Eitem Rhaglen

Cynllun y Cyngor 2017-2022

Cyflwyno Cynllun y Cyngor am 2017 to 2022.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol a oedd yn ymgorffori Cynllun drafft y Cyngor am y cyfnod o 2017 i 2022.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod Cynllun y Cyngor yn ddogfen strategol allweddol sy'n amlinellu nodau ac amcanion Cyngor Sir Ynys Môn am y cyfnod pum mlynedd nesaf. Y ddogfen fydd y prif yrrwr y tu ôl i benderfyniadau'r Cyngor yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys sut mae'n siapio ei gyllideb, sut mae'n datblygu ei strategaethau a sut mae'n cynllunio ei wasanaethau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y ddogfen yn amlinellu blaenoriaethau'r Cyngor am y pum mlynedd nesaf; bydd y Cynllun yn gyfrwng hollbwysig ar gyfer rheoli a gwerthuso perfformiad y Cyngor, gan gynnwys sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn atebol am y gwaith y mae'n ei wneud. Efallai y bydd y Pwyllgor yn dymuno ystyried a yw'r Cynllun yn rhoi cyfeiriad clir i waith y Cyngor am y cyfnod dan sylw; a yw’n ddigon penodol yn y blaenoriaethau y mae'n eu cyflwyno ac a yw'n darparu fframwaith eglur a chryf ar gyfer adolygu perfformiad y Cyngor dros y pum mlynedd. Wrth ddatblygu Cynllun y Cyngor, rhoddwyd ystyriaeth i'r goblygiadau cost o ran gwireddu blaenoriaethau'r Cyngor a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â datblygiad y Cynllun Ariannol Tymor Canol. Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth hefyd wedi pennu amcanion penodol dros dair blynedd a fydd o gymorth i gyflawni'r Cynllun cyffredinol.

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r Cynllun ac fe’i derbyniwyd ar yr amod ei fod yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod ar y trywydd iawn; cynigiwyd ac eiliwyd ei fod yn cael ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini i'w adolygu o fewn blwyddyn. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant y dylid adolygu Cynllun y Cyngor o fewn 6 mis yn enwedig o safbwynt ariannol ac am y rheswm y gallai aros am 12 mis olygu colli cyfle i adnabod a chywiro unrhyw lithriad posib.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod adolygiad ar ôl 12 mis yn debygol o roi darlun eglurach a mwy cyfansawdd o sut mae’r gwaith o weithredu'r Cynllun yn esblygu. O safbwynt ariannol ni chredir bod goblygiadau cyllidebol sylweddol i'r Cynllun ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod y Cynllun yn cynnwys cyfuniad o brosiectau sydd i'w hariannu o'r cyllidebau refeniw presennol. Os gwelir, wrth weithredu’r Cynllun hwnnw, fod angen cyllid refeniw ychwanegol yna bydd hynny'n cael ei gynnwys yn y gyllideb flynyddol, neu os yng nghanol y flwyddyn, caiff sylw trwy'r broses ddemocrataidd arferol lle gofynnir am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith. Yn achos unrhyw brosiectau cyfalaf sy'n bwydo i mewn i'r rhaglen gyfalaf, mae'r rhaglen gyfalaf hefyd yn destun gwaith monitro chwarterol rheolaidd drwy'r Pwyllgor Gwaith. O ran prosiectau sy’n gysylltiedig â’r CRT, mae yna gynllun busnes ar gyfer y CRT sy'n cael ei fonitro gan y Bwrdd Gwasanaethau Tai; mae'r gyllideb CRT hefyd yn cael ei monitro gan y Pwyllgor Gwaith. Felly mae prosesau monitro ariannol wedi eu sefydlu a fydd yn helpu i sicrhau bod y Cynllun yn aros ar y trywydd iawn yn ariannol. Yn ogystal, gan fod Cynllun y Cyngor yn gynllun pum mlynedd, mae'n annhebygol y bydd cynnydd sylweddol wedi'i wneud erbyn diwedd 6 mis o ran gwariant gwirioneddol; mae'n debygol y bydd trefniadau cynllunio yn cael eu gwneud fel rhan o'r cyfnod cychwynnol hwn. Nid yw hyn yn golygu nad yw'r Cynllun yn cael ei gyflawni ond bod y gwariant o reidrwydd yn dilyn ymlaen o gamau eraill. Yn ei farn broffesiynol ef byddai cynnal adolygiad mewn 12 mis yn fwy manteisiol nag ar ôl 6 mis ym mlwyddyn gyntaf y Cynllun.

 

Ar ôl ystyried barn y Swyddogion, ac ar ôl trafodaeth bellach, pleidleisiodd y Pwyllgor i dderbyn Cynllun y Cyngor, a bod y Pwyllgor yn adolygu gweithrediad y cynllun ar ôl 12 mis, gan gadw mewn cof hefyd y gellid cynnal yr adolygiad yn gynt os oes angen. (Ymataliodd y Cadeirydd rhag pleidleisio).

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun y Cyngor fel y cyflwynwyd ef a’i anfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith am argymhelliad ffurfiol i'r Cyngor, a bod y Pwyllgor Sgriwtini yn adolygu gweithrediad y Cynllun ar ôl 12 mis.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL: Trefnu i adolygu Cynllun y Cyngor ar ddiwedd y 12 mis.

 

Dogfennau ategol: