyfleusterau chwarae digonol ar gyfer plant na throedffyrdd addas ger y safle.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at drafodaethau a gafwyd gyda'r datblygwr o ran enillion cyfalaf ar gyfer y gymuned leol yn sgil y datblygiad arfaethedig hwn, h.y. tuag at ysgolion cynradd ac uwchradd lleol a chyfleusterau chwarae i blant ynghyd â thai fforddiadwy ar y safle.  Mae trafodaethau'n parhau gyda'r datblygwr yng nghyswllt yr elfen tai fforddiadwy ar y safle ond ar hyn o bryd mae’r datblygwr wedi datgan nad yw ond yn fodlon cynnig 2 annedd fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad arfaethedig er bod y polisi yn datgan bod angen i 30% o ddatblygiad o’r fath fod yn dai fforddiadwy fel y nodir yn y Cynllun Lleol a’r Cynllun Datblygu ar y Cyd.  Mae'r Adran Addysg yn ystyried bod angen i’r cyfraniad cyfalaf ar gyfer cyfleusterau addysg i Ysgol Gynradd Llanfairpwll fod yn £44k, ynghyd ag £18k tuag at yr ysgol uwchradd leol. Byddai angen cyfraniad hefyd tuag at ardal chwarae i blant ym mhentref Llanfairpwll hefyd.  Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru bellach wedi tynnu ei gwrthwynebiad dros dro yn ôl ac y caiff y Pwyllgor ddod i benderfyniad ar y cais hwn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylid gosod amodau ychwanegol gydag unrhyw ganiatâd a roddir a bydd angen i’r Awdurdod Cynllunio drafod yr amodau hyn ymhellach cyn rhyddhau'r caniatâd cynllunio.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K P Hughes at y problemau llifogydd a godwyd yn y cyfarfod ac roedd yn pryderu y gall bod dŵr wyneb yn cronni yng ngerddi’r datblygiad arfaethedig ar adegau.  Holodd pam oedd y Swyddogion Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais gan ei fod yn ymddangos bod gorlifo’r system yn annerbyniol. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cafwyd trafodaeth fanwl yn yr apêl ynghylch y cais blaenorol ar y safle hwn mewn perthynas â llifogydd a draenio a bod y sefyllfa’n dderbyniol dan bolisïau TAN15 sy'n ymdrin â materion llifogydd. Gosodir tanc storio digonol i ddelio â llifogydd eithafol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Dafydd Roberts. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3 34C304K / 1 / EIA / ECON - Cais Hybrid am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer canolfan beirianneg newydd, meysydd parcio, ardal chwarae i blant a  gwaith cysylltiedig, ynghyd â chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod, ynghyd â lleoedd parcio cysylltiedig a gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn gadawodd y Cynghorydd K P Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn ni chymerodd y Cynghorydd Robin Williams ran yn y drafodaeth na’r bleidlais arno.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn destun Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd ac oherwydd yr argymhellir caniatáu’r cais er ei fod yn tynnu’n groes i’r Cynllun Datblygu. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2017 penderfynwyd ymweld â'r safle a gwnaed hynny ar 15 Mawrth a 9 Mehefin, 2017.

 

Dywedodd Dr. Huw Idris Jones (gwrthwynebydd i'r cynnig) ei fod yn cynrychioli trigolion ardal Penmynydd. Dywedodd eu bod yn cefnogi elfen peirianneg y cais ond bod ganddynt bryderon difrifol ynghylch rhan amlinellol y cais am westy a datblygiadau tai gan na fyddai isadeiledd tref Llangefni yn gallu ymdopi â datblygiad o'r fath . Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch y gallu i ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl yn y cyffiniau.  Mae Safleoedd 4 a 5 y tu allan i'r cynllun datblygu gyda'r ddau yn y safleoedd tir glas. Holodd a fyddai’r  argymhelliad wedi bod yn un o ganiatáu pe bai’r datblygwr wedi cyflwyno cais am westy a thai.  ‘Roedd dros gant o dai wedi cael caniatâd cynllunio yn dilyn apêl ar Stad Tyn Coed yn Llangefni.  Cyfeiriodd at yr elfen o’r cynnig a oedd yn ymwneud â’r Gwesty a dywedodd ei fod o’r farn bod C6 ar yr A55 yn lleoliad mwy addas ar gyfer datblygiad o'r fath.  Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth ddigonol i argaeledd gwasanaethau yn Llangefni, mae’r ysgolion lleol yn llawn ac nid ymgynghorwyd â’ r meddygfeydd.  Mae’r meddygfeydd bellach wedi gwrthwynebu'r elfen datblygiad  tai gan na fyddent yn gallu ymdopi gyda’r cynnydd posib yn eu rhestrau yn sgil mewnlifiad mor fawr o bobl. 

 

Dywedodd Mr Dafydd Evans (o blaid y cais) fod hon yn weledigaeth bwysig gan Coleg Menai ar gyfer ehangu ei gyfleusterau er mwyn caniatáu cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion o Ynys Môn elwa o'r hyfforddiant a gynigir. Nododd bod gwaith ar Ffordd Gyswllt Llangefni ar y Stad Ddiwydiannol bellach wedi dechrau. Efallai y collir y pecyn ariannol sydd ynghlwm wrth y datblygiad hwn os bydd oedi pellach gyda’r datblygiad hwn.  ‘Roedd yn sylweddoli bod pryderon lleol mewn perthynas â’r  datblygiad ac mae’r elfen o'r cais sy’n ymwneud â datblygu tai wedi ei lleihau ac mae rhan o’r tir hwnnw wedi ei ddynodi ar gyfer plannu coed a gwrychoedd er budd preifatrwydd y trigolion lleol.  Cyfeiriodd at y lles cynllunio yn sgil y cynnig hwn gydag estyniad y mae gwir angen amdano i faes parcio yn Ysgol y Graig ac ardal chwarae ar Stad Pencraig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais hwn yn ddatblygiad hyfforddiant pwysig ar gyfer tref Llangefni a thu hwnt. Mae asesiad cynhwysfawr o’r Effaith ar yr  Amgylchedd wedi ei gyflwyno gyda’r cais i roi sylw i effaith y datblygiad ar  isadeiledd tref Llangefni. Mae polisïau cynllunio’n cefnogi datblygiad o'r fath o ran cyflogaeth, hamdden a thai.  Adroddodd y Swyddog ar brif elfennau'r adroddiad i'r Pwyllgor, sef materion tai, yr iaith Gymraeg, tai fforddiadwy, addysg, tirwedd ac   archaeoleg, ecoleg a phriffyrdd.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio ymhellach fod Cyngor Tref Llangefni o blaid y cais i wella'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Ngholeg Menai.  Dywedodd fod yr argymhelliad yn un o ganiatáu yn amodol ar gytundeb Adran 106 bod raid i hyd at 50% o'r anheddau fod yn fforddiadwy ac y gofynnir am gyfraniad ariannol i’r Awdurdod Addysg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees fel un o’r Aelodau Lleol ei fod yn cefnogi gweledigaeth Coleg Menai ar gyfer datblygiad o'r fath.  Fodd bynnag, roedd ganddo amheuon o ran maint a graddfa'r cynnig a’i effaith ar yr amgylchedd, colli coetiroedd  a gwrychoedd pwysig, effaith ar adar sy'n nythu a rhywogaethau a warchodir.  Cyfeiriodd at y straen ar wasanaethau lleol a dywedodd bod y meddygfeydd lleol eisoes dan bwysau a bod yr ysgolion cynradd lleol yn llawn. ‘Roedd o'r farn bod  Safle 4 - datblygiad tai - yn achosi pryderon i drigolion yr ardal ac roedd o’r farn y dylai'r ymgeisydd ystyried gostwng capasiti’r elfen tai arfaethedig yn y cais.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio mai cais amlinellol a wnaed ar gyfer Safle 4 ac y gellir trafod materion perthnasol yn fanwl mewn perthynas â chapasiti’r datblygiad  a'r broses liniaru i leddfu’r effaith ar drigolion lleol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am y posibilrwydd o gynnwys amod i ganiatáu ar gyfer mwy o gyfleusterau ar gyfer y meddygfeydd yn Llangefni petai'r cais yn cael ei gymeradwyo.  Ymatebodd y Prif Swyddog Cynllunio bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb nad ydynt yn credu y byddai problemau sylweddol mewn  perthynas â chapasiti’r meddygfeydd lleol. Nododd mai mater i'r Awdurdod Iechyd ei drafod gyda'r meddygfeydd oedd y materion capasiti.  Holodd y Pwyllgor hefyd a fyddai'r elfen dai yn y cynnig yn dai cymdeithasol.  Ymatebodd y Swyddog y byddai’r cytundeb Adran 106 yn ystyried ai Cymdeithas Dai a fyddai'n ymgymryd â’r elfen dai.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y  Cynghorydd T. Ll Hughes y cynnig. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4 36C351 - Cais llawn i ddymchwel annedd â chodi un newydd yn ei lle, ynghyd â chodi garej a storfa, cau'r fynedfa i gerbydau sy'n gwasanaethu'r annedd bresennol, estyniad i'r cwrtil, newidiadau i'r fynedfa amaethyddol bresennol i wasanaethu'r annedd arfaethedig a chreu mynedfa amaethyddol newydd i'r cae cyfagos yn Tŷ Llwyd, Rhostrehwfa

 

Ar ôl datgan diddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y trafodaethau a’r penderfyniad yn ei gylch.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y tir yn eiddo i'r Cyngor.  Mae'r ymgeisydd hefyd yn ffrind agos i 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Mae'r cais wedi cael sylw gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

 

Yn y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 14 Mehefin, 2017, penderfynwyd ymweld â'r safle ac fe wnaed hynny ar  21 Mehefin, 2017.

 

Dywedodd Mr Dafydd Jones (o blaid y cais) mai cynnig yw hwn i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd. Nododd na fu unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig gan ddeiliaid eiddo cyfagos a bod y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio. Nododd bod y storfa offer wedi ei thynnu o’r cais.

 

Holodd yr aelodau o'r Pwyllgor a ellid fod wedi addasu ac ymestyn yr annedd bresennol. Atebodd Mr Jones y byddai addasu ac ymestyn yr annedd bresennol wedi bod yn ddrud iawn i’r datblygwr ac ystyriwyd y byddai dymchwel yr eiddo ac adeiladu annedd newydd yn fwy cost effeithiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod polisïau cynllunio yn cefnogi cynigion i ddymchwel annedd a chodi un arall yn ei lle ar yr amod y gellir dangos y bydd yr annedd newydd yn gwella golwg yr ardal yn sylweddol. Nododd nad oedd yr annedd bresennol yn Adeilad Rhestredig ac felly argymhellir caniatáu.

 

‘Roedd y Cynghorydd John Griffith yn pryderu y byddai'r datblygiad arfaethedig yn sylweddol fwy na'r annedd bresennol ac na fyddai'n cydweddu ag eiddo cyfagos o ran maint a dwysedd. Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei wrthod.  Eiliodd y Cynghorydd T. Ll Hughes y cynnig i wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.

 

Yn dilyn y bleidlais wedi hynny: -

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.5 45LPA1029A / CC / ECON - Cais llawn ar gyfer codi ysgol gynradd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Morawelon, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin, 2017 penderfynwyd ymweld â'r safle a gwnaed hynny ar 22 Mehefin, 2017.

 

Dywedodd Mr Nigel Mathews  (gwrthwynebydd i'r cais) fod y lleoliad a ddewiswyd ar gyfer codi ysgol gynradd newydd yn Niwbwrch y tu allan i ffin datblygu'r pentref. Nododd yr ystyrir bod y fynedfa i'r safle yn beryglus.  Dywedodd Mr Matthews fod gan Niwbwrch statws anheddiad hanesyddol pwysig ac y byddai datblygiad o'r fath yn cael effaith andwyol ar y dirwedd a thwristiaeth yn yr ardal. Nododd y bu anghysondebau yn ystod yr ymgynghoriad ar y cais hwn a bod y mater wedi cael ei gyfeirio at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bod yn hyderus y dilynwyd proses ymgynghori ddilys mewn perthynas â'r cais hwn. Mae safle'r cais y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref ond mae ar gyrion y ffin honno ac felly mae’n dderbyniol gan fod  polisïau cynlluniau datblygu yn cefnogi codi adeiladau ac adnoddau cymunedol o fewn neu ar gyrion aneddiadau.  Mae codi ysgol gynradd newydd yn rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a bydd ynddi 180 o ddisgyblion yn sgil cau Ysgolion Cynradd Niwbwrch, Llangaffo, Dwyran a Bodorgan. ‘Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn dymuno diweddaru adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor mewn perthynas ag ymateb a gafwyd bellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod yn fodlon ag effaith y goleuadau ar ystlumod a gosodir amod ychwanegol mewn perthynas â goleuo’r safle. Mae Gwasanaethau Archeolegol Gwynedd hefyd wedi cadarnhau bod yna olion hanesyddol ar y safle a bod angen gosod amod bod raid cwblhau’r gwaith archeolegol cyn dechrau datblygu’r safle.

 

Holodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a allai safle arall o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch gymryd yr ysgol newydd. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr Awdurdod Addysg wedi edrych ar 11 safle posib ar gyfer lleoli'r ysgol newydd fel rhan o'r broses ymgynghori sydd wedi digwydd mewn perthynas â Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Er bod y gwrthwynebydd i'r cais hwn wedi dweud bod safleoedd eraill yn yr ardal a fyddai'n fwy addas; rhaid i'r Pwyllgor ddelio â'r cais sydd wedi ei gyflwyno i'w ystyried.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Shaun Redmond y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ynghyd ag amodau ychwanegol fel sy'n ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: