Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 – 17C513B – Bryn, Llansadwrn

10.2 – 23C262B/VAR - Nyth Clyd Capel, Talwrn

10.3 – 25C240C/VAR – Pen Parc, Carmel

10.4 – 28C373G – Ffordd Stesion, Rhosneigr

10.5 – 30C246K/VAR – Tyn Pwll, Benllech

10.6 – 38C180F/VAR – Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

Cofnodion:

10.1 17C513B – Cais llawn am newidiadau i gais A/289A a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer codi annedd a garej ar dir yn Bryn, Llansadwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod safle'r cais yn y cefn gwlad agored ac  felly’n groes i Bolisi PCYFF1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, fod cais manwl wedi ei gymeradwyo o dan gyfeirnod A/289A ar dir yn Bryn, Llansadwrn. Cyflwynwyd tystysgrif cyfreithlondeb dan gais cyfeirnod 17C51A/LUC a ddarparodd dystiolaeth bod y sylfeini ar gyfer byngalo wedi cael eu cloddio. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd wedi diogelu'r caniatâd a gymeradwywyd o dan gais A/289. O gofio bod y dystysgrif yn gyfreithlon, ystyrir bod yr egwyddor o newid dyluniad yr annedd yn dderbyniol. Nid ystyrir y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr eiddo cyfagos a adwaenir fel ‘Bryn’. Rhoddir amod ar y caniatâd fel y bydd ffenestri'r llawr cyntaf yn y drychiad gogledd-ddwyreiniol yn rhai â gwydr aneglur, a hynny er mwyn lliniaru unrhyw edrych drosodd i eiddo cyfagos. Mae'r Cyngor Cymuned wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y cais. O ystyried y ffaith fod gan safle'r cais ganiatâd cynllunio eisoes, sy’n opsiwn wrth gefn, ynghyd â’r ystyriaethau perthnasol eraill, mae'r argymhelliad yn un o ganiatáu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r  caniatâd blaenorol.

 

10.2 23C262B/VAR – Cais o dan Adran 75 i amrywio amod (11) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 23C262A (Rhaid gweithredu’r datblygiad yn gwbl unol â'r hyn a ddangosir yn y cynlluniau a gyflwynwyd o dan gyfeirnod 23C262A) er mwyn addasu  ac ymestyn ysgubor i greu annedd 3 ystafell wely yn Nyth Clyd Capel, Talwrn

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn tynnu’n  groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr egwyddor o ddatblygu'r safle eisoes wedi'i sefydlu dan gais cynllunio 23C262A lle rhoddwyd caniatâd ar 13 Mai, 2013 i addasu ac ymestyn ysgubor i greu annedd 3 ystafell wely yn Nyth Clyd, Talwrn. Mae'r CDLl ar y Cyd yn datgan na chaniateir addasu adeiladau traddodiadol er defnydd preswyl ac eithrio at  ddibenion cyflogaeth neu, os nad yw hynny'n opsiwn, er mwyn darparu uned fforddiadwy. Fodd bynnag, o gofio bod gan safle'r cais ganiatâd cynllunio eisoes i addasu adeilad allanol yn annedd, ac yn wyneb y ffaith yr ystyrir bod y gwelliannau a gynigir o dan y cais cyfredol yn welliant ar y cynnig gwreiddiol gan eu bod yn gostwng nifer yr estyniadau i'r adeilad allanol ac yn cynnal nodweddion pensaernïol yr adeilad allanol gwreiddiol i raddau helaethach na'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol, mae'r argymhelliad yn un o ganiatáu gydag amodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r  caniatâd blaenorol.

 

10.3 25C240C/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (04) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 25C240B (codi annedd) er mwyn newid y dyluniad yn Pen Parc, Carmel

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cynnig yn tynnu’n  groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod yr ymgyngoreion statudol wedi ymateb nad oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y cais. Nid oes gan y Cyngor Cymuned  unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig. Adroddodd y Swyddog fod Carmel bellach yn cael ei nodi fel clwstwr ers mabwysiadu'r CDLl ar y Cyd ac felly bod rhaid i unrhyw annedd newydd fod ar gyfer cwrdd ag angen lleol ac ar safle mewnlenwi. Er bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisïau'r CDLl ar y Cyd o ran lleoliad, nid yw’n cwrdd â gofynion Polisi TAI6 o ran fforddiadwyedd. Fodd bynnag, mae caniatâd cynllunio llawn eisoes ar y safle i godi annedd a gymeradwywyd ym mis Tachwedd, 2015 o dan gais cynllunio 25C240B; felly, mae’r egwyddor o godi annedd wedi'i sefydlu eisoes. Yn ogystal, mae'r cais cyfredol yn lleihau maint yr annedd arfaethedig i annedd unllawr sy'n golygu y bydd yn cyd-fynd yn llawer gwell â'r math o ddatblygiadau sydd yn yr ardal ar hyn o bryd ac y bydd yn cael llai o effaith ar eiddo cyfagos na’r adeilad math dormer a gymeradwywyd o dan y cynllun gwreiddiol. Wedi ystyried yr uchod, argymhelliad y Swyddog yw caniatáu gydag amodau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r caniatâd blaenorol.

 

10.4 28C373G – Cais llawn i godi tri thŷ tref 3 llawr sy'n cynnwys balconïau a thri o dai ar wahân sy'n cynnwys balconïau ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd ar dir yn Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i’r  Cynllun Datblygu ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod y cais yn groes i ddarpariaethau polisi TAI 5 (Marchnad Dai Leol), fod yr egwyddor o ddatblygiad preswyl wedi'i sefydlu ar safle'r cais a bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli, y ddau ar gyfer 8 uned. Mae'r cais cyfredol yn cynnig 6 uned yn lle 8, sy’n lleihau dwysedd y datblygiad. Gwnaed newidiadau i'r cynllun i leihau effaith y datblygiad ar fwynderau preswyl eiddo cyfagos ac er bod rhai gwrthwynebiadau yn parhau ymhlith trigolion yr eiddo gerllaw, mae eraill yn gefnogol yn gyffredinol ar y sail yr ystyrir bod y cynnig hwn yn welliant ar gynlluniau blaenorol. Argymhelliad y Swyddog yw cymeradwyo'r cais.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Dew, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod o blaid y  cynnig, gan dynnu sylw at resymau i gefnogi’r cais megis y cynllun a'r dyluniad gwell, y ffaith bod caniatâd cynllunio ar y safle eisoes a'r gostyngiad yn nifer yr unedau a fydd yn lliniaru effeithiau traffig a pharcio. Yn ogystal, mae'r cymydog agosaf i'r datblygiad bellach yn hapus gyda'r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r caniatâd blaenorol.

 

10.5 30C246K/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 30C246H (codi tair annedd) er mwyn symud lleoliad un annedd (P1) ar dir gyferbyn â Tyn Pwll, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) ond yn un y mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod y cais yn groes i Bolisi TAI 16 y CDLl ar y Cyd, fod yr egwyddor o ddatblygu eisoes wedi'i sefydlu dan gais cynllunio 30C246H am 3 annedd yn Tyn Pwll, Benllech a gymeradwywyd ym mis Tachwedd, 2016. Y newidiadau a gynigir gan y cais cyfredol yw ail-leoli un o'r anheddau (P1) fel ei bod 3m i ffwrdd o ffin y safle yn hytrach nag 1m o'r ffin fel yn y cais a gymeradwywyd yn flaenorol. Ystyrir felly y bydd y cais cyfredol yn cael llai o effaith ar yr eiddo i ochr y datblygiad. Er bod y cynnig yn groes i bolisi, mae'r opsiwn wrth gefn a ddarperir gan y caniatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli ar y safle, yn ogystal â'r gwelliannau yn sgil ail-leoli un o'r anheddau, yn golygu bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r  amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a chytundeb Adran 106 i atal gweithredu’r caniatâd blaenorol.

 

10.6 30C180F/VAR – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 38C180D (cais amlinellol i godi annedd a mynedfa i gerbydau) er mwyn caniatáu mwy o amser i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Gofynnodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, am i’r Pwyllgor ystyried ymweld â'r safle ar y sail y byddai Aelodau'r Pwyllgor, fel Pwyllgor a ailgyfansoddwyd dan y Cyngor newydd, yn elwa o gael gweld safle'r cais.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei gymeradwyo ar 2 Mai, 2013. Roedd yn rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl erbyn 2 Mai, 2016 ond nid yw wedi gwneud. Felly, mae'r ymgeisydd wedi rhedeg allan o amser i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl yn unol ag amodau'r caniatâd amlinellol. Mae'r cais cyfredol o dan Adran 73 mewn gwirionedd yn gais am ganiatâd newydd ac felly rhaid ei benderfynu yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fel y polisi cyfredol perthnasol. Ystyrir bod y cynnig yn groes i Bolisi CYFF1 y CDLl ar y Cyd; cyngor a gynhwysir ym Mholisi Cynllunio Cymru 2016 yn ogystal â TAN 6 – Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Dywedodd y Swyddog nad yw’r opsiwn wrth gefn yn berthnasol yn yr achos hwn, gan nad oes caniatâd llawn wedi ei roi a fyddai wedi dilyn caniatâd ar gyfer materion a gadwyd yn ôl, ac felly nid oes caniatâd yn bodoli eisoes i ddatblygu'r safle ar unwaith. Gan fod y cais yn groes i bolisi, nid oedd yn gweld sut y gallai  ymweld â safle'r cais fod o fudd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws y cymeradwywyd y cais yn 2013. Caffaelwyd y safle gan gwpl ifanc lleol a gwnaethant newidiadau i'r cais gan gredu bod ganddynt gyfnod o bum mlynedd i ddechrau'r gwaith datblygu. Yn anffodus, nid dyna'r achos ac mae'r caniatâd wedi dod i ben .O dan bolisïau cynllunio blaenorol, byddai wedi bod yn bosib rhoi estyniad amser i ganiatáu cyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl fel y gellid dechrau ar y gwaith.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Huws at y Cynllun Datblygu a nododd nad oes cyfeiriad at Fynydd Mechell ynddo. Fodd bynnag, awgrymodd bod y Cynllun yn berthnasol i’r cais hwn gan fod y ffigyrau yn y CDLl ar y Cyd yn dweud bod angen 7,184 o unedau tai, gyda 3,472 ohonynt ym Môn. Ym mis Ebrill, 2016, roedd 783 o'r rheiny wedi'u cymeradwyo ac roedd Gilfach Glyd ymhlith y rheini. Ei dadl hi felly oedd bod Gilfach Glyd wedi'i gofnodi yn y ffigwr o 783 yn y CDLl ar y Cyd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bu gan yr ymgeisydd tan fis Mai 2016 i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl ac felly ‘roedd caniatâd cynllunio amlinellol yn bodoli ar y pryd. Fodd bynnag, hyd yn oed pe bai'r cyfnod amser yn cael ei ymestyn ar gyfer cyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl, mae'n rhaid i'r ymgeisydd wedyn gyflwyno manylion y cais llawn i'w cymeradwyo, a dim ond ar ôl cael y caniatâd hwnnw mae’r ymgeisydd mewn sefyllfa i ddechrau ar y gwaith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid ymweld â’r safle ar y sail y byddai'n golygu y gallai’r Pwyllgor asesu drosto'i hun p'un a yw'r cynnig yn estyniad rhesymol yn yr ardal ai peidio. Eiliodd y Cynghorydd Robin Williams y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.

Dogfennau ategol: