Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 24C345 – Tregarth, Llaneilian

 

7.2 46C578 – Y Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

Cofnodion:

7.1 24C345 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Tregarth, Llaneilian, Amlwch

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Griffiths, fel Aelod Lleol, ei fod ef o’r farn mai cais mewnlenwi oedd hwn ac na fyddai’n niweidio mwynderau cymdogion cyfagos. Nid oedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r cais. Gofynnodd y Cynghorydd Griffiths i’r Pwyllgor ystyried ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi ei leoli mewn Ardal Dirwedd Arbennig yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i bod yn ymyl yr AHNE. Ystyrir y byddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad rhubanaidd a fyddai’n creu nodwedd a fyddai’n anghydnaws â chymeriad a mwynderau’r ardal o’i gwmpas. Ystyrir y byddai’r datblygiad yn groes i’r darpariaethau yn y CDLl ar y Cyd a fabwysiadwyd, sef Polisi TAI 6 ‘Tai mewn Clystyrau’. Nid yw Pengorffwysfa wedi ei nodi fel Clwstwr yma ac o’r herwydd, byddai’n cael ei hystyried fel cefn gwlad agored yn y CDLl ar y Cyd. Dywedodd hefyd bod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2017 er mwyn disgwyl i weld a fyddai Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd yn mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd a fyddai’n disodli’r cynlluniau datblygu cyfredol. Nid oedd y cais yn cynnwys manylion am faterion priffyrdd a draenio ond roedd yr ymgeisydd bellach wedi cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol ac roedd yr Awdurdod Priffyrdd a’r Adain Ddaenio’n fodlon gyda’r cynnig. Yn ogystal, derbyniwyd Adroddiad Ecolegol sy’n dwyn sylw at Bolisi AMG5 y CDLl ar y Cyd o ran yr effaith ar Fioamrywiaeth; byddai’n cael effaith ar gynefin a flaenoriaethir ar y safle hwn a byddai hynny hefyd yn cryfhau’r achos dros wrthod y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  46C578 – Cais llawn i addasu ac ehangu’r Pafiliwn, Lôn Isallt, Trearddur

 

Cyflwynwyd adroddiad ar y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am ei fod yn ymwneud â thir sydd ym meddiant y Cyngor. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi cael ei ohirio yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ymateb i wrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymu (CNC) mewn perthynas â’r asesiad o risg llifogydd ar y safle. Mae’r ymgeisydd wedi ymateb i bryderon CNC ond nid yw’r ymateb yn ddigonol iddynt dynnu eu gwrthwynebiad yn ôl oherwydd nid yw’n dangos y gellir rheoli canlyniadau llifogydd yn dderbyniol yn unol â TAN15.  Mae’r ymgynghorai statudol yn argymell gwrthod y cais yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol. Fodd bynnag, dywedodd bod dyluniad yr estyniadau i adeilad y pafiliwn yn dderbyniol a bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dafydd R. Thomas bod defnydd adloniadol yn cael ei wneud o adeilad y Pafiliwn a’i fod yn siomedig bod argymhelliad i wrthod y maes parcio a’r fynedfa newydd sydd ynghlwm wrth y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond fod y maes parcio arfaethedig wedi ei leoli ar hen gwrt tenis a’i fod wedi drysu ac yn ansicr pam fod problem o ran risg llifogydd. Dywedodd fod system rhybudd buan am lifogydd yn bodoli yn Nhrearddur a phetai’r môr yn llifo dros y lôn, byddai’n rhaid iddo godi’n sylweddol cyn cyrraedd y safle dan sylw. Dywedodd fod giât llifogydd eisoes ar y maes chwarae rhwng safle’r cais a’r wal fôr; gofynnodd a fyddai gosod giât llifogydd ar faes parcio’r Pafiliwn yn lliniaru pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru o ran problemau llifogydd. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei bod, yn y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor hwn, wedi darllen y rhan berthnasol o adroddiad yr ymgeisydd sy’n cadarnhau’r risg llifogydd ar y maes parcio. Mae TAN 15 yn nodi’r meini prawf sy’n ymwneud â risg llifogydd. Nododd na fu unrhyw ddatblygiad cynllunio ar y maes parcio dan sylw a bod raid o’r herwydd ei ystyried fel datblygiad newydd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’n cynghori yn erbyn cymeradwyo’r maes parcio yn seiliedig ar system rhybudd buan heb glywed beth sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’w ddweud am hyn yn y lle cyntaf.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid cymeradwyo’r cais a hynny o ran ymestyn adeilad presennol y pafiliwn a chreu mynedfa a maes parcio newydd. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Shaun Redmond.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Caniatáu’r estyniad i’r pafiliwn presennol yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig;

 

·      Caniatáu creu mynedfa a maes parcio newyddo yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ystyriwyd bod y maes parcio gyferbyn â safle’r cais eisoes yn bodoli.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi i Swyddogion y cyfle i baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo’r cais).

 

Dogfennau ategol: