Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  15C224/AD – Cilfan yn Hermon

12.2  34C694BCanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

12.3  46C137FYr Hen Gae Criced, Bae Trearddur

Cofnodion:

12.1 15C224 / AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo i gefn y gilfan yn Hermon

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd yr ystyrir bod y bwrdd arddangos cymunedol ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bod wedi dod i’r amlwg nad oedd y tir ym mherchnogaeth y Cyngor a bydd angen cyflwyno hysbysiad statudol angenrheidiol i’r tirfeddiannwr.  Os bydd y tirfeddiannwr yn cytuno y gellir codi’r bwrdd arddangos ar y tir ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori statudol dywedodd y gellir rhoi grym i weithredu i swyddogion  ganiatáu'r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol i’r tirfeddiannwr ac eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais a dirprwyo'r grym i weithredu i Swyddogion gymeradwyo’r cais yn dilyn cyflwyno’r hysbysiad statudol gofynnol i’r tirfeddiannwr.

 

12.2 34C694B - Cais llawn i greu parc chwaraeon trefol ar dir ger Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor sydd biau safle'r cais.

 

Safodd y Cynghorydd Nicola Roberts i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer yr ystyriaeth ar y cais hwn fel y gallai siarad fel Aelod Lleol. Aeth y Cynghorydd R O Jones, Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem.

 

Dywedodd Mr Peter Davies (o blaid y cais) mai ef oedd Cyfarwyddwr Menter Gymdeithasol Llangefni a nododd bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ym mis Mai 2016 ar gyfer parc chwaraeon trefol ym Mhlas Arthur, Llangefni ac ar gyfer cynllun goleuo ar y safle. ’Roedd y cynllun goleuo yn cyflawni un o'r amodau ar y caniatâd cynllunio a roddwyd ym Mai 2016.  Gwnaed cais am gyllid grant i'r Gronfa Loteri Fawr ym mis Gorffennaf 2016 i adeiladu Parc Chwaraeon Trefol. Ym mis Chwefror 2017 derbyniwyd cadarnhad bod y fenter wedi llwyddo i sicrhau cyllid o tua £375k ond ar yr amod bod y gwaith o adeiladu'r cyfleuster yn dechrau erbyn 16 Awst , 2017. Heb ganiatâd cynllunio'r mae’r fenter mewn perygl o golli'r arian grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Ers cael gwybod bod y cais am gyllid grant wedi llwyddo ‘roedd gwaith wedi dechrau i edrych i mewn i'r cynllun a gymeradwywyd eisoes ac i gynnal yr arolygon angenrheidiol ar y safle.  Dangosodd arolwg topograffig bod y tir yn goleddfu mwy tuag at yr ymyl ogledd-ddwyreiniol nag y sylweddolwyd yn gynharach.  ‘Roedd y llethr yn golygu bod posibilrwydd y byddai dŵr wyneb yn cronni ar y safle ac felly roedd angen ei ail ddylunio cyn y cyfarfod hwn fel y gwelir yn y cais.  Dywedodd Mr Davies ymhellach bod problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r parc sglefrio gwreiddiol ac ar ôl cael cyngor gan Heddlu Gogledd Cymru penderfynwyd bod llinellau gwelededd clir ar draws y parc chwaraeon trefol yn atal pobl rhag ymgynnull mewn mannau lle gallent guddio. Mae cyflwyno system teledu cylch cyfyng hefyd yn rhan o'r ymdrech i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod o bryder i drigolion cyfagos. Mae'r cynllun goleuo a gynigir yn awr yn cynnwys lefelau lux is na'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol. Dywedodd hefyd y bydd system gwynion yn ei lle i ddelio ag unrhyw broblemau a all godi yn y parc.

 

Fel un o’r Aelodau Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees mai ef oedd Cadeirydd Prosiect y Parc Chwaraeon Trefol ac y byddai'n gadael y Pwyllgor yn dilyn ei anerchiad i'r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Rees bod y prosiect bellach ar waith i ddechrau adeiladu yn amodol ar gael caniatâd cynllunio yn y cyfarfod hwn.  Mae'r holl fesurau wedi cael eu sefydlu i fynd i'r afael â phryderon yr eiddo cyfagos.  Gofynnodd i'r Pwyllgor gefnogi'r cais.

 

Dywedodd un arall o’r Aelodau Lleol, y Cynghorydd Nicola Roberts, ei bod hithau hefyd yn cefnogi’r cais a bod angen cefnogi Sefydliadau Gwirfoddol fel y grŵp sydd y tu ôl i'r Parc Chwaraeon Trefol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais presennol yn gais diwygiedig a bod y cylchyn pêl-fasged wedi ei ail-leoli ac y gwnaed rhai newidiadau i'r math o gyfarpar ar y safle. Mae lefelau lux y system oleuo ar y safle wedi gostwng yn sylweddol ers y cais cynllunio blaenorol ond mae angen 2 polyn golau arall er mwyn gwasgaru’r golau’n gyfartal ar y safle. Bydd y golau o'r cais presennol yn cael llai o effaith ar yr ardal gyfagos na'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol.  Dywedodd fod yr adroddiad cyfrwymol newydd gan yr Arolygydd Cynllunio wedi ei gyhoeddi mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bod polisi cynllunio newydd ISR2 wedi ei gynnwys yn y cynllun sy'n cefnogi datblygiad  cymunedol o'r fath o fewn ac ar gyrion trefi. Mae Swyddog Amgylcheddol wedi ystyried y cais hwn mewn perthynas â goleuadau o'r safle ac argymhellwyd amod na fydd goleuadau allanol ymlaen rhwng 21:30 a 09:00 ar y diwrnod canlynol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 46C137F - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer codi 18 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau yn yr Hen Gae  Criced, Lôn St. Ffraid, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelodau Lleol.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r bleidlais arno.

 

Dywedodd Mr Rhys Davies (o blaid y cais) fod lefelau’r safle wedi eu codi yn unol â chaniatâd a roddwyd ar y safle o’r blaen. Dywedodd nad yw'r safle yn awr o fewn y Parth Llifogydd C2 ym mapiau parthau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwnaed nifer o geisiadau cynllunio ar y safle ac apeliadau yn erbyn penderfyniadau.  Bydd y cais hwn yn lleddfu pryderon lleol o ran materion draenio a llifogydd i eiddo cyfagos. Bydd y fynedfa i’r safle ar gyfer cerbydau yn cael ei symud o gymharu â’r cais a gymeradwywyd eisoes ar gyfer y datblygiad hwn.  Dywedodd Mr Davies mai’r rheswm dros argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais hwn yw bod adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd Cynllunio ar y Polisi Cynllunio ar y Cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dweud fod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin anheddiad y cynllun a ffiniau Trearddur yn narpariaethau Polisi HP3 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. 

 

Holwyd Mr Davies gan y Pwyllgor ynghylch y ddarpariaeth tai fforddiadwy ar y safle a gwerth marchnad yr eiddo hynny. Ymatebodd Mr. Davies y bydd 30% o’r tai yn rhai fforddiadwy fel sy'n ofynnol. Cyfeiriodd at adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor oedd yn nodi bod y Gwasanaeth Tai wedi dweud bod yna alw mawr am dai fforddiadwy yn yr ardal hon a bydd gwerth yr anheddau’n cael ei benderfynu o fewn y cytundeb A106 ac y bydd angen ei drafod pan gyflwynir cais cynllunio llawn.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gwrthwynebiadau cryf yn lleol i'r cais hwn oherwydd materion llifogydd a gorddatblygiad. Rhoddodd ddiweddariad ar adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor trwy ddweud nad oedd asiant yr ymgeisydd wedi cyflwyno Asesiad o’r Effaith Ecolegol na'r effaith ar yr AHNE nac Asesiad Iaith Gymraeg na chadarnhad ynglŷn â chodi lefelau'r safle. Nododd nad oedd yr ymgeisydd wedi llwyddo mewn apêl ar ôl i Lywodraeth Cymru alw’r cais am 34 annedd i mewn yn 2006. Fodd bynnag, dywedodd yr Arolygydd Cynllunio fod y cynnig yn unol â pholisïau’r cynllun datblygu mewn perthynas â ffiniau aneddiadau, tai fforddiadwy ac roedd hefyd yn ystyried bod anheddau 3 llawr mewn blociau o 3 i 4 yn dderbyniol yn y lleoliad arfordirol hwn. Mae caniatâd cynllunio amlinellol eisoes ar gyfer 17 o anheddau ar y safle.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach nad oes gwrthwynebiad i'r cynnig gan yr Awdurdod Priffyrdd a bod dwysedd y safle yn dderbyniol.  Er bod y safle o fewn y ffin ddatblygu yn y Cynllun Lleol mae’r tu allan i’r ffin ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd dan ddarpariaethau polisi HP3 ac nid yw wedi ei gynnwys o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar gyfer datblygu. Argymhellir gwrthod y cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd K P Hughes a oedd yn gynamserol i wneud penderfyniad yn seiliedig ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd newydd gan nad yw wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor llawn eto. Nododd bod 17 o dai eisoes wedi eu cymeradwyo ar y safle hwn.  Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod

adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd Cynllunio wedi cael ei gyhoeddi mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac ni fydd y polisïau o fewn y cynllun  yn newid oni bai bod y Cyngor yn gwrthod mabwysiadu'r Cynllun. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas, sef un o’r Aelodau Lleol, fod  gwrthwynebiad cryf gan drigolion Trearddur i'r cais hwn. Mae'r Cyngor Cymuned hefyd wedi mynegi ei wrthwynebiad i'r datblygiad.  Nododd y bu cynnydd mewn trafnidiaeth yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd poblogrwydd bwytai a siopau bwyd newydd yn y pentref ac roedd o’r farn bod angen i'r Awdurdod Priffyrdd ailymweld â'r ardal i werthuso'r materion priffyrdd. Mae'r fynedfa arfaethedig i'r safle yn agos i Swyddfa Bost brysur ac mae’r traffig yn drwm yno bob amser.   Dywedodd y Cynghorydd Thomas mai materion llifogydd yw’r prif bryderon yn yr ardal. 

 

Ailadroddodd y Cynghorydd T. Ll Hughes MBE bryderon a gwrthwynebiadau’r gymuned leol i'r cais hwn. Dywedodd bod y rhan hon o Drearddur wedi cael profiad o broblemau llifogydd aruthrol dros y blynyddoedd. ‘Roedd ganddo bryderon am y Lasinwen yn gorlifo’r ardal yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r cais am 18 o dai ychwanegol ar y safle hwn yn annerbyniol gan nad oes angen lleol am dai o'r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shaun Redmond bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

Ymataliodd y Cynghorydd K P Hughes rhag pleidleisio gan nad oedd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi cael ei gymeradwyo eto gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais gyda rheswm diwygiedig dros wrthod gan gymryd i ystyriaeth adroddiad cyfrwymol yr Arolygydd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dogfennau ategol: