Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 – Chwarter 1

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor am y chwarter cyntaf ym mlwyddyn ariannol 2017/18 ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa a ragamcennir am y flwyddyn gyfan.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid, yn seiliedig ar y wybodaeth hyd yma, mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcennir ar gyfer 2017/18 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £2.119m sy’n 1.68% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2017/18. Roedd y sefyllfa ariannol dros dro ar gyfer 2016/17 wedi arwain at falansau cyffredinol o £8.697m ar ddechrau’r flwyddyn (yn amodol ar gael eu harchwilio). Fodd bynnag, mae perygl y bydd angen defnyddio £2m o’r swm o £8.697m i dalu hawliadau Tâl Cyfartalefallai y bydd y Cyngor yn gallu cyfalafu’r taliadau hyn ond mae hynny’n ddibynnol ar gyfarwyddyd cyfalafu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion yr amrywiadau sylweddol yng nghyllidebau gwasanaethau ond nid yw’n cynnwys effaith gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf ynghyd ag effaith y contract newydd ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd sy’n debygol o gostio mwy. Mae risg felly y gall y gorwariant fod yn uwch na £2.19m. Y pwysau mwyaf ar gyllidebau yw cost Rhiantu Corfforaethol, ac mae disgwyl i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd orwario £2.106m. Os daw hyn oll yn wir, bydd y gronfa wrth gefn gyffredinol yn cael ei rhoi dan gryn bwysau. Dewis arall yn hytrach nag ariannu’r gorwariant o’r gronfa wrth gefn fyddai adolygu cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, sy’n werth £13.357m. Byddai hynny’n fodd o adnabod unrhyw gronfeydd wrth gefn nad oes eu hangen mwyach neu rai nad ydynt yn cwrdd â blaenoriaethau’r Cyngor o ystyried y sefyllfa ariannol anodd y mae’r Cyngor yn debygol o fod ynddi ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, yn achos rhai cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi, ni ellir ond eu defnyddio at bwrpas penodol e.e. y cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u datganoli i’r ysgolion neu gronfeydd wrth gefn a ariennir gan grant.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod Chwarter 1 yn gynnar yn y flwyddyn ariannol a gall llawer o bethau ddigwydd yn y cyfnod rhwng nawr a diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn amlygu’r risg y bydd gwasanaethau, rhai bach a mawr, dan bwysau i ddarparu gwasanaethau o fewn eu cyllidebau. Mae unrhyw gapasiti sbâr o fewn cyllidebau gwasanaethau wedi hen fynd ar ôl blynyddoedd lawer o arbedion effeithlonrwydd, a golyga hynny bod unrhyw wariant dirybudd yn ystod y flwyddyn yn debygol o beri gwasanaethau i orwario.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y sefyllfa a nododd hefyd y gallai rhai meysydd e.e. y gyllideb ar gyfer cludiant ysgol/tacsis elwa o gael eu craffu’n agosach a’u rheoli’n fwy llym. Er i’r Pwyllgor Gwaith nodi fod costau asiantaeth ac ymgynghorwyr yn gymharol uchel ar gyfer y chwarter, roedd hefyd yn cydnabod bod rhaid cael staff llanw o Asiantaeth ar brydiau, er enghraifft pan fo trosiant staff neu absenoldebau, ac y defnyddir ymgynghorwyr ar brydiau oherwydd eu harbenigedd penodol ac y cânt eu hariannu’n aml trwy ffynonellau allanol/grantiau ar gyfer y prosiectau maent ynghlwm wrthynt. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y bydd y Panel Cyllid Sgriwtini yn craffu’r modd y caiff cyllidebau eu monitro o dro i dro, a bydd y Panel yn adrodd i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gan amlygu unrhyw faterion o bryder iddo.

 

Penderfynwyd

 

  Nodi’r sefyllfa a amlinellwyd yng nghyswllt y perfformiad ariannol hyd yma

  Cytuno i adolygu’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi er mwyn nodi’r rhai nad ydynt yn flaenoriaeth mwyach ac y gellir eu defnyddio i helpu i ariannu’r gorwariant sylweddol a ragamcennir.

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed.

  Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2017/18.

  Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2017/18.

  Dirprwyo rhyddhau’r Premiwm Dreth Gyngor i’r Swyddog Adran 151 yn seiliedig ar y cyfrifiadau bod y Premiymau wedi eu talu.

Dogfennau ategol: