Eitem Rhaglen

Pryderon, Cwynion a Chwythu'r Chwiban 2016/17

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol am 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro a oedd yn nodi’r materion yn codi o dan Bolisi Pryderon a Chwynion y Cyngor ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill, 2016 i 31 Mawrth, 2017 ynghyd â chrynodeb o faterion chwythu chwiban a nodwyd yn ystod yr un cyfnod. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cwynion Gwasnaethau Cymdeithasol ond dim ond y rhai hynny lle nad oedd yr achwynydd yn ddefnyddiwr gwasanaeth. Mae cwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael sylw dan y Polisi Gwasnaethau Cymdeithasol - Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion ar gyfer Plant ac Oedolion ac fe adroddir yn ôl arnynt bobl blwyddyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. 

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro fel a ganlyn

 

           Bod 191 o bryderon wedi dod i law a bod 74 o gwynion wedi eu gwneud yn ystod cyfnod yr adroddiad. O’r 74 o gwynion, ni chafodd 3 eu dilyn i fyny am y rhesymau a amlinellwyd gan olygu felly yr ymchwiliwyd i 71 o gwynion ac yr anfonwyd ymatebion ffurfiol i’r achwynwyr. 

           O’r 71 o gwynion a gafodd sylw yn ystod y cyfnod, cafodd 12 eu cadarnhau yn llawn; cafodd 10 eu cadarnhau yn rhannol ac ni chadarnhawyd 48 o’r cwynion. Cyfeiriwyd 24 o gwynion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ond ni dderbyniwyd unrhyw un ar gyfer ymchwiliad. O’r cwynion i’r OGCC, roedd 12 wedi derbyn sylw drwy’r broses fewnol yn ystod 2016/17 tra bo’r 12 a oedd yn weddill wedi mynd â’u cwynion yn syth at yr OGCC. 

           Cafwyd cynnydd o 12 yn nifer y cwynion a gafwyd ers y 59 a gafwyd yn 2015/16. Mae rhai gwasanaethau wedi cael cwynion am y tro cyntaf; mae rhai wedi cael cwynion am gynnydd mewn ffioedd, eraill o ganlyniad i newid mewn polisi e.e. casgliadau sbwriel bob 3 wythnos a chodi tâl am finiau newydd a gyflwynwyd gan y Gwasanaethau Rheoli Gwastraff. Arweiniodd y newidiadau hyn at gynnydd yn nifer y galwadau ffôn i’r gwasanaeth ac o ganlyniad cafwyd pryderon a chwynion am yr amser yr oedd yn gymryd i ateb galwadau. 

           Yn gyffredinol, ymatebwyd, ymatebwyd i 93% o’r cwynion o fewn yr amserlen benodol o 20 diwrnod gwaith. Pan fydd ymatebion yn hwyr, disgwylir i’r gwasnaeth anfon ymateb dros dro i’r achwynydd er mwyn eu hysbysu o’r cynnydd, y rheswm am yr oedi a’r cyfnod ymateb disgwyliedig.

           Darperir crynodeb o gwynion yn ôl gwasanaeth ym mharagraff 8 o’r adroddiad.

           O ddadansoddi’r uchod, roedd 21% o’r cwynion a gafwyd yn ganlyniad i bryderon a uwchgyfeiriwyd; cafodd 72% o gwynion eu gwneud yn uniongyrchol i’r broses fewnol ffurfiol a chafodd y 7% sy’n weddill eu hanfon at y Cyngor gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan ei fod wedi gwrthod rhoi sylw iddynt hed nes i brosesau mewnol y Cyngor ar gyfer delio â chwynion gael ei gweithredu yn y lle cyntaf. 

           Mae’r Polisi Pryderon a Chwynion yn rhoi pwyslais ar ddysgu gwersi o gwynion a gwella gwasanaethau o ganlyniad. Mae atodiad 1 yr adroddiad yn ceisio edrych pa wersi sydd wedi eu dysgu a pha arferion sydd wedi datblygu o ganlyniad. Fodd bynnag, heblaw am y materion Rheoli Gwastraff a adroddwyd arnynt yn yr adroddiad diwethaf a’r materion Rheoli Gwastraff a nodwyd eleni o ganlyniad i newidiadau polisi sy’n awgrymu y dylid cynllunio ymlaen llaw ar gyfer unrhyw newidiadau polisi sy’n effeithio ar y cyhoedd yn uniongyrchol, nid oes unrhyw batrwm arall i’r cwynion a gafwyd gan y gwasanaethau eraill. Un neges gorfforaethol glir yw’r fantais o hysbysu’r achwynydd am gynnydd y materion a godwyd.  

           Mae adran 10 yr adroddiad yn crynhoi’r cwynion a wnaed i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chanlyniadau hynny.

           Mae Adran 11 yr adroddiad yn crynhoi’r cwynion am Aelodau. Adroddir ar y rhain mewn mwy o fanylder i’r Pwyllgor Safonau.

           Mae Adran 16 o’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r cwynion chwythu chwiban a adroddwyd gan wasanaethau ar gyfer y cyfnod o dan sylw.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn bod yr adroddiad yn darparu sicrwydd rhesymol bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r broses angenrheidiol o dan ei Bolisi Pryderon a Chwynion a’i Bolisi / Canllawiau Chwythu Chwiban.

           Derbyn a nodi’r Gwersi a Ddysgwyd yn Atodiad 1 yr Adroddiad heb unrhyw sylwadau pellach. 

           Cymeradwyo hepgor y data canmoliaeth o adroddiadau’r dyfodol ac y dylid adrodd ar y rhain a’’u trafod mewn Adolygiadau Gwasanaeth.

           Nodi’r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad Archwilio MewnolDiwylliant Moesegol Cyngor Sir Ynys Môn – mewn perthynas â’r ffaithnad yw’r Cyngor yn cofnodi datgeliadau Chwythu Chwiban yn ganolog” a “bod risg na fydd y Cyngor yn adnabod tueddiadau ac yn gweithredu’n brydlon” ac i nodi hefyd y bydd hyn yn fater i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ei benderfynu.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL.

Dogfennau ategol: